Skip to main content

Adeiladau'r campws

Heriau a chyfleoedd i sbarc|spark

28 Mehefin 2022

Cafodd sbarc|spark ei agor yn swyddogol 9 Mehefin. Roedd gwesteion arbennig o faes arloesedd wedi’i arwain gan ymchwil y gwyddorau cymdeithasol, byd gwleidyddiaeth, y trydydd sector a’r llywodraeth yn bresennol yn y digwyddiad i ‘ddathlu uwch-labordy cymdeithas’. Yn y blog hwn, y cyntaf mewn cyfres o flogiau* gan bedwar panelwr y digwyddiad, rydym yn clywed gan yr Athro John Goddard OBE, Athro Emeritws Astudiaethau Datblygu ym Mhrifysgol Newcastle ac Athro Prifysgolion a Dinasoedd ym Mhrifysgol Birmingham.

Mae’n trafod yr heriau a’r cyfleoedd sy’n deillio o strategaethau ar sail lleoedd ac sy’n cael eu harwain gan gymunedau ar gyfer mynd i’r afael â heriau cymdeithasol mawr – sut y gall sbarcIspark

greu cymuned sy’n cael ei gyrru gan arbenigedd, creadigrwydd, chwilfrydedd ac entrepreneuriaeth i wella’r cysylltiadau rhwng ymchwil, effaith ac ymgysylltiad.

“Rwy’n ystyried y cwestiwn hwn â phrofiad o fod yn Ddirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Newcastle ac yn Is-gadeirydd ar gyfer y Comisiwn Prifysgol Ddinesig.

Rwy’n arbenigo’n benodol mewn datblygu dinesig a rhanbarthol, ond rwyf wedi sylweddoli bod tri maes gwybodaeth ar wahân yn bodoli sy’n ymwneud â datblygu tiriogaethol, addysg uwch ac ymchwil. Mae’n anodd cwmpasu pob un ohonynt.

Y brif her i mi yw gwybod sut i ddod ag ochr y galw/angen am wybodaeth mewn cymdeithas sifil ac ochr y cyflenwad gwybodaeth yn yr academi at ei gilydd – y tu allan i mewn, a’r tu mewn allan.

Mae’r cyfle’n ymwneud â’r budd y gall yr academi a’r gymuned ei gael o broses cyd-greu gwybodaeth sy’n cysylltu ymchwil ag arloesedd cymdeithasol.

Er mwyn i hyn ddigwydd, mae’n rhaid i’r academi gydnabod bod goleuni pellach ar gael ym maes busnes ac mewn cymdeithas sifil, yn fyd-eang ac yn lleol, a all helpu i ehangu terfynau gwyddoniaeth, yn enwedig i fynd i’r afael â heriau trawsddisgyblaethol mawr.

Mae dealltwriaeth fwy arloesol o’r broses arloesi’n hollbwysig. Mae’n rhaid i’r academi ddechrau ymwrthod â’r model llinol a chydnabod, yng ngeiriau adolygiad mewnweledol gan y Comisiwn Ewropeaidd, “nid yw arloesedd yn gyfystyr â thraphont ddŵr Rufeinig, ond yn hytrach bwll mwdlyd … mae’n galw am weithredwyr – corfforaethol, academaidd, dinesig a gwleidyddol.”

Yn fwy penodol, er mwyn sicrhau datblygiadau arloesol mewn oes ddigidol, mae angen arloesi’n eang mewn cymdeithas a sefydliadau yn nhermau gweithio mewn ffyrdd newydd ym maes busnes a darparu gwasanaethau mewn ffyrdd newydd yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol.

Dyma lle mae’r gwyddorau cymdeithasol yn bwysig, gan eu bod yn canolbwyntio ar sut mae cymdeithas yn gweithio.

Hefyd, ym maes y gwyddorau cymdeithasol, gall y disgyblaethau hynny sy’n seiliedig ar leoedd chwarae rôl allweddol.

Rwy’n dweud hyn am fod dimensiynau lleol a byd-eang i’r rhan fwyaf o heriau mawr. Yng nghyd-destun lleoedd, ni ellir anwybyddu natur gydberthnasol Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig – gall lleoedd lywio cyfleoedd unigolion i wella ansawdd eu bywyd, gan gynnwys perfformiad busnesau.

O ystyried hyn, gall prifysgol fel sefydliad angori allweddol chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o gyfyngu’r byd i leoedd. Gall ddwyn ynghyd weithredwyr allweddol sy’n hollbwysig i’r gwaith o ddatblygu ei lle yn y dyfodol – y gwaith o ddatblygu’r tu mewn iddo, gan gynnwys y lle ei hun. ‘The University OF Cardiff’

Mae’n rhaid i’r gymuned a’r sector gwirfoddol, nid yn unig fusnesau a llywodraeth leol, fod yn rhan o’r broses hon. Mae angen meithrin cysylltiadau ymddiriedus hirdymor rhwng prifysgolion a grŵp amrywiol iawn o sefydliadau bach heb lawer o allu i wneud ymchwil, gan gynnwys rhoi heibio prosiectau byrdymor sy’n cael eu hariannu’n allanol lle mae ymchwilwyr yn ymrwymo iddynt ac yna’n rhoi’r gorau iddynt.

Mae hyn yn tynnu sylw at yr angen am gyllid hirdymor i ddatblygu cadre o weithredwyr sy’n rhychwantu ffiniau, sy’n deall y ffactorau sy’n ysgogi’r ddwy ochr ac sy’n cefnogi’r ecosystem arloesi lleol gyfan er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf posibl ar y cyd. Ac yntau’n asiantau helaeth eu hadnoddau, fodd bynnag, mae’n rhaid i brifysgolion ddangos bod iddynt eu rhan yn hyn o beth.

Mae Caerdydd wedi dangos hyn drwy fuddsoddi yn sbarc|spark er mwyn dechrau ar daith hir o newid sefydliadol y tu mewn a’r tu allan i’r Brifysgol.

Rwy’n dweud ‘taith hir’ am fod strwythur cymhelliant yr academi, i unrhyw brifysgol, o ran gwneud ymchwil sy’n berthnasol i gymdeithas, yn dal i fod yn llinol ac ar wahân – er enghraifft, rhwng disgyblaethau a hefyd rhwng addysgu ac ymchwil. Mae hyn hefyd yn berthnasol i ran myfyrwyr yn y gwaith o gyfnewid gwybodaeth, ffurfio mentrau newydd a chynnig sgiliau ar ôl graddio i gefnogi’r defnydd o ymchwil.

Wedi dweud hyn, cryfder y brifysgol draddodiadol yw’r cyfleoedd y mae’n eu rhoi i academyddion unigol fod yn greadigol ac yn entrepreneuraidd. Ar yr un pryd, fodd bynnag, mae’n rhaid iddi gydnabod bod dylanwad sefydliadol a chamau gweithredu unigol yn angenrheidiol i fynd i’r afael â heriau mawr.

Y gamp yw cyfuno cyfeiriad strategol o’r brig i lawr ac ymddygiad entrepreneuraidd o’r gwaelod i fyny er mwyn creu strwythur rhydd ond cyfyng. Un ffordd y gallai sbarc|spark wneud hyn yw drwy gychwyn ymarfer Dyfodol Caerdydd hirdymor sy’n gofyn i academyddion ar draws y Brifysgol weithio gyda rhanddeiliaid er mwyn asesu goblygiadau eu hymchwil i ddyfodol y ddinas-ranbarth a Chymru.”

Yr Athro John Goddard – john.goddard@newcastle.ac.uk

  • Bydd blogiau pellach gan Fozia Irfan, Cyfarwyddwr Plant a Phobl Ifanc BBC Plant mewn Angen; Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru a Kellie Beirne, Cyfarwyddwr Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn dilyn yn yr wythnosau i ddod.