Defnyddio dadansoddiadau cymharol ansoddol mewn setiau niwlog i ymchwilio i’r heterogenedd ymhlith y sawl sy’n credu mewn cynllwyn
7 Rhagfyr 2023
Ymhlith y llu o oblygiadau diogelwch ynghlwm wrth gredu mewn cynllwyn mae peryglu iechyd y cyhoedd ac ymosodiadau treisgar ar sefydliadau democrataidd. Yn y blog hwn, mae Isabella Orpen, Cynorthwyydd Ymchwil yn y Sefydliad Arloesedd Diogelwch, Troseddu a Chudd-wybodaeth, yn esbonio sut mae deall mathau gwahanol o bobl sy’n credu mewn cynllwyn yn hollbwysig i ddeall a lliniaru’r risgiau posibl yn well.
Dro ar ôl tro, bydd ysgolheigion yn pwysleisio’r grym eithafol ynghlwm wrth ideolegau sy’n pwysleisio cynllwyn. Roedd ymosod ar y ‘Capitol’ a’r eithafiaeth a oedd wedi amlygu ei hun yn ffyrnig yn ystod pandemig y coronafeirws yn dangos y goblygiadau diogelwch ynghlwm wrth bobl sy’n credu’n gryf mewn cynllwyn. Gall credu mewn cynllwyn yn llai dwfn hyd yn oed, fel peidio ag ymddiried mewn brechlynnau a gwybodaeth ynghylch y coronafeirws, effeithio’n ddifrifol ar ddilyn canllawiau’r llywodraeth ac felly ar iechyd y cyhoedd. Mae pandemig y coronafeirws a’r cynnydd byd-eang mewn damcaniaethau poblyddol cynllwyn yn dangos bod mwyfwy o bobl sy’n credu mewn cynllwyn yn fwy cyffredin na’r hyn a dybid cyn hyn.
Yn aml, bydd credu mewn cynllwyn yn aml yn mynd yn groes i naratifau swyddogol ac yn ymwneud â grŵp o gynllwynwyr maleisus a’u rhan gudd mewn digwyddiadau sydd ar yr olwg gyntaf heb gysylltiad y naill ddigwyddiad â’r llall. Mae credu mewn damcaniaethau cynllwynio yn derm a ddefnyddir yn aml ym maes ymchwil i gyfeirio at feddylfryd cynllwynio (h.y. y duedd i gredu mewn cynllwyn) a’r gred mewn damcaniaethau cynllwynio penodol (e.e. mythau gwrth-frechu). Bydd y ffordd hon o ddeall credu mewn cynllwyn yn cwmpasu ystod eang o gredoau.
Nid yw’r diffiniad hwn yn barnu gwirionedd na moesoldeb credoau o’r fath. Mae yna ddadl barhaus mewn ysgrifau academaidd a’r cyfryngau ynghylch a yw credu mewn cynllwyn ond yn niweidiol ac yn rhannu’r gymdeithas neu os yw trin a thrafod naratifau swyddogol mewn ffordd feirniadol yn gallu bod yn fanteisiol. Seiliwyd y ddadl hon ar gam ar y rhagdybiaeth bod credu mewn cynllwyn yn unffurf (yn gyson felly) a bod pawb sy’n credu mewn cynllwyn yn debyg i’w gilydd. Mae ymchwil fwy diweddar wedi galw am fwy o ddealltwriaeth o’r amrywiaeth (heterogenedd) ynghlwm wrth gredu mewn cynllwyn a’r sawl sy’n credu ynddo.
Un ffordd y gallwn ymchwilio i heterogenedd credu mewn cynllwyn a’r sawl sy’n credu ynddo yw drwy ddefnyddio Dadansoddiadau Cymharol Ansoddol mewn Setiau Niwlog (FsQCA). Mae’r dull hwn yn cyfuno cyfoeth cyd-destunol dadansoddi ansoddol sy’n seiliedig ar achosion a thrylwyredd dadansoddi meintiol. Mae ychwanegu rhywfaint o niwlogrwydd at y newidynnau yn golygu y gellir sicrhau lefel arall o drwch yn y gwahaniaethau.
Mae cynllwynion yn niwlog oherwydd eu natur
Mae ysgolheigion cynllwynion yn anghytuno ynghylch a yw credu mewn cynllwyn yn gynnyrch lleiafrif eithafol neu’n duedd gyffredinol ymhlith pobl. Gall cydnabod lefelau gwahanol o gredu mewn cynllwyn helpu i gysoni’r ddwy ysgol wahanol hyn o feddwl. Mae data’r arolwg a gasglwyd gan dîm ymchwil y Sefydliad Arloesi er Diogelwch, Troseddau a Deallusrwydd yn dangos bod bron i dri chwarter o’r sawl a ymatebodd ym Mhrydain yn dangos rhyw lefel o feddylfryd y cynllwyn a bod traean yn cytuno â mythau gwrth-frechu a heb ymddiried yng nghyfraddau swyddogol y marwolaethau yn sgil y coronafeirws. Ymhlith y grŵp hwn o ‘gredinwyr’ ceir gwahaniaeth yng nghryfder y credoau gan fod rhai’n dangos cred ‘gref’ ar draws pob dangosydd a bydd pobl eraill yn dangos cred gymysg neu achlysurol ar draws y dangosyddion. Mae FsQCA yn arbennig o addas o ran mynd i’r afael â natur y gwahanol fathau o drwch gwahaniaeth ynghlwm wrth gredu mewn cynllwyn gan fod y rhain yn bodoli’n aml mewn ardal lwyd rhwng ffaith a ffuglen. Mae’n cynnig fframwaith lle gellir mesur cysyniadau cymhleth ar gontinwwm yn hytrach na dibynnu ar wahaniaethau deuaidd. Drwy ymgorffori trothwyon, mae FsQCA yn helpu i bennu cryfder credoau a dod o hyd i’r pwynt hwnnw pan fyddant yn troi o fod yn rhai gwan i fod yn rhai cryf.
Cyfuniadau Cymhleth o Amodau
Mae ymchwil wedi dod o hyd i nodweddion seicolegol (e.e. paranoia) a chredoau cymdeithasol (e.e. gwladgarwch) yn ‘amodau’ allweddol i amlygu credu mewn cynllwyn. Fodd bynnag, deuir o hyd i’r amodau hyn bron yn gyfan gwbl yn sgil modelau effaith net sy’n seiliedig ar atchweliad. Mae’r ymdrechion i ynysu effaith unigryw pob cyflwr ar gredu mewn cynllwyn yn methu â chyfrif am y cysylltiad rhyngddynt.
Yn sgil FsQCA, gall amodau gael effeithiau amrywiol gan ddibynnu ar y ffordd y maen nhw’n cyflunio ag amodau eraill. Bydd y trwch hwn mewn gwahaniaeth yn cael ei rwystro gan ddulliau sydd ond yn ystyried effeithiau net y ffactorau ynghlwm wrth gredu mewn cynllwyn, gan eu bod yn anelu at ynysu a dod o hyd i effaith amodau unigol yn lle cofleidio’r cymhlethdod cyd-destunol rhyngddynt.
Amrywiaeth yn y Llwybrau tuag at feddu ar Gred Gref
Mae’r heterogenedd ynghlwm wrth gredu mewn cynllwyn yn mynd y tu hwnt i ddwyster y gred. Mae ystyried tarddiad y credoau hyn hefyd yn hollbwysig. Mae fsQCA yn caniatáu i ‘lwybrau’ lluosog (cyfluniadau’r amodau) arwain at yr un canlyniad. Felly, gellir deall heterogenedd ymhlith credinwyr cynllwyn yng nghyd-destun cryfder eu cred a’r llwybrau gwahanol a oedd wedi’u harwain at y gred honno. Yn achos y rheini sydd â meddylfryd cryf am gynllwyn ac yn credu’n gryf mewn cynllwyn o ran y coronafeirws, gall cyfluniadau lluosog arwain at yr un canlyniad. Mae hyn yn tanlinellu gwerth defnyddio dulliau ffurfweddol (megis FsQCA) gan na cheir un llwybr yn unig at gredu’n gryf mewn cynllwyn.
Ymchwilio i absenoldeb credu mewn cynllwyn
Mae FsQCA yn ystyried presenoldeb ac absenoldeb canlyniad, megis credu’n gryf mewn cynllwynion. Yn wahanol i dechnegau eraill, mae FsQCA yn cydnabod nad yw presenoldeb rhai amodau sy’n gysylltiedig â’r canlyniad yn gwarantu y bydd eu habsenoldeb yn arwain at ganlyniad negyddol.
Mae’r ddealltwriaeth hon yn hollbwysig wrth fynd i’r afael â’r risgiau sy’n gysylltiedig â credu mewn cynllwyn gan fod ymchwil yn aml yn canolbwyntio ar adnabod y ffactorau risg y gellir eu defnyddio i atal ymddygiad niweidiol. Mae FsQCA yn tynnu sylw at y ffaith y dylai ymarferwyr ddod o hyd i’r ffactorau risg ond ar ben hynny y ffactorau amddiffynnol, gan egluro pam na fydd y ddau hwyrach yn cyd-fynd yn berffaith â’i gilydd.
Mae’r blog hwn wedi dangos y gwaith o fabwysiadu dulliau dadansoddol newydd er mwyn ymchwilio i gymhlethdod ac amrywiaeth credu mewn cynllwyn a’r sawl sy’n credu yn y rhain. Mae FsQCA yn cyflwyno ateb methodolegol diddorol i’r cymhlethdod ynghlwm wrth gredu mewn cynllwyn. Gall ehangu ein dealltwriaeth o fathau gwahanol o gredu mewn cynllwyn ein helpu i ddeall pryd y byddant yn peri risg diogelwch a sut y gellir lliniaru hyn.
Ymddangosodd y blog hwn yn wreiddiol yn 17eg rhifyn Security Review CREST ‘Misinformation’.