Skip to main content

AstudioCymraeg

Myfyrio ar Flwyddyn 4 o’r Cwrs Meddygaeth: Rhan 2

1 Chwefror 2023

Croeso i’r ail ran o’r blog hwn am flwyddyn 4 o’r cwrs Meddygaeth. Bydd y rhan yma’n canolbwyntio ar yr ail floc wnes i ei gwblhau yn ystod blwyddyn 4, y bloc merched, teulu a phlentyn, lleoliad wnes i gwblhau y rhan fwyaf ohono yn ysbyty Merthyr. Cliciwch yma er mwyn darllen rhan cyntaf y blog sy’n trafod y bloc meddygaeth seicolegol, niwrowyddoniaeth ac offthalmoleg. Os ydych chi wedi darllen fy mlogiau blaenorol, byddwch yn gwybod bod gen i ddiddordeb mawr mewn gyrfa mewn paediatreg a iechyd plant ac felly roeddwn yn edrych ymlaen yn fawr iawn ar gyfer y lleoliad yma. 

Gair am derminoleg a chyfathrebu: Yn draddodiadol, mae adrannau mamolaeth wedi cyfeirio at ‘ferched’ yn hytrach na ‘chleifion’ er mwyn pwysleisio bod beichiogrwydd a genedigaeth yn brosesau normal a ddim yn salwch. Wrth gwrs, gall beichiogrwydd effeithio ar afiechydon eraill ac achosi rhai afiechydon unigryw. Wrth i gymdeithas ddod yn le mwy goddefgarol, rydym yn sylweddoli bod pob person beichiog ddim yn cysidro eu hunain yn ferched. Yn y blog yma, felly, byddaf yn cyfeirio at ‘bobl beichiog’. Pan fo beichiogrwydd neu enedigaeth wedi arwain at salwch, byddaf yn cyfeirio at ‘gleifion’. 

Roedd y lleoliad 8 wythnos yma yn cael ei rannu’n ddau, gyda’r gwyliau nadolig yn y canol. Cychwynais i’r bloc, felly, yn cwblhau 4 wythnos yn yr adran obstetreg a gynaecoleg. Roedd yn cynnwys cysgodi bydwragedd a meddygon yn yr adrannau cyn-geni, ward esgor ac ward ôl-geni yn ogystal â chyfleoedd i ymuno a’r tîm ar-alwad ar gyfer gynaecoleg, clinigau cleifion allanol a llawfeddygaeth. Treuliais i’r wythnos cyntaf yn cysgodi’r bydwragedd ac mi ges i gyfle i sgwrsio gyda phobl beichiog am eu beichiogrwydd ac eu hanes obstetrig yn ogystal â dysgu sut i archwilio abdomen beichiog a darllen olrhain o guriad calon ffetws. Fel pob lleoliad arall, mae rhestr ganddon ni o dasgau i’w cwblhau sy’n cynnwys trafodaethau achos, archwiliadau corfforol a sgiliau gweithdrefnol. Mi gymrais i gyfleoedd, felly, i ymweld â’r ward ôl-geni er mwyn sgwrsio â chleifion oedd unai yn sâl yn ystod beichiogrwydd neu’n aros y ar y ward oherwydd rhyw broblem. Roedd hefyd cyfleoedd y dynnu gwaed a rhoi pigiadau gwrthgeulydd. 

Roedd fy ail wythnos yn bennaf ar y ward esgor. Roedd y tîm meddygol, oedd yn newid pob dydd, yn cynnwys ymgynghorydd obstetreg y gynaecoleg, cofrestrydd oedd yn gyfrifol am y ward esgor a meddyg ifanc oedd yn gyfrifol am y ward ôl-geni. Roeddwn i’n tueddu i dreulio un diwrnod ar y ward esgor a’r nesaf ar y ward ôl-geni felly roedd cyfle i gysgodi’r cofrestrydd yn asesu pobl oedd yn esgor, yn cynnwys mynd i’r theatr llawfeddygol os oedd angen cynnal toriad Cesaraidd, yn ogystal â chysgodi’r meddyg ifanc yn asesu a gofalu am bobl ar ôl-geni oedd yn aros ar y ward oherwydd rhyw broblem neu oherwydd bod y tîm paediatreg yn trin y baban newydd-anedig. 

Yn ystod y trydydd wythnos, roeddwn i’n ymuno a’r tîm ar-alwad gynaecoleg. Roedd y tîm hwn yn bennaf yn asesu cleifion yn yr adran argyfwng ac adran asesu cyn-geni ond roedd ganddyn nhw hefyd rai cleifion ar ward llawfeddygol oedd yn cael eu gweld ar daith ward pob bore. Roedd cyfle, felly, i gymryd hannes a chynnal archwiliad corfforol yn yr adran brys cyn cynnig beth oedd y diagnosis a dylunio cynllun triniaeth. Roedd hyn yn rhywbeth roeddwn i wedi arfer hefo yn ystod blwyddyn 3 ar y llwybr addysg wledig ac roedd yn braf gallu ymarfer y sgiliau yma mewn cyd-destyn arbenigol. Mi ges i hefyd gyfle i fynd i ysbyty Llantrisant yn ystod yr wythnos yma er mwyn ymuno â chlinig gynaecoleg ac ymuno â thaith ward yn gweld cleifion oedd wedi derbyn llawdriniaeth gynaecolegol yno.

Yn anffodus, doedd hi ddim yn bosib i mi fynychu’r wythnos olaf o’r lleoliad obstetreg a gynaecoleg, sef yr wythnos llawfeddygaeth, gan fod fy ffrind rydw i’n byw gyda hi wedi profi’n bositif am COVID-19. Treuliais i’r wythnos adref yn cwblhau adnoddau ar-lein am obstetreg a gynaecoleg, yn cynnwys cwestiynau ymarfer ac adnoddau cymryd hanes ar-lein. Er mwyn dal i fyny gyda’r elfennau llawfeddygol, mi es i yn ôl i ysbyty Llantrisant yn ystod yr ‘wythnos dal y fyny’, sef y drydydd wythnos o’r gwyliau nadolig, er mwyn ymuno â rhestr llawfeddygol a gwylio llawdriniaeth. 

Paediatreg a iechyd plant oedd ail hanner y bloc, felly yn ôl i Ferthyr i ymuno â thîm arall ar gyfer lleoliad roeddwn i wedi bod yn edrych ymlaen ar ei gyfer ers blynyddoedd (er roedd y llwybr addysg wledig yn ffordd gwych o gael profiad yn asesu plant mewn cyd-destun meddygfa!). Unwaith eto, roedd y lleoliad wedi ei rannu’n 4 wythnos, y cyntaf ar yr uned newydd-anedig, yr ail ar y ward plant, y trydydd ar yr uned asesu plant a’r olaf mewn clinigau yn ysbyty Llantrisant. 

Roedd y tîm yn hyfryd ac roedd cyfle i weld plant yn yr uned asesu a chymryd hanes, cynal archwiliad corfforol a meddwl am pa brofion a thriniaethau i’w trefnu cyn trafod yr achos gyda meddyg. Roedd yna hefyd gyfle i ddewis clinigau i fynd iddyn nhw ac felly mi ges i ddatblygu fy niddordeb mewn cardioleg paediatrig trwy fynd i’r clinigau calon ac arswylwi’r ymgynghorwyr a sganiau o’r galon yn osygtal â thrafod themâu cardioleg paediatrig gyda’r ymgynghorwyr. Roedd yn braf bod yr ymgynghorydd ar-alwad ar gyfer yr uned newydd anedig yn ein wythnos cyntaf ar-alwad ar gyfer y ward ar yr ail wythnos ac yn cynnal clinigau ar yr wythnos olaf felly mi wnes i ddod i’w nhabod hi’n dda. Mae yna fudd mawr mewn treulio amser gyda’r un meddyg: mae nhw’n dod i wybod ar ba lefel ydyn ni, beth rydyn ni’n wybod yn barod, maent yn gallu gosod gwaith darllen i ni a gofyn beth wnaethon ni ddysgu. Wrth gwrs nid yw hyn yn bosib os yw’r meddygon yn newid pob dydd.

Yn ystod y lleoliadau obstetreg a gynaecoleg a phaediatreg, roedd yna gwrs o sesiynau tiwtorial defnyddiol oedd yn cael eu dosbarthu ar-lein gan ein goruchwylwyr clinigol. Roedd rhain yn debyg i’r sesiynau dysgu trwy achosion ym mlynyddoedd 1 a 2 gydag achosion clinigol i’w trafod a ffocws ar ddiagnosis, profion a thriniaeth. 

Yn aml mae myfyrwyr meddygaeth yn edrych ymlaen at leoliad yn y maes maent yn meddwl mae nhw eisiau gweithio yno yn y dyfodol ac mae yna gwestiwn pwysig ynglŷn ag os ydyn nhw’n gweld eu hunain yn gwneud y swydd yna yn y dyfofol. Mi ges i amser gwych ar y lleoliad paediatreg ac yn bendant mi wnaeth o wneud i mi hoffi’r arbenigedd hyd yn oed mwy. Mi ges i hefyd amser yn ystod blwyddyn 4 i dreulio amser yn fy arbenigedd penodol o ddiddordeb, cardioleg paediatrig, yn ystod cydran â ddewisir gan y myfyriwr: mwy am hynny mewn blog sydd i ddod! 

Diolch am ddarllen rhan 2 o’r gyfres yma o flogiau’n myfyrio ar flwyddyn 4 o’r cwrs meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Cysylltwch os oes ganddoch chi unrhyw gwestiynau a cadwch olwg ar y dudalen yma am ran 3 a blogiau am flwyddyn 5 a bod ar bwyllgor MedSoc.