Mynd i’r afael â heriau yfory
27 Mawrth 2023Sut mae cymdeithas yn datrys ei phroblemau ‘drwg’? Gall llywodraethau sydd dan bwysau fod yn amharod i weithredu. Gall busnesau fod heb gymhelliant, a gall cenhadaeth elusennau ac arianwyr gyfyngu arnynt. Gall prifysgolion helpu i gau’r bwlch. Mae Prifysgol Caerdydd yn bwriadu chwarae ei rhan drwy lansio pum sefydliad arloesedd ac ymchwil rhyngddisgyblaethol. Yma, mae’r Athro Roger Whitaker, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter Prifysgol Caerdydd, yn esbonio pam.
‘Mae ymchwil ac arloesedd yn mynd law yn llaw. Pan mae ymchwil wych yn cael ei chyflawni, mae arloesedd rhagorol yn dilyn. Gall y ddau beth fwydo ei gilydd yn rhan o gylch cynnydd rhinweddol a chael eu cyllido at ddibenion datblygu prosesau a chynhyrchion newydd, ffyrdd newydd o weithio, a newidiadau mewn cymdeithas. Ar yr un pryd, mae heriau’n codi sy’n golygu, er mwyn cynnal unrhyw gynnydd, fod angen gwneud gwaith ymchwil newydd ar frys.
Dros y blynyddoedd, rydym wedi ceisio nodi ffyrdd syml o gyfleu uchelgais gymhleth ‘pobl, lleoedd a phartneriaethau’, a ddatblygwyd ar sail ein hawydd pendant i ‘gysylltu, cydweithredu a chreu’.
Er bod record Prifysgol Caerdydd yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn rhagorol, mae cydweithredu’n gryfder craidd. Rydym yn awyddus i ddod â phobl at ei gilydd i weithio ar draws disgyblaethau ac edrych ar yr un broblem o safbwyntiau gwahanol.
Mae ein sefydliadau arloesedd ac ymchwil yn ceisio cyflymu’r broses golegol hon mewn pum maes allweddol. Rydym yn gobeithio datblygu technolegau gwyrdd a gwella rhagolygon o ran cynaliadwyedd, sicrhau lefelau newydd o wydnwch diogelwch, defnyddio’r system imiwnedd i reoli clefydau acíwt a chronig, lleihau baich salwch meddwl ac anhwylderau niwroddirywiol, a nodi ffyrdd o ddefnyddio data a deallusrwydd artiffisial i gefnogi trawsnewidiadau digidol.
Drwy ddod â chydweithwyr o feysydd amrywiol at ei gilydd, bydd y sefydliadau’n gwneud ymchwil ac yn nodi atebion arloesol i broblemau sy’n effeithio ar gymdeithas, yr economi, ein hiechyd, a’r amgylchedd.
Mae ein Sefydliad Arloesedd Trawsnewid Digidol yn gwthio trawsnewidiadau digidol yn eu blaen ac yn canolbwyntio ar atebion yn y byd go iawn sy’n seiliedig ar newidiadau cymdeithasol ac economaidd moesegol, sicr a chadarnhaol.
Mynd ati mewn ffordd ryngddisgyblaethol i sicrhau allyriadau sero net ar lefel dechnolegol ac ar lefel gymdeithasol yw cenhadaeth graidd y Sefydliad Arloesedd Sero Net, tra bod y Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl yn mynd i’r afael â baich cynyddol salwch meddwl ac anhwylderau niwroddirywiol.
Y Sefydliad Arloesedd Diogelwch, Troseddu a Chudd-wybodaeth hynod ryngddisgyblaethol sy’n mynd i’r afael â phroblemau troseddu, diogelwch byd-eang a rheolaeth gymdeithasol, tra bod y Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau’n gwneud ymchwil sy’n trawsnewid y broses gwneud diagnosis, y driniaeth sydd ar gael, ac ansawdd bywyd cleifion.
Mae cyd-greu â’n cymheiriaid a’n harianwyr yn allweddol i lwyddo. Peth addas oedd lansio’r pum sefydliad ym mis Mawrth eleni yn y Sefydliad Brenhinol yn Llundain, sydd wedi ymrwymo i ‘ledaenu gwyddoniaeth at ddibenion cyffredin bywyd’ – gwerth y mae Prifysgol Caerdydd yn ei rannu.
Ymunodd bron i 100 o bobl â ni o’r byd academaidd, y diwydiant, y trydydd sector, gwasanaethau cyhoeddus, a byd llunio polisïau, a roddodd gyfle i ni dynnu sylw at ein gwaith a dangos iddynt sut y byddwn yn datblygu yn y dyfodol.
Roedd yn fforwm gwych ar gyfer gwneud cysylltiadau a sefydlu partneriaethau newydd. Ymhlith y gwesteion roedd cynrychiolwyr cwmnïau mawr, arianwyr, adrannau’r llywodraeth ac elusennau – Airbus, GSK, Johnson Matthey, yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol, Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Llywodraeth Cymru, Ymddiriedolaeth Wellcome, Ymchwil Canser y DU, IBM, BP, Innovate UK, Siemens Healthineers, Takeda a’r Grid Cenedlaethol, i enwi ond ychydig.
Mae’r sefydliadau’n bwysig – yn y sefydliadau hyn y mae cyllid ymchwil sylweddol ychwanegol gwerth £5.4m wedi’i fuddsoddi, ac ar y cyd yn ystod y flwyddyn academaidd hon yn unig, bu iddynt sicrhau gwerth mwy na £23m mewn dyfarniadau newydd.
Er mwyn gallu arloesi, mae tystiolaeth yn dangos bod angen cyfleusterau ac amgylchedd cefnogol iawn. A hwythau wedi’u lleoli yn rhai o gyfleusterau mwyaf newydd Prifysgol Caerdydd, mae’r sefydliadau’n adlewyrchu ein hymrwymiad i ddwyn pobl dalentog ynghyd mewn mannau lle gallant sefydlu partneriaethau hirhoedlog a blaengar.
I’r perwyl hwn, rydym wedi adeiladu sbarc|spark. Mae’n gartref i SPARK, sef parc ymchwil cyntaf y byd ym maes y gwyddorau cymdeithasol, gan gynnwys Arloesedd Caerdydd, sy’n meithrin cwmnïau deillio’r Brifysgol, busnesau newydd, a mentrau busnes. Drws nesaf, mae’r Ganolfan Ymchwil Drosi ar Heol Maendy’n helpu gwyddonwyr ac arweinwyr yn y diwydiant i nodi atebion gwyddonol ym maes sero net, tra bod Adeilad Hadyn Ellis gerllaw’n dod ag arbenigwyr ym maes ymchwil ynghyd i fynd i’r afael â sgitsoffrenia, clefyd Alzheimer, a bôn-gelloedd canser. Mae Campws Parc y Mynydd Bychan, sef cartref Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, yn gweithio drwy Medicentre Caerdydd i greu mentrau technoleg feddygol.
Mae dod â’r meddyliau disgleiriaf at ei gilydd er mwyn ystyried y problemau pwysicaf yn ganolog i’n cenhadaeth. Yn ôl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, mae 90% o ymchwil y Brifysgol yn arwain y byd neu o safon ragorol yn rhyngwladol, ac mae ein hymrwymiad i ymchwil ac arloesedd yn bwysicach nawr nag erioed.
Drwy ein pum sefydliad newydd, gallwn fynd i’r afael â heriau cymdeithasol yn fwy effeithiol a gwella’r effaith rydym yn ei chael yng Nghymru, y DU a’r byd hyd yr eithaf. Rydym yn sefyll dros gynnydd, gyda’n gilydd.’
Yr Athro Roger Whitaker, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter Prifysgol Caerdydd