Skip to main content

Sefydliad Arloesedd Diogelwch Troseddu a Chudd-wybodaethSefydliadau Arloesedd ac Ymchwil y Brifysgol

Pam rydyn ni’n credu newyddion ffug? Cipolwg byr ar nodweddion personoliaeth, ffydd yn y llywodraeth, a’r meddylfryd sy’n dueddol o gredu mewn cynllwynion.

7 Rhagfyr 2023

 

Pam mae rhai pobl yn dueddol o gredu twyllwybodaeth? Yn y blog hwn, mae Andrew Wainwright, myfyriwr israddedig sy’n astudio Gwyddorau Dynol a Chymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, yn trafod ei brosiect ymchwil i’r pwnc hwn.

Wrth i ni lywio’r oes ddigidol cymhleth hon, mae twyllwybodaeth yn ymddangos yn her enfawr, ac mae ei deall yn fater amserol a pherthnasol. Yn ystod fy lleoliad yn y Sefydliad Arloesedd Diogelwch, Trosedd a Chudd-wybodaeth, edrychais ar set ddata eang i geisio dod o hyd i pam mae rhai pobl yn dueddol o gredu twyllwybodaeth, gan ganolbwyntio ar nodweddion personoliaeth, ffydd yn y llywodraeth, a’r meddylfryd sy’n dueddol o gredu mewn cynllwynion. Fe wnaeth yr ymchwiliad hwn trin a thrafod ein cymdeithas, gan ddangos patrymau a thueddiadau diddorol o fewn poblogaethau Lloegr a’r Eidal.

Pŵer nodweddion personoliaeth a ffydd yn y llywodraeth

Mae nodweddion personoliaeth yn cael effaith sylweddol ar agweddau tuag at wleidyddiaeth a chymdeithas. Mae astudiaethau’n awgrymu bod unigolion â llai o addysg, llai o wybodaeth wleidyddol, a galluoedd gwybyddol is yn fwy tueddol o gredu newyddion ffug. Ar y llaw arall, mae’r unigolion hynny sy’n dangos nodweddion personoliaeth mwy hawddgar ac empathig yn tueddu i ymddwyn o blaid ein cymdeithas, gan weithredu’n rhwystr yn erbyn twyllwybodaeth.

Mae ffydd, yn enwedig yn y llywodraeth, yn chwarae rhan ganolog mewn cymdeithas. Mae’n sail i gydlyniant cymdeithasol a chyfranogi at  ddemocratiaeth. Mae dealltwriaeth gynnil o sut mae nodweddion personoliaeth, y tueddiad i gredu twyllwybodaeth, a ffydd yn y llywodraeth i gyd yn rhyngweithio yn gallu amlygu strategaethau i hyrwyddo meddwl yn feirniadol, llythrennedd yn y cyfryngau, a chryfhau ffydd mewn sefydliadau democrataidd.

Hanes Dwy Wlad: Lloegr a’r Eidal

Dangosodd fy nghanfyddiadau fod nodweddion personoliaeth yn gysylltiedig yn sylweddol â meddylfryd sy’n dueddol o gredu mewn cynllwynion. Dangosodd boblogaeth yr Eidal allblygedd, ymwybyddiaeth, a niwrotiaeth uwch, tra bod y DU ar frig y siartiau o ran hawddgarwch ac agweddau agored. Hawddgarwch oedd y rhagfynegwr mwyaf sylweddol o feddylfryd sy’n dueddol o gredu mewn cynllwynion.

Pan ddechreuais i ymchwilio i ffydd yn y llywodraeth, dangosodd yr Eidal sgoriau ffydd is o gymharu â’r DU. Canfyddais fod ffydd yn y llywodraeth wedi’i chysylltu’n gadarnhaol ag unigolion cydwybodol, gan awgrymu y gallai’r unigolion hyn fod a theimlad uwch o ddyletswydd, cyfrifoldeb, a pharch tuag at awdurdod. Gwelwyd cydberthynas negyddol gref rhwng meddylfryd sy’n dueddol o gredu mewn cynllwynion a ffydd yn y llywodraeth, gyda’r Eidal yn dangos tueddiad uwch ar gyfer y berthynas hon.

Dehongli’r rhyngweithio cymhleth

Mae’r canfyddiadau’n tanlinellu rhyngweithio cymhleth rhwng personoliaeth, meddylfryd sy’n dueddol o gredu mewn cynllwynion, a ffydd. Mae’r cydberthnasau a arsylwyd a’r amrywiadau diwylliannol rhwng Lloegr a’r Eidal yn cynnig cipolwg hynod ddiddorol ar y tueddiad i gredu mewn twyllwybodaeth.

Wrth i ni fynd i’r afael âg effeithiau COVID-19, efallai ein bod yn profi colled o’n strwythurau cymdeithasol a gwybyddol, sydd yn gwaethygu nifer yr achosion o dwyllwybodaeth ymhellach. Mae’r ddamcaniaeth hon yn tanlinellu’r angen hanfodol am ymchwil ryngddisgyblaethol wrth fynd i’r afael â’r mater hollbresennol hwn.

Roedd y gwaith ymchwil yr ymgymerais ag ef yn y Sefydliad Arloesedd Diogelwch, Trosedd a Deallusrwydd yn archwiliad hudolus i’r byd twyllwybodaeth gymhleth. Cyfoethogodd fy nealltwriaeth ond tynnodd sylw hefyd at bwysigrwydd ymdrech ar y cyd i ddiffinio a mynd i’r afael â thwyllwybodaeth yn ein cymdeithas.