Skip to main content

AstudioCymraeg

Myfyrio ar Flwyddyn 4 o’r Cwrs Meddygaeth: Rhan 1

1 Chwefror 2023

Helo! Croeso i flog cyntaf y flwyddyn academaidd hon (22/23)! Os ydych chi’n newydd i’r blog, Shôn ydw i, myfyriwr meddygol yn wreiddiol o Lanfairpwll, Ynys Môn. Byddaf ym mlwyddyn 5 o’r cwrs Meddygaeth yng Nghaerdydd y flwyddyn hon ar ôl i mi gwblhau’r Llwybr Addysg Wledig ym Mangor ym mlwyddyn 3 a chwblhau gradd ymsang mewn Ffarmacoleg rhwng blynyddoedd 3 a 4 o’r cwrs. Mae blwyddyn 4 o’r cwrs Meddygaeth yn flwyddyn prysur felly wnes i ddim blogio flwyddyn diwethaf. Mae gen i lwyth i sôn amdano wrtho chi felly a bydd y blog cyntaf yma yn cael ei rannu’r sawl rhan wrth i mi fyfyrio ar y flwyddyn academaidd diwethaf. Mae blwyddyn 4 o’r cwrs wedi ei rannu’n dri bloc: meddygaeth seicolegol, niwrowyddoniaeth ac offthalmoleg, merched, teulu a’r plentyn a clefyd cronig 2. Bydd y blogiau cyntaf yma, felly, wedi eu rhannu’n un ar gyfer pob bloc. Yn hwyrach ymlaen yn y flwyddyn, mi wnai sôn am y profiadau rydw i’n eu cael ym mlwyddyn 5. Rydw i hefyd wedi bod yn rhan o bwyllgor Cymdeithas Feddygol y brifysgol (MedSoc Caerdydd) yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, fel ysgrifennydd y flwyddyn diwethaf a llywydd y flwyddyn hon, byddai’n siwr o rannu gyda chi sut brofiad yw hyn ac beth rydyn ni wedi ei gyflawni yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mi fyddai hefyd yn ymgeisio am fy swyddi cyntaf fel meddyg y flwyddyn hon ac mae hynny’n siwr o ddod i fyny yn y blogiau hefyd. Felly, i ffwrdd â ni ar daith o flwyddyn 4 o’r cwrs Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd…

Dechreuodd y flwyddyn gydag wythnos o ddarlithoedd a sesiynau dysgu yng Nghaerdydd. Oherwydd bod effeithiau COVID-19 ar gymdeithas yn dal i’w gweld ym mis Medi 2022, roedd nifer o’r sesiynau hyn ar-lein ac felly roedd posib gwylio rhai o’r sesiynau gyda fy ffrindiau rydw i’n byw gyda nhw yn ein tŷ newydd. Roedd ambell sesiwn wyneb-yn-wyneb yn yr Adeilad Cochrane, yn cynnwys sesiwn sgiliau cyfathrebu, sgiliau pwysig iawn mewn Meddygaeth sy’n gallu cael effaith enfawr ar driniaeth claf. Mae yna sesiynau sgiliau cyfathrebu ym mhob blwyddyn o’r cwrs Meddygaeth, yn cychwyn gyda sgiliau sylfaenol fel cymryd hanes feddygol a rhoi gwybodaeth i gleifion yn y blynyddoedd cynnar a’n adeiladu at drafodaethau mwy cymleth a sefyllfaoedd penodol yn y blynyddoedd hwyrach. Mae’r tiwtor yn egluro’r sgiliau pwysig a sefyllfaoedd ar gychwyn y sesiwn ac yna rydyn ni’n ymarfer y sgiliau gydag actorion sy’n chwarae rôl claf, perthynas neu weithiwr gofal iechyd arall. Mae’r sgiliau rhain yn arbennig o bwysig ar gyfer y lleoliad cyntaf roeddwn i’n ei wneud, Seiciatreg.

Ar ôl wythnos yng Nghaerdydd, felly, es i i fyny i Wrecsam ar y trên cyn cychwyn lleoliad 4 wythnos yn yr uned Seiciatreg yno. Dyma’r tro cyntaf i mi fyw mewn llety ysbyty gan fy mod i’n byw mewn tŷ ar rent pan ym Mangor ym mlwyddyn 3. Am y pythefnos cyntaf yn Wrecsam, dim ond dau ohonon ni oedd yn y fflat ond mi ddaethon ni i ‘nabod y myfyfyrwyr yn y fflatiau eraill yn dda ac roedd y grŵp o fyfyrwyr yn un o fy hoff bethau am y lleoliad. Roedden ni’n trefnu i wylio’r ‘Bake-Off’ yn un o’r fflatiau pob wythnos gyda’r fflat hwnnw yn gyfrifol am y pobi a cafwyd sawl taith i dref Wrecsam i drio’r tafarndai lleol. 

Roedd y lleoliad Seiciatreg ei hun wedi ei drefnu yn wych yn Wrecsam. Roedd chwech o fyfyrwyr yn gwneud y lleoliad ar y pryd, bob un ohonom ni â’n ymgynghorydd seiciatreg ein hunain. Roedd hyn yn ein galluogi ni i fod yn gwneud beth bynnag roedd ein ymgynghorydd yn ei wneud: roedd hyn yn cynnwys clinigau ffôn, clinigau wyneb-yn-wyneb, teithiau ward ac ymweliadau cartref. Golygai hyn fy mod i wedi cwrdd ag amryw o gleifion gyda gwahanol fathau o broblemau iechyd meddwl yn ystod y lleoliad. Roedd y tîm addysg is-raddedig hefyd wedi trefnu sawl lleoliad arbennigol i ni, yn cynnwys gwasanaeth camddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl plant a phobl ifanc, seiciatreg cyswllt a seiciatreg yn yr henoed. Yn ogystal, cafwyd profiad hollol unigryw yn ystod y lleoliad hwn: diwrnod ar leoliad mewn carchar. Mae’n amlwg pan rydych chi’n meddwl amdano, mae yna feddygon, yn cynnwys seiciatregydd, ym mhob carchar, ac anghenion a thriniaeth y boblogaeth o garcharorion yn wahanol i cleifion yn y gymuned. Roedd yn agoriad llygad enfawr i gael gweld i tu mewn i garchar, heb sôn am gael gweld sut mae’r cleifion hyn yn cael eu trin gan y seiciatregydd a gwedill y tîm iechyd meddwl. 

Wedi mis yn Wrecsam, yn ôl i Gaerdydd er mwyn cwblhau ail hanner y bloc sef yr elfennau niwrowyddoniaeth ac offthalmoleg. Roedd y lleoliadau hyn yn cael eu harwain gan gymrodorau addysgu clinigol, meddygon ifanc oedd yn cwblhau swydd am flwyddyn yn ein dysgu ni tra hefyd yn parhau gyda gwaith clinigol yn eu maes o ddiddordeb ond y tu allan i’r fframwaith hyfforddi ffurfiol. Yn ogystal ag wythnos o brofiad clinigol yn yr adranau niwroleg a niwrolawfeddygaeth yn y Ysbyty Athrofaol Cymru, cafwyd ein dysgu am ddau wythnos gan y cymrodorau. Roedd yn braf cael ein dysgu gan feddygon ifanc gan eu bod nhw’n cofio bod yn eich sefyllfa ni yn paratoi am yr arholiadau mawr ar ddiwedd yr ysgol feddygol (sy’n cael eu gwneud ym mlwyddyn 4 yng Nghaerdydd a byddai’n sôn mwy am rhain mewn blog arall yn fuan). Roedden nhw’n canolbwyntio ar gyflyrau pwysig, cyffredin ac yn arbennig ar sut i gynnal archwiliad corfforol da. 

Yn ystod yr wythnos o leoliad niwrowyddoniaeth clinigol, mi ges i amryw o brofiadau. Ar y Dydd Llun, treuliais i’r dydd ar y ward niwrolawfeddygaeth yn cysgodi’r meddygon ifanc ac ymuno a’r daith ward (ac mi ges i ysgrifennu mewn nodiadau ysbyty cleifion am y tro cyntaf). Yna ar y Dydd Mawrth es i draw i Ysbyty Llandochau i ymweld a’r canolfan niwro-adsefydlu, adran yw hon sy’n canolbwyntio ar roi cymorth i gleifion adennill wedi anaf i’r ymenydd neu madruddyn a cheisio i’w galluogi i wneud gymaint ag oedden nhw’n gallu cyn yr anaf â phosib. Roedd tasg wedi ei osod i ni yn ystod ein amser yn yr uned hon i siarad â chlaf a chyflwyno’r achos mewn sesiwn tiwtorial yn hwyrach yn yr wythnos. Ar y Dydd Mercher, mi ges i ymuno â chlinig niwrolawfeddygaeth gydag un o’r ymgynghorwyr. Dyma’r tro cyntaf i mi gael cynnal fy ymgynghoriadau fy hun mewn clinig arbennigol dan oruchwyliaeth. Roeddwn i’n hyderus yn cynnal yr ymgynghoriad eu hun, rhywbeth roeddwn i wedi arfer ei wneud yn ystod y Llwybr Addysg Wledig ym mlwyddyn 3, ond doeddwn i ddim bob tro yn sicr pa gwestiynau i ofyn, beth oedd y diagnosis ac yn bendant pa driniaeth i’w gynnig (tydw i ddim yn niwrolawfeddyg!!). Treuliais i ddiwedd yr wythnos (yn cynnwys Dydd Sul!) ar y wardiau niwroleg a niwrolawfeddygaeth yn cysgodi meddygon ifanc ac ymarfer i sgiliau sy’n bwysig i feddygon ifanc – cymryd hanes gan glaf a chynnal archwiliad corfforol, tynnu gwaed a rhoi caniwla i mewn. Mi wnes i gwrdd ag amryw o gleifion gyda straeon hynod ddiddorol ac mi ges i hyd yn oed mynd i’r theatr lawfeddygol i arsylwi ar lawdriniaeth ar yr ymenydd!

Offthalmoleg oedd ffocws wythnos olaf y bloc. Yr arbennigedd sy’n ymwneud â chyflyrau’r lygad yw hwn ac felly gan mai’r lygad yw’r bilen mwcaidd mwyaf amsugnol yn y corff (ffaith hwyl!), a COVID-19 yn dal i fod o gwmpas ym mhobman ar y pryd, doedd dim posib cael lleoliad yn yr ysbyty. Felly cafwyd wythnos ar Zoom yn dysgu am y llygaid gan y cymrodor addysgu clinigol offthalmoleg a nifer o’i chyd-weithwyr. Roedd digon o amser i gwblhau dysgu hunan-gyfeiriedig yn defnyddio adnoddau oedd wedi eu rhannu gyda ni ar system gyfrifiadurol y brifysgol ac yna roedd tri sesiwn tiwtorial i drafod ein atebion i achosion oedd wedi eu gosod i ni. 

Mae’n bwysig dweud ein bod ni’n cael wythnos o sesiynau dysgu yn y brifysgol cyn ar ar ôl pob bloc sy’n golygu bod pawb yn cychwyn â’r un sylfaen ble bynnag mae nhw’n mynd i gwblhau eu lleoliad. Ar ddiwedd y bloc hwn cafwyd asesiadau ffurfianol (rhai defnyddiol er mwyn ymarfer ond sydd ddim yn cyfri ar gyfer y radd olaf) er mwyn gwirio faint oedden ni wedi ei ddysgu yn ystod ein lleoliadau. Roedd asesiad clinigol er mwyn ymarfer ar gyfer yr ISCE ar ddiwedd y flwyddyn (mwy am hyn mewn blog i ddod) a chwestiynau aml-ddewis.

Dyna ni felly ar gyfer y bloc cyntaf ym mlwyddyn 4, bloc rydw i eisioes wedi ei gwblhau ers bron i flwyddyn! Bydd rhan 2 o’r gyfres ‘Myfyrio ar Flwyddyn 4 y Cwrs Meddygaeth’ yn canolbwyntio ar y bloc merched, teulu a phlant. Os oes ganddoch chi unrhyw gwestiynau am y cwrs Meddygaeth yng Nghaerdydd, boed hynny am gynnwys y blog hwn neu unrhyw elfen arall o’r cwrs, mae croeso i chi gysylltu â fi trwy Unibuddy. Diolch am ddarllen!