Skip to main content

Adeiladau'r campws

Bŵt-camp Dechrau Busnes 2022

8 Gorffennaf 2022

Ar ôl ei ohirio am ddwy flynedd, cynhaliodd tîm Menter a Dechrau Busnes, sy’n rhan o Ddyfodol Myfyrwyr, ei Bŵt-camp yn adeilad newydd sbon Canolfan Bywyd y Myfyrwyr. Y trefnydd Claire Parry-Witchell sy’n adrodd hanes Bŵt-camp 2022.

Daeth deg o fusnesau newydd ym Mhrifysgol Caerdydd ynghyd yn y Bŵt-camp dwys hwn. Dyma dridiau’n llawn dop o bopeth ond sinc y gegin…!

Ymhlith y siaradwyr gwadd arbennig oedd nifer o raddedigion Prifysgol Caerdydd a oedd wedi dod i sôn am eu busnesau anhygoel ac esbonio’u hanesion entrepreneuraidd, er gwaethaf yr holl ffaeleddau. Cafwyd y cyfle hefyd i rwydweithio a chymryd rhan mewn gweithdai.

Roedd y diwrnod olaf yn gyfle i’r busnesau newydd gyflwyno eu syniadau busnes ac ennill gwobr fach. Y gwahaniaeth eleni oedd mai’r myfyrwyr oedd wedi cynllunio a beirniadu’r gweithgaredd cyflwyno syniadau, ac roedd y cwbl yn llwyddiant ysgubol. Roedd y syniadau’n amrywio’n fawr, gan gynnwys uwch-dechnoleg a lles ac roedd dull arloesol yn perthyn i bob un ohonon nhw.

Rwy WRTH FY MODD yn cynnal y digwyddiad hwn ac roedd bod yno wyneb yn wyneb yn beth anhygoel. Rwy wedi gweithio gyda’r rhan fwyaf o’r busnesau newydd ond doeddwn i erioed wedi cwrdd â nhw wyneb yn wyneb. Mae’n rhoi cymaint o bleser eu gweld yn magu hyder yn ystod yr wythnos, nid o ran eu syniadau busnes yn unig ond fel unigolion hefyd. T

Rwy’n meddwl mai’r peth gorau yw eu gwylio’n mynd yn grŵp cadarn ac yn cefnogi ei gilydd. Mae meithrin cyfeillgarwch a rhwydweithiau o bobl o’r un anian yn ased hynod o bwerus.

Mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol. Pan ofynnwyd iddyn nhw ddisgrifio eu profiad mewn gair, dyma oedd ganddyn nhw i’w ddweud: Grymusol, Deffrous, Addysgiadol, Treiddgar, Anhygoel, Ysgogol.

A fyddech chi’n argymell y digwyddiad hwn i fyfyrwyr eraill? ‘Yn bendant! Fyddwn i ddim eisiau i unrhyw un gychwyn ar y llwybr entrepreneuraidd heb wneud y cwrs hwn yn gyntaf – a chafodd cymaint ei ddysgu a’i gyflawni mewn tridiau yn unig. Roedd yn taro’r nodyn cywir, yn llawer o hwyl ac yn ysbrydoli pawb yno ar yr un pryd!’

Os ydych chi’n ystyried dechrau busnes neu hyd yn oed weithio ar eich liwt eich hun, mae pecyn cyfan o gymorth ar gael i fyfyrwyr a graddedigion am hyd at 3 blynedd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Claire Parry-Witchell

Swyddog Menter