Skip to main content

Adeiladau'r campws

Greu atebion ar y cyd ar gyfer problemau pennaf y gymdeithas.

11 Gorffennaf 2022

Roedd gwesteion arbennig o faes arloesedd wedi’i arwain gan ymchwil y gwyddorau cymdeithasol, byd gwleidyddiaeth, y trydydd sector a’r llywodraeth yn bresennol yn y digwyddiad i ddathlu uwch-labordy sbarc|spark newydd Prifysgol Caerdydd i greu atebion ar y cyd ar gyfer problemau pennaf y gymdeithas.

Yn y drydedd gyfres o blogiau* gan y pedwar oedd ar banel y digwyddiad, byddwn yn clywed gan Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru.

Chwaraeodd Adam ran allweddol yn y gwaith o ddatblygu’r weledigaeth ar gyfer sbarc|spark dros y degawd diwethaf. Gan fod sbarc|spark ar agor bellach, fe ofynnon ni iddo mewn cyfweliad sain sut mae’n gweld y prosiect yn datblygu?

“Mae’n anhygoel sefyll yma. Ddeng mlynedd ers i ni ofyn y cwestiwn am y tro cyntaf sut olwg fyddai ar barc gwyddoniaeth gymdeithasol? Rwy’n credu bod sbarc|spark yn gyfle anhygoel i ni, nid yn unig i greu newid yma yng Nghymru, ond i greu llwyfan a chyffro newydd y mae eraill eisoes am ei efelychu.

Mae sbarc|spark yn galluogi cyd-greu a chydgynhyrchu syniadau ym maes polisi cyhoeddus. Mae’n galluogi gwyddonwyr cymdeithasol i weithio ochr yn ochr ag ymarferwyr preifat, gan ddysgu gyda’i gilydd mewn amser real, gan greu ffordd wahanol iawn o wneud gwyddor gymdeithasol, ffordd wahanol iawn o ddatblygu arloesedd cymdeithasol a pholisi cyhoeddus.

Daw sbarc I spark ar adeg pan mae angen ffyrdd newydd o gynhyrchu syniadau i ddatrys problemau mawr y byd. Rwy’n credu bod yr adeilad hwn yn gyfle gwych i Gymru ddod yn ganolfan ymchwil addas ar gyfer datrys rhai o’r problemau mawr hynny y mae’r byd yn eu hwynebu.”

C: Ai dyma’r ffordd roeddech chi’n rhagweld sbarc|spark pan wnaethoch chi feddwl am y cysyniad gwreiddiol blynyddoedd yn ôl? Dod â llawer o rannau gwahanol o gymdeithas at ei gilydd mewn cyfleuster ymchwil, a meddwl am ffyrdd newydd o weithio?

A: “Rwy’n meddwl mai un o’r pethau gwych am yr adeilad hwn yw ei fod, trwy gydleoli gwahanol ddisgyblaethau, a hefyd ymchwil ac ymarfer, wedi cael gwared â’r diwylliant ynysig o fydoedd ar wahân, sydd wedi creu anawsterau ers gymaint o amser.

Mae cyd-leoli a chyd-greu yn rhan annatod o ddyluniad ac adeiladwaith yr adeilad hwn. Mae’r ystod amrywiol o bobl yma yn ymgorffori’r rhyngddisgyblaeth hwnnw, a’r ymdeimlad y gallwn, drwy ymchwil ac ymarferwyr yn cyd-weithio, gynhyrchu syniadau newydd a dysgu gyda’n gilydd. Mae angen i dimau gwahanol fod yn cynllunio ac yn creu yn yr un lle. Dyma’r cyntaf o’r fath yn y byd, ond rwy’n siŵr y bydd y byd yn gwylio’r cynnydd yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod yma yn sbarcIspark.”

C: Mae sbarcIspark yn ddeniadol i ymchwilwyr gwyddorau cymdeithasol, gweision sifil a phobl sy’n sbarduno prosiectau sy’n newid cymdeithas.  Ond mae ganddo hefyd rôl i’w chwarae o ran cefnogi busnesau, busnesau bach a chanolig, cwmnïau deillio, grwpiau cymunedol a busnesau newydd. A oes perygl y gallai fod yn ceisio cefnogi gormod o grwpiau?

“Mae ymchwil gwyddorau cymdeithasol yn rhan mor gynhenid o bron popeth a wnawn. Mae wrth wraidd llywodraeth, wrth wraidd gwasanaethau cyhoeddus, ac yn hanfodol i’r economi.

Mae ymchwil gwyddorau cymdeithasol yn gronfa enfawr o wybodaeth am sut i wneud i bethau weithio’n fwy effeithiol. Rydym yn tueddu i feddwl am arloesedd mewn cyd-destun gwyddoniaeth a thechnoleg ond rydym yn fwyfwy ymwybodol bod arloesi yn llawer ehangach na hynny, gan gwmpasu syniadau anniriaethol, arloesedd cymdeithasol ac arloesedd mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r wybodaeth y mae ymchwil gwyddorau cymdeithasol yn ei chasglu yn elfen allweddol yn y broses o arloesedd mewn gwasanaethau cymdeithasol a chyhoeddus, ond hefyd arloesedd economaidd.

Rydym yn dda iawn am weithredu ar y cyd yng Nghymru. Mae cenhedloedd bach yn lleoedd gwych i greu arloesedd: yn ddigon mawr i chi wneud rhywbeth arwyddocaol, ond yn ddigon bach i chi hoelio’r dysgu. Dyna beth yw’r adeilad hwn, mewn gwirionedd: pwynt gwych mewn rhwydwaith cenedl sy’n dysgu, lle gallwn adeiladu o amgylch y gwyddorau cymdeithasol ond hefyd cysylltu bron popeth yr ydym yn gweithio arno yn ein gwahanol sectorau o gymdeithas.

Mae yna gyfleoedd enfawr i’r adeilad hwn a’r bobl sy’n gweithio ynddo, wneud gwahaniaeth ar lawr gwlad mewn cymunedau trwy gydol y flwyddyn ac yn y degawdau i ddod.”

* Bydd blogiau pellach, sy’n cynnwys yr Athro Julia Black, Cyfarwyddwr Strategol Arloesedd, LSE, Llywydd, yr Academi Brydeinig a Kellie Beirne, Cyfarwyddwr Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, yn dilyn yn yr wythnosau nesaf.