Skip to main content

PartneriaethauPobl

Cronfa Heriau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: Digwyddiad Cyntaf y Gymuned Ymarfer

4 Gorffennaf 2022

Rhwydwaith dysgu drwy gydweithio ar gyfer cyrff cyhoeddus a chyrff yn y trydydd sector sy’n ymddiddori mewn arloesedd a arweinir gan heriau

Mae tîm Cronfa Heriau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) yn falch iawn o gael cynnal ein digwyddiad Cymuned Ymarfer wyneb yn wyneb cyntaf yn Sbarc|Spark ar 12 Gorffennaf.

Bydd y digwyddiad yn dod â chymheiriaid o’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector ledled de-ddwyrain Cymru at ei gilydd i gyfnewid syniadau, dysgu oddi wrth ein gilydd a datblygu adnoddau a chysylltiadau defnyddiol, a hynny er mwyn helpu i fabwysiadu arloesedd a arweinir gan heriau.

Mae’n gymuned sy’n croesawu ymarferwyr profiadol a’r rheini nad oes ganddyn nhw fawr neu ddim profiad ym maes arloesedd a arweinir gan heriau. Os oes gennych chi her gymdeithasol nad oes ateb amlwg ar ei chyfer, mae ein Cymuned Ymarfer yn lle gwych i ddechrau datrys y broblem honno.

Bydd y digwyddiad hwn, a anelir at y rheini sydd ond yn gweithio yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, yn lle diogel a diduedd i rwydweithio. Bydd modd trin a thrafod â ffrindiau beirniadol o bob rhan o’r rhanbarth yn ogystal â dysgu mwy am yr heriau y mae gwasanaethau cyhoeddus eraill yn eu hwynebu, a rhannu’r arferion gorau. Er ein bod yn deall bod amser a chapasiti yn broblemau sylweddol ar gyfer gweithwyr y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, mae digwyddiadau fel hyn yn hollbwysig i amlygu bod llawer o sefydliadau’n rhannu problemau tebyg ac y dylen ni rannu ein profiadau a’n hadnoddau ar y lefel ranbarthol er mwyn osgoi dyblygu gwaith gan ychwanegu felly at ein llwyddiannau.

Drwy annog cydweithio a thrafod ar y lefel ranbarthol, ein gobaith yw creu Prifddinas-Ranbarth Caerdydd sy’n gryfach, yn arloesol, yn gefnogol ac yn fwy parod ar gyfer y dyfodol.  Bydd eich adborth a’ch awgrymiadau yn helpu i wneud y gymuned mor ddefnyddiol â phosibl.

Beth yw ein Fforwm Cymuned Ymarfer (CoP)?

I gyd-fynd â’r digwyddiad hwn, byddwn ni hefyd yn lansio ein Fforwm CoP, ein platfform ar-lein. Bydd y sawl sy’n cymryd rhan yn gallu parhau â’u sgyrsiau ar-lein ac ar adegau sy’n gyfleus iddyn nhw.

Bydd y Fforwm ond ar gael i’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector a bydd yn rhoi platfform i bobl drafod eu heriau presennol, rhannu syniadau ac adnabod y cyfleoedd i weithio mewn partneriaeth ar draws y rhanbarth.

Beth yw Cronfa Heriau CCR?

Nod Cronfa Heriau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yw creu cyfoeth yn lleol ac ysgogi twf economaidd drwy arloesedd a arweinir gan heriau. Rydyn ni’n cefnogi cyrff cyhoeddus a chyrff yn y trydydd sector yn y rhanbarth wrth iddyn nhw adnabod y problemau cymdeithasol na allan nhw eu datrys ar eu pennau eu hunain, a hynny er mwyn datblygu a chynnal prosiectau â heriau yn ogystal â chreu cysylltiadau â darparwyr a all roi atebion arloesol ar y cyd i’r heriau hynny.

Mae gan y gronfa dri maes blaenoriaeth:

  • Datgarboneiddio’n gyflymach
  • Gwella Iechyd a Lles
  • Cefnogi, gwella a thrawsffurfio cymunedau

Os yw’ch sefydliad yn wynebu her a gwmpesir yn un o’r meysydd blaenoriaeth hyn ond nad oes ateb parod ac amlwg ar ei chyfer, rydyn ni yma i’ch helpu.

Cofrestrwch ar gyfer ein digwyddiad Cymuned Ymarfer (CoP):

I gael rhagor o fanylion am y digwyddiad ac i gofrestru, ewch i’n tudalen gofrestru:

Dolen i gofrestru ar gyfer y digwyddiad

Cheryl Moore, Rheolwr Rhaglenni Cronfa Heriau CCR