Skip to main content

Adeiladau'r campws

Trin a thrafod y ‘potensial enfawr’ sydd gan sbarc|spark

25 Gorffennaf 2022

Roedd gwesteion arbennig o faes arloesedd dan arweiniad ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol, byd gwleidyddiaeth, y trydydd sector a’r llywodraeth yn bresennol mewn digwyddiad yn ddiweddar i ddathlu sbarc|spark, sef ‘uwch-labordy’ newydd Prifysgol Caerdydd sy’n creu atebion ar y cyd ar gyfer problemau pennaf y gymdeithas.

Yn y drydedd sesiwn mewn cyfres o flogiau, clywn gan yr Athro Julia Black, Llywydd, yr Academi Brydeinig a Chyfarwyddwr Strategol Arloesedd ac Athro’r Gyfraith yn Ysgol Economeg a Gwyddorau Gwleidyddol Llundain. Mewn cyfweliad sain, dechreuon ni drwy ofyn i Julia beth oedd ei barn am sbarc|spark fel lle i weithio pan ymwelodd hi â’r adeilad.

“Eich argraffiadau cyffredinol cyntaf? Wow. Rwy’n genfigennus. Mae’n anhygoel! Mae ganddo botensial enfawr, llawer iawn iawn o botensial. Mae’n ysbrydoli rhywun yn fawr iawn wrth ddod i mewn i’r adeilad. Gallwch chi weld ei fod yn eithaf agored, beth rwy’n ei feddwl yw mai’r gwydr sy’n rhannol gyfrifol am hyn, y bensaernïaeth. A gallwch chi weld mewn gwirionedd mai’r syniad o gydweithio sydd y tu ôl i’r dylunio, sef dod â phobl at ei gilydd ac ymdrin â phobl go iawn ar eu telerau eu hunain. Mae hynny’n gyffrous iawn. Mae gwefr go iawn yn perthyn i’r lle.”

C: “Roedd llawer o sôn heddiw am rôl sbarc|spark wrth fynd i’r afael â heriau cymdeithasol, gan gynnwys datblygu prosiectau yn y sector gwirfoddol a gweithio mewn partneriaeth â llunwyr polisïau a byd busnes. Sut mae sbarc|spark yn dechrau cefnogi’r prosiectau hynny?” 

JB: “Mae popeth yn dechrau gyda’r egni cychwynnol ac mae pawb yn cyffroi’n arw, ond bydd prosiectau’n goroesi drwy sicrhau bod y lefel uchel honno o egni yno o hyd, ac i wneud hynny mae angen cryn dipyn o gydlynu a rheoli pethau ar y cyd, ynghyd â’r sgyrsiau hynny sy’n digwydd ar hap, sef y math o sgwrs y cafodd sbarc|spark ei ddylunio i’w hwyluso. Mae angen ymdrech ymwybodol iawn i ganolbwyntio ar gydweithio, ar dynnu pobl ynghyd i fynd i’r afael â phroblemau cyffredin a gallu datrys set gyffredin o heriau.

C: “Felly, sut gall sbarc|spark wneud gwahaniaeth?”

JB: “Yr allwedd yw cynnal themâu cyffredinol ond sicrhau bod gwaith ar y cyd yn ffres ac yn heriol o hyd, boed yn ymwneud ag adfywio dinasoedd lleol neu faterion lleol mewn perthynas â thai neu ysgolion, neu sut i adfywio Cymru neu’r gymdeithas yn ehangach, tra’n ystyried beth arall y gellir ei ddysgu ar gyfer gweddill y byd. Yr allwedd yw meddwl yn galed iawn am bwy ddylai fod yn y sgyrsiau cychwynnol a pharhaus hynny a sut y gallwn ni symud syniadau allan o ystafelloedd sbarc|spark a pheri eu bod yn effeithiol yn y byd go iawn.”

C: “Heddiw, agoron ni ein drysau i randdeiliaid o’r tu allan. Ond rydyn ni i gyd yn gwybod y gall sefydliadau, gyda threigl amser, ddechrau mynd yn fewnblyg ac edrych ar ôl eu lles eu hun. Sut rydyn ni’n osgoi hynny rhag digwydd?”

JB: “Mae hynny’n anodd. Un ffordd yw gwneud ymchwil ar y defnyddwyr rheolaidd, ac efallai drefnu bod anthropolegwyr yn cymryd rhan. Maen nhw’n gallu dechrau meintioli a dadansoddi sut mae pobl yn defnyddio’r adeilad, i ba raddau maen nhw’n ymwneud â’i gilydd, beth sy’n ysgogi’r ymwneud mwyaf rhwng pobl â’i gilydd, a beth yw natur yr ymwneud hwnnw. Dylai’r ffordd y mae’r adeilad yn cael ei ddefnyddio fod yn ffordd gyson o allu mynd ati i ddysgu, datblygu a rheoli.”

C: “Beth yw eich barn am sut rydyn ni’n gwneud y gorau o’r lle yn yr adeilad, yn ennyn diddordeb ac yn annog pobl i ymuno â ni yn sbarc|spark?”

JB: “Yr allwedd yw gofalu am y lleoedd hyn a rheoli a hwyluso’r mathau o ymwneud rhwng grwpiau, fel y gallan nhw yn eu tro ddod â chydweithwyr eraill at ei gilydd. Felly rydych chi’n dechrau drwy ystyried pwy sydd yn yr adeilad: nhw eu hunain fydd yn dod â mathau gwahanol o bobl at ei gilydd, yn union pe bai’n ganolfan ymchwil. Pan fyddwch chi’n creu syniadau y bydd grwpiau yn yr un adeilad yn eu rhannu, mae hynny’n gyfle go iawn i ddatblygu polisïau a helpu cymunedau o amgylch Caerdydd ac o amgylch y rhanbarth, a hynny mewn adeilad mae pawb yn ei rannu a lle mae pobl yn teimlo’n gyfforddus. Gall digwyddiad meddiannu cymunedol, lle gall grwpiau deimlo eu bod yn perthyn mewn gwirionedd, fod yn ffordd ddefnyddiol iawn o feithrin mathau gwahanol o berthynas yn sbarc|spark.”

C: “Yn olaf, beth yw eich neges gyffredinol ar gyfer Caerdydd?”

JB: “Wel, rwy wrth fy modd â’r creadigedd yn enw’r adeilad. Yn fy marn i, dw i’n meddwl bod yn rhaid ystyried y genhadaeth: hwyrach mai cwestiwn canolog Sbarc yw ‘pa ddyfodol gallwn ni ei sbarduno ar y cyd’?”

I gael rhagor o wybodaeth am bartneriaethau yn sbarc|spark, ebostiwch spark@caerdydd.ac.uk