Enillydd Nobel yn agor canolfan diwydiant Sero Net
5 Mehefin 2023
Mae’r Athro Donald J. Wuebbles, gwyddonydd yr hinsawdd o’r Unol Daleithiau a enillodd Wobr Heddwch Nobel, wedi lansio canolfan ddiweddaraf y DU fydd yn dod o hyd i atebion ym maes diwydiant Sero Net.
Ac yntau’n gyn-ymgynghorydd y Tŷ Gwyn ac yn gyd-enillydd gwobr 2007, agorodd yr Athro Wuebbles y Ganolfan Ymchwil Drosi (TRH) yn swyddogol. Bydd y Ganolfan yn dod â byd diwydiant ac arbenigwyr ynghyd i ddatrys heriau byd-eang cymhleth. Yma, rydyn ni’n tynnu sylw at yr areithiau cychwynnol …
Yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd
Croeso i’r Ganolfan Ymchwil Drosi! Drwy ein hymrwymiad di-ffael, a chyda chefnogaeth gan bartneriaid ym myd diwydiant, y llywodraeth a’r sector cyhoeddus, rydym wedi adeiladu’r adeilad ‘gorau yn y dosbarth’ hwn a agorodd yr haf diwethaf.
Tyst yw’r Ganolfan i’n penderfyniad i ddarparu ar gyfer byd diwydiant a’r gymdeithas: sef creu a datblygu technolegau’r genhedlaeth nesaf sy’n denu buddsoddiad, yn creu ffyniant ac yn cyfrannu at Sero Net.
Yn ystod y degawd dw i wedi bod yn Is-Ganghellor, rydym wedi gallu cyflwyno uwchgynllun ar y campws drwy ryddhau cyllid y Brifysgol, codi bondiau a denu cyllid ymchwil i adeiladu ystod o gyfleusterau pwrpasol sy’n denu ymchwilwyr rhagorol sy’n gallu datblygu prosesau a chynnyrch newydd ar y cyd â byd diwydiant.
Mae pob un o’r adeiladau ar ein Campws Arloesi yn denu rhagoriaeth ac yn gartref i’n Sefydliadau Arloesi newydd: y Sefydliad Arloesi Sero Net sy’n rhan o’r Ganolfan Ymchwil Drosi; drws nesaf yn sbarc|spark mae gennym y Sefydliad Arloesi Trawsnewid Data a’r Sefydliad Arloesi Diogelwch, Trosedd a Chudd-wybodaeth, ac, yn Adeilad Hadyn Ellis gerllaw, mae’r Sefydliad Arloesi Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl.
Roedd ein gallu i feithrin partneriaethau yn ffactor pwysig wrth ariannu’r adeilad hwn. Denodd y Ganolfan Ymchwil Drosi incwm i’w hadeiladu o sawl ffynhonnell: Cronfa Buddsoddi Partneriaethau Ymchwil y DU, Llywodraeth Cymru, yr EPSRC, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Yn anad dim, mae ein pobl yn allweddol i’n llwyddiant yn y dyfodol.
Diolch yn fawr iawn!
Arweiniodd yr Athro Rudolf Allemann, y Rhag Is-ganghellor, y gwaith o gwblhau’r Ganolfan Ymchwil Drosi.
“Mae’r Ganolfan, a gafodd ei hadeiladu ar y cyd â byd diwydiant ac ar ei gyfer, yn adeilad diwydiannol gwych sy’n ymroddedig i ddisgyblaethau sy’n ein cefnogi wrth inni weithio tuag at Sero Net.
Yn y Ganolfan, rydyn ni’n cydweithio â phartneriaid masnachol i bontio’r bwlch rhwng byd ymchwil a busnes. Rydym yn datblygu cynnyrch a phrosesau newydd at ddyfodol glanach, gwyrddach a chynaliadwy – boed hynny’n golygu glanhau prosesau cemegol neu ddatblygu systemau trafnidiaeth gwell.
O dan y to hwn, mae pobl dalentog o ddwy o ganolfannau ymchwil ac arloesi mwyaf blaenllaw’r brifysgol – Sefydliad Catalysis Caerdydd a’r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd – yn darparu’r arbenigedd i’n helpu i gyrraedd targedau Sero Net y DU.
Mae Sefydliad Catalysis Caerdydd yn cydweithio â gwyddonwyr rhyngwladol a pheirianwyr cemegol i ymchwilio i ddatblygiadau newydd mewn meysydd megis cynhyrchu tanwyddau a’r defnydd o ddŵr. Mae catalyddion yn cyflymu adweithiau cemegol, sy’n gwneud prosesau allweddol yn bosibl, yn economaidd-ddichonadwy ac yn bosibl i’w cyflwyno’n ehangach. Maen nhw wrth wraidd bron pob proses a chynnyrch diwydiannol.
Cyfleuster pwrpasol sy’n ymchwilio i dechnolegau lled-ddargludyddion cyfansawdd ac yn eu harbrofi a’u datblygu’n fasnachol yw’r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS) Gan ddefnyddio’r elfennau’r naill ochr i silicon yn y tabl cyfnodol, sglodion electronig hynod o gyflym y genhedlaeth nesaf yw lled-ddargludyddion cyfansawdd. Byddan nhw’n dylanwadu’n fawr ar ein bywydau yn yr 21ain ganrif, boed yn Rhyngrwyd y Pethau, yn roboteg, yn gerbydau ymreolaethol, yn 5G a thechnolegau gofal iechyd.
A y cyd â’r ddau sefydliad, mae Ganolfan Ymchwil Drosi yn gartref i Sefydliad Arloesi Sero Net y Brifysgol sydd newydd gael ei lansio. Mae’n dwyn ynghyd arbenigedd o ddisgyblaethau gan gynnwys y gwyddorau ffisegol, peirianneg, yr amgylchedd adeiledig, y biowyddorau, y geowyddorau a chynllunio.
Yn anad dim, adeiladwyd y Ganolfan i fod yn lle sy’n gwbl agored. Mae ei choridorau, ei swyddfeydd, ei labordai a’i llwybrau cerdded gwydr yn dangos y gorau o wyddoniaeth, fel y gwelwch chi o gerdded heibio i Ystafell Lân y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd newydd sy’n gyfleuster mynediad agored lle gellir cynhyrchu wafferi Lled-ddargludyddion Cyfansawdd hyd at wyth modfedd mewn diamedr, sy’n hollbwysig i fod yn berthnasol yn ddiwydiannol.
Yn wir, gallai ‘cyfleuster agored ydyn ni’ fod yn arwyddair inni. Rydym yn agored i fyd diwydiant, yn agored i bartneriaethau, yn agored i fyd arloesi. Diolch yn fawr iawn.”