Skip to main content

CymraegStudying

Astudio Meddygaeth mewn Cymraeg

13 January 2021

Tra’n astudio Meddygaeth yng Nghaerdydd, rydw i’n derbyn ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i astudio rhan o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn y blog hwn, rwyf am egluro pa rannau o gwrs Meddygaeth C21 sy’n bosib eu gwneud yn y Gymraeg.

Dechreuodd fy mhrofiad o ‘Feddygaeth Cymraeg’ yn fy wythnos cyntaf yn y brifysgol. Cafwyd cyfarfod o’r unarddeg o ysgolorion yn ogystal â rhai o’r tiwtoriaid Cymraeg yn cynnwys ein tiwtor personol. Roedd yn braf cael cyfarfod pawb yn fuan, pobl fydden ni’n siwr o dreulio amser gyda nhw am weddill y cwrs.

Ybsyty Athrofaol Cymru, Caerdydd

Mae’r mwyafrif o weddill blwyddyn un a blwyddyn dau yn cael eu dysgu ar sail achosion (DSA) (Case-Based Learning). Mae cyfanswm o undegsaith o achosion: chwech ym mlwyddyn un ac unarddeg ym mlwyddyn dau. Roedd posib i mi fod mewn grŵp DSA Cymraeg ym mlwyddyn un: roedd unarddeg ohonom yn y grŵp ac roedd hwylusydd Cymraeg. Roedd yr achosion yn ymdrin â phynciau megis anaf i gymal a phoen yn y frest. Ym mlwyddyn dau, roedd pawb mewn grwpiau DSA Saesneg. Erbyn hyn, mae’n bosib gwneud yr holl achosion ar draws y ddwy flynedd mewn Cymraeg: un enghraifft o sut mae Meddygaeth mewn Cymraeg yn datblygu o hyd.

Rhywbeth arall sylweddol sy’n bosib eu gwneud yn y Gymraeg yw cydrannau â ddewisir gan fyfyrwyr (CDF) (Student Selected Components). Ym mlwyddyn un, mae’r rhain yn cynnwys prosiect dyniaethau meddygol, ble roedd rhaid i ni greu darn o waith er mwyn diolch i’r person oedd wedi rhoi ei corff er mwyn i ni ddysgu anatomi, yn osgytal ag adolygiad llenyddiaeth. Er mwyn ysgrifennu adolygiad llenyddiaeth, mae’n rhaid darllen nifer o erthyglau ymchwil mewn maes ac yna eu crynhoi i un adroddiad. Ysgrifenais i fy adolygiad llenyddiaeth ar ffactorau sy’n dylanwadu ar rieni pan yn penderfynu os i roi’r brechlyn brech goch, clwy’r pennau a rwbela (Measles, Mumps, Rubella – MMR) i’w plentyn ond roedd sawl pwnc arall ar gael mewn Cymraeg.

Parc Biwt, Caerdydd

Ym mlwyddyn dau, mae CDF ar ffurf wythnosau profiad. Ar gyfer y ddwy wythnos profiad, rydyn ni’n treulio wythnos mewn maes penodol ac yna’n ysgrifennu adroddiad neu roi cyflwyniad. Treuliais i’r wythnos profiad cyntaf yn edrych ar ‘Iaith mewn Meddygaeth’, yn cyfweld a gwrando ar gyflwyniadau gan wahanol bobl sy’n ymwneud â darpariaeth gofal iechyd Gymraeg yng Nghymru a hefyd yn darllen erthyglau am wasanaethau iechyd ble mae darpariaeth mewn ieithoedd lleiafrifol eraill. Ar gyfer yr ail wythnos profiad, roedd yn bosib i ni drefnu ein prosiect ein hunain. Trefnais i wythnos yn yr uned cardioleg paediatrig yn Ybsyty Atrhofaol Cymru. Mi ges i wythnos wych ar y ward ac mewn clinigau, fy mhrofiad clinigol cyntaf, cyn ysgrifennu adroddiad ar y ffacotrau oedd yn hwyluso a’n rhwystro gofal da. Er bod neb yn yr uned yn siarad Cymraeg, roedd fy nhiwtor yn hapus i drefnu i farcio ar y cŷd gyda siaradwr Cymraeg oedd yn gweithio yn yr ysbyty, felly tydi’r dewis ddim wedi ei gyfyngu gan ble mae siaradwyr Cymraeg.

Parc y Rhath, Caerdydd

Ym mlynyddoedd hwyrach y cwrs, mae CDF yn cynnwys prosiectau ymchwil o fwy o hyd na’r rhai cynharach. Golygai hyn fod posib i ni gynnal ymchwil mewn maes sydd o ddiddordeb i ni. Fel soniais yn y blog am y Llwybr Addysg Wledig (LLAW), mi wnes i fy mhrosiect mewn uned paediatrig gyda thiwtor Cymraeg yn edrych ar ddefnydd gwrth-gyrff penodol mewn atal haint o’r enw bronciolitis mewn babanod sydd â risg uchel o ddioddef o fronciolitis difrifol.

Yn ychwanegol, mae dau brosiect arall sy’n bosib ei wneud mewn Cymraeg ym mlwyddyn tri: y prosiect oncoleg a phrosiect llwybr y claf. Yn y prosiect oncoleg, mae myfyrwyr yn cael eu paru â chlaf sydd â diagnosis o gancr. Yna, rydym yn ymuno â nhw mewn apwyntiadau clinig, sganiau a thriniaeth ac yna’n ysgrifennu adroddiad yn cynnwys hanes y claf, ein myfyrdod ni o’r sefyllfa ac ein dealltwriaeth o wyddoniaeth y cancr a’r driniaeth. Mae prosiect llwybr y claf yn golygu dilyn claf sy’n cael mynediad brys i’r ysbyty trwy eu hamser yn yr ysbyty ac yn ôl i’r gymuned ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o’r ysbyty.

Mae cyfathrebu yn effeithiol gyda chleifion yn bwysig mewn Meddygaeth ac felly mae sesiynau sgiliau cyfathrebu yn rhan pwysig o’r cwrs. Mae sesiynau ychwanegol i’r rhai arferol yn cael eu cynnal mewn Cymraeg, cyfle i ni ymarfer cymryd hanes feddygol, rhannu gwybodaeth a thorri newyddion drwg mewn sesiynau gydag actorion cyn fod rhaid gwneud hyn yn y byd gwirioneddol.

Pont Menai, Porthaethwy, Ynys Môn

Rydw i yn barod wedi rhannu fy mhrofiadau yn ystod fy mlwyddyn ar y LLAW mewn blog blaenorol, ond mae’n bwysig nodi bod hyn hefyd yn gyfle da i ymarfer sgiliau cyfathrebu clinigol yn y Gymraeg. Mi ddarganfyddais wrth gynnal awdit o’r holl ymgynghoriadau gefais i yn ystod y flwyddyn LLAW fod 82% ohonynt mewn Cymraeg. Mae hyn yn fudd ychwanegol i’r rhai ohonoch sy’n cysidro gwneud y LLAW ac eisiau gwella eich sgiliau meddygol yn y Gymraeg.

Gobeithio bod hyn wedi rhoi gwell syniad i chi beth mae astudio Meddygaeth yn y Gymraeg yn ei olygu. Mae croeso i chi awgrymu themâu ar gyfer blogiau’r dyfodol yn y sylwadau isod.