Skip to main content

Adeiladau'r campws

Creu cymdeithas sy’n well ei byd

1 Awst 2022

Agorodd canolfan sbarc|spark, sef ‘uwchlab’ diweddaraf y gymdeithas, ei drysau ym mis Mawrth eleni. Mae sbarc|spark, sy’n arloesi yn ymchwil y gwyddorau cymdeithasol, yn creu cysylltiadau rhwng arbenigwyr â phartneriaid allanol er mwyn creu atebion i broblemau’r byd, gan gynnig ffyrdd o feddwl ‘o’r tu allan tuag at i mewn’ er mwyn creu cymdeithas sy’n well ei byd.

Athro Deallusrwydd Cyfunol, Polisïau Cyhoeddus ac Arloesi Cymdeithasol yng Ngholeg Prifysgol Llundain yw Syr Geoff Mulgan. Ymunodd cyn-Brif Weithredwr Nesta, sefydliad arloesi’r DU, â Phrifysgol Caerdydd ar gyfer lansiad rhanddeiliaid sbarc. Yma, mewn darnau o’r cyfweliad sain, mae Geoff yn rhannu ei farn ynghylch yr heriau sydd o’n blaenau. 

“Yn fy marn i, peth hynod o gyffrous yw gweld sbarc yn cychwyn ar ei gwaith. Bues i’n gysylltiedig â’r prosiect ychydig o flynyddoedd pan oedd ond megis cychwyn, yn rhannol drwy ymwneud â chreu’r Y-Lab gyda Nesta a hefyd yn sgîl fy ngwaith gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd ar ei strategaeth.

Ac rwy’n ystyried model sbarc|spark yn gwbl hanfodol ar gyfer yr 20 neu 30 mlynedd nesaf yn hanes y gwyddorau cymdeithasol. Mae’n rhaid i’r gwyddorau cymdeithasol symud allan o gyd-destunau arferol y brifysgol, cymryd rhan yn y gwaith o ddatrys problemau ymarferol, gweithio gyda’r llywodraeth, gweithio gyda byd busnes yn ogystal â gweithio gyda’r gymdeithas sifil ar yr heriau enfawr sydd gennym o’n blaenau. Mae hyn yn cynnwys newid i economi ddi-garbon, cael gwared ar anghydraddoldeb, ymwneud â deallusrwydd artiffisial a llu o heriau eraill.

Ond yn yr un ffordd, mae’n rhaid inni groesawu’r gymdeithas i’r brifysgol, gan roi lle i grwpiau mewn adeiladau fel yr un yma fel y bydd pobl yn dod i ddeall ei gilydd. Mae rhannu syniadau a thrawsbeillio felly yn elfennau hollbwysig o ran arloesi, sef dod â phethau at ei gilydd mewn ffyrdd newydd.   Ac mae profiad yn ein dangos y gall agosrwydd daearyddol a bod ar yr un safle gyflymu arloesedd yn fawr.

Ers degawdau mae parciau gwyddoniaeth, canolfannau gwyddorau bywyd ac yn y blaen wedi bod yn cynnig y mathau hyn o brofiad. Bellach, o’r diwedd, mae’r gwyddorau cymdeithasol yn gwneud yr un peth. Ac fy ngobaith yw y dylai pob prifysgol fawr feddu ar rywbeth fel hyn. Dwi’n meddwl y bydd pawb yn genfigennus o Gaerdydd. Mae’r cyd-destun daearyddol yn un rhagorol gan y gall feithrin y math o berthynas sydd wedyn yn sbarduno gwybodaeth newydd.

Rwy’n credu bod yn rhaid i brifysgolion a chynghorau ymchwil ailystyried dipyn sut maen nhw’n defnyddio arian, sut maen nhw’n defnyddio adeiladau a sut maen nhw’n gwobrwyo llwybrau gyrfaol gwahanol. Ar hyn o bryd, mae gormod o’r pwysau sy’n rhy unffurf ac yn gyfyngedig i ddisgyblaethau unigol, ac weithiau ystyrir mai erthygl wedi’i hadolygu gan gymheiriaid yw’r  unig allbwn perthnasol. Felly mae’n rhaid i bawb sy’n llunio ecosystem y byd academaidd ailystyried y dylanwad sydd ganddyn nhw, a hynny er mwyn iddyn nhw annog mwy o bobl i gydweithio, datrys problemau ar y cyd a chreu mwy o effaith yn y byd.

Mae hynny’n mynd i fod yn dipyn o her. Dydy’r rhan fwyaf o’r strwythurau a’r systemau presennol ddim yn helpu.    Nid yw pwysau gyrfaol llawer o’r gwyddonwyr cymdeithasol iau yn ymwneud â bod yn greadigol ac yn deinamig yn y byd – er mai dyna sydd ei angen arnon ni’n daer. Yn hytrach, dywedir yn aml wrth ymchwilwyr ifanc am gyhoeddi a siarad am eu herthyglau a’u cynnyrch cyhoeddedig.  Ac mae dadansoddi’r presennol a’r gorffennol yn cael ei annog yn fawr o’i gymharu â gwaith at y dyfodol.  Ar hyn o bryd does yna fawr o anogaeth i weithio ar ddyluniadau nac opsiynau ar gyfer y genhedlaeth nesaf – a hynny mewn gwrthgyferbyniad llwyr â meysydd gwyddonol eraill.

Pan fydd newidiadau yn cael eu gyrru mewn adeilad fel yr un yma, mae’n rhaid inni dderbyn syniadau o lefydd gwahanol, hynny yw ‘o’r tu allan tuag at i mewn’ llawn cymaint ag ‘o’r tu fewn tuag at allan’, gan feithrin cymuned lle bydd pobl yn dod i adnabod ei gilydd a chydweithio. Ond mae’n rhaid i’r gymuned hefyd agor ei drysau drwy’r amser, agor ei drysau i fyfyrwyr, i dimau traws-sectoraidd sy’n gweithio ar broblemau, ac weithiau i’r cyhoedd ehangach, gan drefnu digwyddiadau mawr i drafod heriau megis bwyd, gordewdra neu heneiddio. Mae’n rhaid i’r gymuned hon hel pobl at ei gilydd a meithrin sgyrsiau sy’n hynod gyffrous a deinamig.

Dyna’r hyn y gallwch chi ei wneud mewn adeilad felly. A mawr obeithiaf y gallwch chi ddangos arweiniad yn ystod cyfnod nesaf y gwyddorau cymdeithasol sy’n meithrin creadigedd ac egnïon i’n helpu i ganfod atebion ar gyfer newidiadau cymdeithasol mawr ein hoes.”

Mae llyfr diweddaraf Syr Geoff Mulgan, Another World Is Possible, yn trafod sut y gall meddwl yn gymdeithasol ac yn wleidyddol ein helpu i ailddychmygu’r dyfodol. Ynddo, mae’n esbonio sut mae modd defnyddio gwersi’r gorffennol yn ogystal â’n deallusrwydd ar y cyd i greu dyfodol gwell.