Skip to main content

Arloesi ClinigolPartneriaethauPobl

Penblwydd hapus yn 30 oed, Medicentre Caerdydd!

19 Rhagfyr 2022

 

Mae Medicentre Caerdydd – y ganolfan deori busnesau gyntaf o’i bath yn y DU – wedi dathlu ei phen-blwydd yn 30 mewn ffordd arbennig o chwaethus. Mae Medicentre Caerdydd, sy’n fenter ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn cynnig popeth boed yn brydlesu desgiau rhad, labordai o safon uchel ar gyfer busnesau newydd neu fusnesau sefydledig ym maes gwyddor bywyd. Mae wedi meithrin 55 o fusnesau, gan gynnwys cwmni deillio o Brifysgol Caerdydd, Alesi Surgical, sydd wedi datblygu a masnacheiddioUltravision– sef y system gyntaf y byd sy’n lleihau mwg llawfeddygol laparosgopig yn yr ystafell lawdriniaeth. Isod mae’r areithiau a gafwyd yn y dathliadau pen-blwydd.

Jeff Andrews, cyn-Bennaeth Datblygu Economaidd, Cyngor Caerdydd

“Mae’r hanes yn mynd yn ôl i ganol yr 1980au pan ddaeth yr Adran Datblygu Economaidd yn yr hyn a oedd bryd hynny’n Gyngor Sir De Morgannwg ac sydd bellach yn Gyngor Caerdydd, yn ymwybodol o fanteision defnyddio prifysgolion ac academyddion entrepreneuraidd i fanteisio i’r eithaf ar lif buddsoddiadau gan brifysgolion yn yr economi leol. Daeth y syniadau y tu ôl iddo o’r Unol Daleithiau yn y lle cyntaf: roedden ni’n meddwl ei fod yn rhywbeth y dylen ni ei gael yma yng Nghaerdydd ac yng Nghymru. Roedd nifer fach o brifysgolion y DU yn rhan o hyn – Caergrawnt, Warwick, Aston, Heriot-Watt – ac yn y bôn, roedden nhw’n datblygu grwpiau o unedau bach a oedd yn rhannu gwasanaethau, meysydd cyffredin a chymorth datblygu busnes lle gallai egin academyddion entrepreneuraidd ddechrau meithrin busnes.

Aethon ni at Brifysgol Caerdydd i gyflwyno’r syniad o greu menter ar y cyd i sefydlu canolfan dechnoleg. Ar ôl trafodaethau helaeth a chyda chefnogaeth Rhodri Morgan, a oedd bryd hynny yn bennaeth swyddfa’r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru, sefydlon ni Ganolfan Technoleg Busnes Caerdydd yng Nghaerdydd.

Wedyn, daethon ni’n ymwybodol o fanteision sefydlu ail ganolfan, y tro hwn gan ganolbwyntio’n amlwg ar y sector meddygol, yr academyddion a’r ymchwil a oedd yn deillio o’r Coleg Meddygaeth, felly sefydlwyd y fenter ar y cyd rhwng y Cyngor Sir, y Coleg Meddygaeth, yr Awdurdod Datblygu ar y pryd ac yn bwysig iawn felly, Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro. Gyda chymorth grant y Comisiwn Ewropeaidd, aethon ni ati i adeiladu’r ganolfan hon.

Mae’r canolfannau hyn mewn cyflwr gwych. Mae 90 y cant o Medicentre, sef 13 o gwmnïau bellach, yn llawn, ac o’r cyfnod cynnar hwnnw 40 mlynedd yn ôl bron iawn, oherwydd egni a brwdfrydedd nifer o bobl, ganed y ganolfan a hi bellach yw’r ganolfan hynod lwyddiannus rydyn ni’n gyfarwydd â hi heddiw.”

Dominic Griffiths, Prif Swyddog Gweithredol, Alesi Surgical – arbenigwyr ym maes llawdriniaeth leiaf ymyrrol a thenant Medicentre ers 2012.

“Rydyn ni wedi bod yma ers deng mlynedd. Yn gwbl briodol felly, mae penwythnos agoriadol niwlog Cwpan Ryder yng Nghasnewydd yn ôl yn 2010 yn crynhoi sut beth yw bod yn gwmni deillio: yn aml byddwch chi ar eich pen eich hun i raddau helaeth, ar fin cychwyn, mae pobl o bob tu yn edrych arnoch chi, a dyma chi’n meddwl ‘gobeithio y bydd yn llwyddo, dim ond datblygu sydd o’n blaenau’, ac er eich bod chi’n meddwl eich bod chi’n gwybod i ble rydych chi’n mynd, mae’r niwl yn disgyn, rydych chi’n curo’r bêl i’r niwl gan obeithio na fyddwch chi’n ei llusgo i’r chwith nac yn ei thynnu i’r dde.

Mae hynny’n crynhoi i raddau helaeth sut deimlad yw creu busnes. Dechreuodd ein hanes yn 2008 pan gwrddais i â Neal Warren, Cyfarwyddwr Sefydliad Therapïau Lleiaf Ymyrrol Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, a oedd yn sefydlu cwmni i wella ansawdd llawdriniaeth laparosgopig ar yr abdomen. Yn fy swydd yn Fusion IP bryd hynny, dyma a ddywedodd wrtho i: ‘Mae gan lawdriniaeth laparosgopig bedair problem fawr : Mae gwir angen imi wella’r gallu i weld yn iawn yn ystod y llawdriniaeth gan fod mwg yn rhwystro’r llygaid rhag gweld yn dda, mae’n wenwynig i weithwyr gofal iechyd proffesiynol, mae’n rhaid inni leihau’r CO2 y mae cleifion yn dod i gysylltiad ag ef, ac mae’n rhaid inni beri bod llawdriniaethau’n fwy effeithlon.

Syniad Neal oedd cymryd proses adnabyddus iawn, sef ïoneiddio neu wlybaniaeth electrostatig, a’i llunio o’r newydd. Cawson ni grant o £25,000 yn y dechrau. Prynon ni ïoneiddiwr gan Boots am £25 a dyma ni’n ei ailwifrio ac anfon electrod ar hyd-ddo, fel pe bai’n feiro mawr, ac wyddoch chi beth, roedd yn gweithio. Oherwydd hyn, aethon ni ati i godi £500k gan Fusion IP ac eraill, gan gynnwys Banc Datblygu Cymru, ac wedyn datblygon ni ddyfais effeithiol. Dair blynedd yn ddiweddarach, cawson ni nod y Gymuned Ewropeaidd ar gyfer ein technoleg.

Bellach, rydyn ni’n gweithio ar dechnoleg y genhedlaeth nesaf a’n gobaith yw lansio’r flwyddyn nesaf. Ar hyd y ffordd, rydyn ni cael y pleser o feddiannu pedair uned yn y Medicentre ym Mhrifysgol Caerdydd, rydyn ni wedi cyflogi pum myfyriwr o Ysgol Peirianneg y Brifysgol, rydyn ni wedi creu chwe astudiaeth gydag academyddion Prifysgol Caerdydd, treial clinigol, wedi codi £16m a oedd wedi creu rhagor o werth, mae gennym 104 o batentau, 60 o ddosbarthwyr ac rydyn ni wedi trin mwy na 30,000 o gleifion.

Ar hyd y daith, rydyn ni wedi cael sawl llwyddiant mawr a sawl tro trwstan a phopeth yn y canol, a’r rheswm dros lawer o’r llwyddiant yw’r cymorth rydyn ni wedi gallu ei gael drwy fod yn un o denantiaid Medicentre.”

Yr Athro Keith Harding, cyn-Gadeirydd Bwrdd Medicentre Caerdydd

“Heb os nac oni bai, teyrnged yw Medicentre Caerdydd i’r weledigaeth roedd gan bobl amser maith yn ôl, a chyfrannodd llawer o bobl yma heddiw at yr hyn a oedd yn arloesi go iawn a oedd yn ategu gwerth y Ganolfan i Brifysgol Caerdydd, i’r Bwrdd Iechyd, i Gymru a thu hwnt.

Rwy wedi bod yma’n denant ac yn arweinydd arloesi clinigol yn y Brifysgol, ac yn fwyaf diweddar felly fi oedd cadeirydd y bwrdd rheoli. A’r hyn y gallwn ei ddathlu go iawn yma ar ein pen-blwydd yn 30 yw ein bod wedi dangos, heb ronyn o amheuaeth, yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd academyddion, clinigwyr a busnesau masnachol yn dod at ei gilydd – helics triphlyg arloesi clinigol felly. Dyna pam, 30 mlynedd yn ddiweddarach, mae 90 y cant o’r Ganolfan yn llawn, ac mae rhagor o le arloesi wrthi’n cael ei greu ym Mharc Cathays.

Rydyn ni yma i aros, ac rydyn ni yma i wneud gwahaniaeth. Mae’n rhaid inni gydnabod ein llwyddiant ar sail sefydliadau unigol ac ar sail pobl sy’n gysylltiedig â’r Medicentre, ac yn bwysicaf oll, rhaid cydnabod y tîm – y bobl sy’n gweithio yma o ddydd i ddydd ac sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn.

Ac mae’n bwysig cydnabod cyfraniad Mair Davies, sydd wedi bod yma ers 30 mlynedd, ers y diwrnod cyntaf un. Mair yw’r glud sy’n dal y Medicentre ynghyd ac yn ei gyrru ymlaen i lwyddiant mawr yn y dyfodol. Diolch yn fawr iawn.”

I gael rhagor o wybodaeth am weithio gyda Medicentre Caerdydd, cysylltwch â: medicentre@caerdydd.ac.uk

Y Corws Rock yn perfformio yn nathliadau pen-blwydd Medicentre Caerdydd yn 30 oed