Skip to main content

Adeiladau'r campws

Pam mae pobl yn allweddol ar gyfer newidiadau cymdeithasol

18 Gorffennaf 2022

Roedd gwesteion arbennig o faes arloesedd wedi’i arwain gan ymchwil y gwyddorau cymdeithasol, byd gwleidyddiaeth, y trydydd sector a’r llywodraeth yn bresennol yn y digwyddiad i ddathlu uwch-labordy sbarc|spark newydd Prifysgol Caerdydd i greu atebion ar y cyd ar gyfer problemau pennaf y gymdeithas.

Yn yr ail o gyfres o blogiau* gan y pedwar oedd ar banel y digwyddiad, cawn glywed gan Fozia Irfan, Cyfarwyddwr Plant a Phobl Ifanc BBC Plant mewn Angen.

Trafododd Fozia newid a arweinir gan y gymuned, effaith gyfunol a rôl y byd academaidd a chyllidwyr sy’n gyfranwyr. Tynnodd sylw at yr angen i ddeall pryd i beidio ymyrryd a chaniatáu i bobl wneud y newid y maent yn ei ddymuno.

“Os ydych chi’n gwybod fy nghefndir, rydych chi’n gwybod bod gen i wir ddiddordeb mewn newid cymunedol sy’n seiliedig ar leoedd. Felly, rwy’n siarad yn y digwyddiad hwn, mewn rôl ymarferydd yn hytrach nag academydd neu ymchwilydd.

Mae’r cysyniad o sbarc I spark a’r bwriad i ddod â gwahanol weithredwyr a sectorau i mewn i’r un gofod yn gyffrous iawn.

Mae gen i dair agwedd y byddwn yn annog pobl sy’n gweithio yma i feddwl amdanynt o ran arloesedd sy’n seiliedig ar leoedd a newid a arweinir gan y gymuned.

Y cyntaf yw cymhlethdod a chroestoriadedd. Mae ymchwilwyr a dyngarwyr, a rhai cyllidwyr, yn hoffi ymdrin â symlrwydd, ond mewn gwirionedd mae cymdeithas a phobl yn flêr ac yn gymhleth, ac mae’n anodd iawn gwahanu pethau oddi wrth ei gilydd.

Rwy’n hoffi’r dyfyniad hwn gan Audre Lorde sy’n dweud, “Nid oes y fath beth â brwydr yn seiliedig ar un mater oherwydd nad ydym yn byw bywyd yn seiliedig ar un mater. Rhaid i bopeth fod yn gysylltiedig. Os ydych chi’n delio â thlodi, mae cysylltiad annatod rhyngddo ag iechyd meddwl, â thai, ag addysg: pob un o’r cyfleoedd gwahanol hyn. Rydym yn gweld hyn yn BBC Plant Mewn Angen.

Byddwn yn annog pobl sy’n gweithio yn sbarc I spark i groesawu’r cymhlethdod hwnnw a gweithio gyda hunaniaethau lluosog, a chysylltiadau lluosog rhwng materion.

Mae fy mhwynt nesaf yn ymwneud â chyfraniad, nid priodoli, agwedd rwy’n ei thrafod yn aml wrth ymdrin â chyllido, ond rwy’n credu ei fod hefyd yn berthnasol i’r byd academaidd. A minnau’n gyllidwr neu’n academydd, rwyf am ddelio ag un mater, rhoi un ymyriad ar waith, a chael un canlyniad.

Rwyf am i’r canlyniad hwnnw gael ei gysylltu â’r ymyriad, a’r ymyriad i fod yn gysylltiedig â mi’r ymchwilydd neu’r sefydliad, er mwyn i fi allu honni bod y canlyniad hwnnw’n profi fy ngwerth.  Efallai fod rhywun arall wedi cynnal yr ymchwil neu’r ymyriad, efallai fod mil o resymau gwahanol dros y canlyniad hwnnw, ond rwyf dal eisiau priodoli’r canlyniad i mi fy hun i ddilysu fy mhresenoldeb yn gyllidwr neu’n ymchwilydd.

Mae’n bwysig iawn torri’r cysylltiadau hyn. Mae ymchwil yn dangos ei bod yn anodd hawlio priodoli ar gyfer unrhyw newid unigol neu unrhyw ganlyniad unigol ym mywyd person neu mewn cymdeithas. Mae yna nifer fawr o ffactorau cymhleth sy’n arwain at newid cymdeithasol.

I finnau’n gyllidwr, mae deall mai’r rôl fwyaf defnyddiol i mi’n gyfrannwr, yw ystyried bod cymryd newid yn seiliedig ar leoedd yn golygu chwarae rhan mewn effaith ar y cyd yn hytrach na chanlyniadau unigol, yn fan cychwyn da iawn.

Mae hyn yn fy arwain at fy nhrydydd pwynt ac rwy’n gobeithio nad yw’n ddadleuol. Nid yw dyngarwch yn arwain at newid cymdeithasol. Nid yw’r byd academaidd ac ymchwil yn arwain at newid cymdeithasol. Mae pobl yn creu newid cymdeithasol.

Efallai ei fod yn ymddangos yn gabledd, ond mae’n wahaniaeth pwysig iawn i ni ei ddeall. Yn BBC Plant mewn Angen, rydym yn rhoi cynnig ar gronfa newydd o’r enw Cronfa Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid. Rydym yn cydnabod bod pobl ifanc yn gwybod yr atebion i’w problemau ac mewn gwirionedd, os byddwn yn eu hwyluso a’u hariannu, byddant yn creu’r newid sydd ei angen.

Os ystyriwch y degawdau o ymchwil y mae pawb wedi bod yn ei wneud, degawdau o ddyngarwch, degawdau o lobïo gwleidyddol, mae pobl ifanc a chymunedau wedi cyflawni mwy o newid cymdeithasol yn ystod y pum mlynedd diwethaf nag yr ydym ni yn yr 20 mlynedd diwethaf. Os ydych chi’n meddwl am symudiadau megis #BlackLivesMatter, #metoo a’r newid yn yr hinsawdd, maen nhw wedi cael eu sbarduno gan bobl, gan bobl ifanc, gan gymunedau, yn eithaf aml heb gyllid na sefydliad ymchwil na chefnogaeth ddyngarol. Mae angen i ni weld ble mae’r pŵer a’r egni, a gadael i’r cymunedau hynny arwain y ffordd.

Fy nghyngor olaf ar gyfer yr holl ymchwil hwn sy’n seiliedig ar leoedd, ac sy’n seiliedig ar waith, yw gwybod pryd y dylech gamu i’r adwy, ond yn bwysicach fyth, gwybod pryd mae angen i chi gamu’n ôl.”

* Bydd blogiau pellach yn cynnwys Adam Price, Arweinydd, Plaid Cymru a Kellie Beirne, Cyfarwyddwr Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn dilyn yn yr wythnosau nesaf.