Skip to main content

Adeiladau’r campws

Torri ffiniau, adeiladu pontydd

Torri ffiniau, adeiladu pontydd

Postiwyd ar 22 Mawrth 2021 gan Peter Rawlinson

Mae 'bocs adnoddau' ar gyfer ymchwil ac arloesedd y gwyddorau cymdeithasol ar waith yng nghanol Caerdydd. Dros yr ychydig wythnosau nesaf, mae labordai newydd yn cael eu gosod y tu allan i […]

Agenda Arloesedd Newydd i Gymru 

Agenda Arloesedd Newydd i Gymru 

Postiwyd ar 10 Mawrth 2021 gan Peter Rawlinson

Mae hwn wedi bod yn gyfnod prysur ar gyfer polisi arloesedd y DU gyda'r cyhoeddiad diweddaraf yn cadarnhau cynlluniau ar gyfer llunio Asiantaeth Ymchwilio a Dyfeisio Uwch (ARIA). Mae'r asiantaeth […]

Buddsoddi mewn adferiad ôl-bandemig

Buddsoddi mewn adferiad ôl-bandemig

Postiwyd ar 3 Mawrth 2021 gan Peter Rawlinson

Bydd Campws Arloesedd Caerdydd yn fagnet ar gyfer adferiad ôl-bandemig. Yn y pen draw, bydd ymchwilwyr gwyddorau cymdeithasol, entrepreneuriaid, arweinwyr busnes, cynghorwyr proffesiynol, academyddion a myfyrwyr yn creu, profi a […]

Trawsnewid gwasanaethau gofal llygaid yng Nghymru

Trawsnewid gwasanaethau gofal llygaid yng Nghymru

Postiwyd ar 2 Mawrth 2021 gan Peter Rawlinson

Mae partneriaeth arloesol i ddod ag apwyntiadau gofal llygaid critigol yn agosach at gartrefi cleifion wedi helpu i drawsnewid y gwasanaethau yng Nghymru. Ym mis Rhagfyr 2019, roedd bron i 115,000 o gleifion sydd mewn perygl o golli golwg anadferadwy yn aros am apwyntiad llygad mewn ysbyty yng Nghymru. Dyma optometrydd o Brifysgol Caerdydd, Sharon Beatty yn esbonio sut mae optometryddion y Stryd Fawr, clinigwyr a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i leihau'r baich ar ysbytai.  “Mae poblogaeth sy’n heneiddio yn ogystal â’r risgiau sy’n gysylltiedig â chlefydau fel diabetes yn rysáit ar gyfer pwysau cynyddol ar wasanaethau gofal llygaid. Yn ôl yn 2019, roedd rhestrau aros am apwyntiadau llygaid yn cynyddu - gyda thua 38% o’r rhai ar y rhestr eisoes y tu hwnt i’w dyddiad targed ar gyfer apwyntiad.  Nid oedd modd ehangu capasiti’r ysbytai, felly roedd yn rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio. Trwy Gyflymydd Arloesedd Clinigol Prifysgol Caerdydd, buom yn cydweithio ag Accelerate, sy'n helpu arloeswyr yng Nghymru i roi syniadau ar waith ym maes iechyd a gofal.  Llwyddodd y rhaglen i ddarparu strwythur clir, partneriaid ac amserlen a allai ein helpu i newid pethau - yn gryno, fe wnaethant ein rhoi mewn cysylltiad â'r bobl iawn a allai gefnogi prosiect i sefydlu model clinigol chwyldroadol.  Arweinir Accelerate gan Ganolfan Gwyddorau Bywyd Cymru ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd (Cyflymydd Arloesedd Caerdydd), Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.  Yn hytrach na darparu cyllid neu grantiau, mae'r rhaglen yn cynnig cyfle i fanteisio ar arbenigedd academaidd, dealltwriaeth drylwyr o ecosystem y gwyddorau bywyd, a'r cyfleusterau diweddaraf sydd eu hangen ar arloeswyr ac entrepreneuriaid i wireddu eu syniadau, a dyna'n union roedd ei angen arnom ni.  Gyda diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi datblygu fframwaith gwasanaeth lle mae optometryddion cofrestredig y Stryd Fawr yn cymryd rheolaeth ganiataol dros gleifion golwg risg uchel dynodedig. Mae defnyddio technoleg ddelweddu o'r radd flaenaf, meddalwedd bwrpasol a chofnodion cleifion electronig yn caniatáu i gleifion gael profion yn eu practis optometreg lleol. Mae delweddau a chanlyniadau yn cael eu huwchlwytho er mwyn eu hadolygu gan ymgynghorydd.   Mae'r gweithredoedd wedi cael eu mapio a'u monitro gan fy nghydweithiwr Angharad Hobby, optometrydd a chydymaith ymchwil, a fu’n asesu sut i leddfu pwysau ar wasanaethau offthalmoleg trwy ofal cymunedol. Fel rhan o'r prosiect, cynhaliodd Ms Hobby ymchwil ar brofiadau cleifion ac ymarferwyr i lywio penderfyniadau’r dyfodol ynghylch darparu gofal llygaid yng Nghymru.  Yn ei gyfanrwydd, mae Trawsffurfio Gwasanaethau Gofal Llygaid Cymru yn cefnogi cyfres o wasanaethau peilot newydd i reoli hyd at 9,000 o gleifion dynodedig ar draws pum maes gofal: Glawcoma (atgyfeiriadau newydd a dilynol); Dirywiad Macwlaidd Gwlyb yn gysylltiedig ag Oed; Retinopathi Diabetig a Damweiniau Llygaid Brys.  Mae'r cynllun yn sicrhau cymaint o fanteision: lleihau amseroedd aros, mabwysiadu technolegau newydd, cynyddu capasiti gofal eilaidd i asesu a rheoli cleifion gofal llygaid, sgiliau newydd a hyfforddiant cymhwysedd ar gyfer optometryddion annibynnol, cysylltiadau agosach â gofal eilaidd a allai arwain at ddarpariaeth gwasanaethau ychwanegol gan fentrau optometreg. Yn ogystal, mae wedi cysylltu arbenigedd Prifysgol Caerdydd yn fwy â gofal llygaid yn y gymuned a bydd yn arwain at gyhoeddiadau a adolygir gan gymheiriaid a cipolwg newydd ar economeg iechyd mewn gofal offthalmig.   Cyfrannodd y Cyflymydd Arloesedd Clinigol at brosiect TECSW trwy helpu i nodi […]

Datblygiadau goleuedig    

Datblygiadau goleuedig   

Postiwyd ar 11 Chwefror 2021 gan Peter Rawlinson

Bu i rwystrau 2020 ysgogi gwyddonwyr ledled y byd i oresgyn heriau. Er gwaethaf sefyllfaoedd gweithio cyfyngedig, mae arbenigwyr yn Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS) Prifysgol Caerdydd wedi cael diweddglo llwyddiannus […]

Bancio ar arloesi

Bancio ar arloesi

Postiwyd ar 18 Ionawr 2021 gan Peter Rawlinson

Mae Banc Datblygu Cymru yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd i droi ymchwil yn gynhyrchion a phrosesau sy'n gyrru ffyniant. Gyda'n gilydd, rydyn ni'n rhannu gwybodaeth i feithrin busnesau cartref. Yma, […]

Ydych chi’n un o Arweinwyr AI a Roboteg y Dyfodol?

Ydych chi’n un o Arweinwyr AI a Roboteg y Dyfodol?

Postiwyd ar 11 Ionawr 2021 gan Peter Rawlinson

Pobl a Robotiaid, AI tebyg i bobl, AI Moesegol ac Esboniadwy, Technolegau a Chymdeithas sy'n Canolbwyntio ar bobl ...dyna ambell thema ddyfodolaidd a fydd yn cael eu trafod ymysg eraill […]

Ymateb i her 2020

Postiwyd ar 16 Rhagfyr 2020 gan Peter Rawlinson

https://youtu.be/3OZ_gb2qC3E Er gwaethaf treialon llwm 2020, parhaodd arloesedd yng Nghaerdydd. Ffynnodd partneriaethau, llwyddodd pobl dalentog i sicrhau cyllid ac roedd lleoedd arloesi yn y dyfodol yn anelu'n syth at gael eu cwblhau.   Darparodd Cronfa Arloesedd Ymchwil Cymru HEFCW adnoddau ychwanegol i'w croesawu i gefnogi ein hecosystem piblinell a menter deillio, wedi'i halinio â strategaeth wedi'i hadnewyddu, Y Ffordd Ymlaen - canllaw i helpu'r Brifysgol i chwarae rhan weithredol yn adnewyddiad Cymru ar ôl COVID-19.  Gwnaeth mwy o fyfyrwyr nag erioed o'r blaen ymholiadau am fentora busnes un-i-un yn 2020. Casglodd SPARK - Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithas - fomentwm drwy enillion cyllid a rennir a phrosiectau ymchwil cymdeithasol COVID ar y cyd ar draws grwpiau o aelodau.   Nododd Sefydliad Catalysis Caerdydd a'r Sefydliad ar gyfer Lled-ddargludyddion Cyfansawdd – a fydd yn gwneud eu cartref ar ein campws arloesi yn y dyfodol – lwyddiannau nodedig hefyd.   Yma, rydym yn amlinellu rhai o lwyddiannau arloesedd Caerdydd yn 2020:  Ionawr Y 'grisiau oculus' o ddylunio i realiti Mae Prifysgol Caerdydd yn cymryd cyfran o £18.5 miliwn mewn cyllid ar gyfer hyfforddiant ymchwil ôl-raddedig mewn biowyddorau gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) ar gyfer Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol (DTP).   Mae'r set olaf o 'risiau ocwlws' wedi'i gosod yn adeilad sbarc I spark – Cartref Arloesedd Caerdydd yn y dyfodol, lle mae ymchwilwyr gwyddorau cymdeithasol, myfyrwyr mentrus, sefydliadau allanol ac entrepreneuriaid yn cysylltu, cydweithredu a chreu.   Mae ymchwilwyr Caerdydd yn nodi cysylltiad genynnol newydd â sgitsoffrenia – mae'r astudiaeth fwyaf o'i math yn taflu rhagor o oleuni ar achosion sylfaenol. Mae'r darganfyddiad o gell T newydd yn cynyddu’r gobeithion o therapi canser ‘cyffredinol’.   Mae Sefydliad Catalysis Caerdydd yn cynnal ei chynhadledd flynyddol, gan gyflwyno gweledigaeth ar gyfer twf glân. Ac mae DECIPHer yn datgelu graddfa camddefnyddio sylweddau ymhlith pobl ifanc mewn gofal preswyl.   Chwefror  Caerdydd yn […]

Sbarduno Arloesedd

Sbarduno Arloesedd

Postiwyd ar 15 Hydref 2020 gan Heath Jeffries

Mae COVID-19 a Brexit yn peri cwestiynau cymdeithasol mawr. Gall ymchwil y gwyddorau cymdeithasol fod o gymorth i fusnesau sy'n paratoi ar gyfer taclo'r heriau byd-eang hyn. Yr wythnos nesaf, […]

Sbâr y dychymyg

Sbâr y dychymyg

Postiwyd ar 29 Medi 2020 gan Peter Rawlinson

Gwnaeth fideo drôn recordio pa mor drawiadol yw adeilad sbarc | spark yn ddiweddar – a fydd yn gartref i ymchwilwyr gwyddorau cymdeithasol rhyngddisgyblaethol, myfyrwyr ac amrywiaeth o bartneriaid allanol. […]