Skip to main content

PartneriaethauPobl

Arweinwyr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd y dyfodol yn trefnu cynhadledd y CS DUKEE

14 Rhagfyr 2022

Mae arweinwyr yfory ym maes technolegau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn cael eu hyfforddi ym Mhrifysgol Caerdydd. Ac mae eu llwyddiant wedi bod yn amlwg mewn cynhadledd ddiweddar dan arweiniad myfyrwyr, gan ddod â siaradwyr blaenllaw ym myd diwydiant ac ymchwilwyr PhD ym maes gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd o Ganolfan Hyfforddiant Doethurol Prifysgol Caerdydd (CDT) yr EPSRC ynghyd.

Bob blwyddyn mae myfyrwyr yn mlwyddyn gyntaf eu PhD Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn cael y dasg o drefnu cynhadledd. Yn sgîl y digwyddiad eleni yng nghanol Caerdydd o’r enw CS DUKEE (Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn creu Rhagoriaeth yn y DU ac Ewrop), cafodd myfyrwyr yng Ngharfan 3 y cyfle i ymarfer eu sgiliau rheoli prosiectau ac amser, creadigrwydd a negodi, a chafodd Carfan 2 (myfyrwyr PhD ym mlwyddyn 2) y cyfle hefyd i ddangos eu hymchwil mewn cyfres o gyflwyniadau 15 munud deheuig ac effeithiol.

Denodd y myfyrwyr a drefnodd y gynhadledd siaradwyr blaenllaw yn y diwydiant i roi’r prif anerchiadau. Bu Gerry Thurgood o Thermco Systems (a noddodd y digwyddiad yn hael hefyd) yn trafod Strategaeth Lled-ddargludyddion y DU, a rhannodd Mr Enrico D’Angelo, oParkwalk Advisors, ei wybodaeth am lwybrau masnacheiddio ar gyfer cwmnïau deillio technoleg prifysgolion, a hynny er mwyn rhoi syniad i’r myfyrwyr ynghylch sut i ddatblygu eu syniadau ar ôl iddyn nhw raddio.

Daeth y diwrnod i ben pan gafwyd panel a fu’n canolbwyntio ar yrfaoedd yn y diwydiant a oedd yn cynnwys Caroline O’Brian, Prif Swyddog Gweithredol Kubos Semiconductors, y mae ei dechnoleg o’r radd flaenaf yn trawsnewid dyfodol Deuodau Allyrru Golau (LED), Sean Redmond, Prif Swyddog Gweithredol Silicon Catalyst UK, deorydd sy’n canolbwyntio ar atebion ym maes Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, a Gerry Thurgood o Thermco Systems.

Rhannodd y panel eu harbenigedd ar sut roedd gan fyfyrwyr ym maes gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion (CSM) y potensial i gyffwrdd â bywyd pawb yn y byd yn sgîl eu hymchwil. Anogwyd y myfyrwyr i ddod o hyd i lwybr i ddatblygu eu gwerth yn y diwydiant a pheidio â bod ofn ehangu eu hymchwil gan mai lled-ddargludyddion cyfansawdd bellach oedd y trosol mwyaf yn y byd, yn fwy felly nag olew hyd yn oed.

Cafodd y myfyrwyr wybod mai’r swydd orau yw’r un rydych chi’n ei chreu eich hun – a chawson nhw eu hannog i ddechrau eu cwmnïau eu hunain. Canmolodd Gael Giusti, Dadansoddwr Marchnata a Thechnoleg yn Yole Intelligence, y myfyrwyr am eu doniau trefnu. Addawodd y byddai’n dychwelyd y flwyddyn nesaf pan fydd y myfyrwyr yng Ngharfan 4 wrth y llyw’n trefnu a Charfan 3 yn cyflwyno felly.

Dyma a ddywedodd Sarah Brasher, Rheolwr Prosiectau’r CDT: “Roeddwn i wrth fy modd gyda’r ffordd y trefnodd y myfyrwyr y gynhadledd, gan ddangos sgiliau datrys problemau da, sgiliau rheoli prosiectau ac amser, sgiliau cyfathrebu (roedd rhai myfyrwyr yn cyflwyno ac eraill yn cadeirio paneli neu’n cydlynu â’r siaradwyr a’r gwesteion) a sgiliau negodi.

“Dangosodd pob un ohonyn nhw rinweddau a fyddai’n eu gwneud hyd yn oed yn fwy gwerthfawr mewn marchnad swyddi sy’n brwydro i ddenu talent ar y lefel gywir.

“Gwnaethon ni roi cyllideb i Garfan 3 a gadael iddyn nhw drefnu’r cyfan: cawson nhw nawdd gan Sefydliad Ffiseg Cymru a ThermCo, gan gynnal y gynhadledd yng nghrandrwydd Gwesty’r Parkgate, gan ddenu panel o brif siaradwyr o’r radd flaenaf. Allwn i ddim bod yn falchach o’u hymdrechion ac o’n myfyrwyr a fu’n cyflwyno mewn ffordd mor anghygoel.”

Canmolodd Cyfarwyddwr Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol, yr Athro Peter Smowton, bob un o’r myfyrwyr am eu cyfraniadau naill ai’n trefnu neu’n cyflwyno yn y gynhadledd. Cafodd Richard Brown wobr am y cyflwyniad gorau a chafodd Rachel Clarke wobr hefyd am y poster gorau.

Ar hyn o bryd, mae Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol yn recriwtio myfyrwyr ar gyfer Carfan 5 ei raglen pedair blynedd yr EPSRC a ariennir yn llawn. Mae’r rhaglen yn cynnwys gradd meistr integredig ym maes gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion cyfansawdd.

I gael rhagor o wybodaeth am Ganolfan Hyfforddiant Doethurol (CDT) yr EPSRC  ym maes Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, ebostiwch: semiconductors-cdt@caerdydd.ac.ukneu ewch iSut i wneud cais – Canolfan Hyfforddiant Doethurol yr EPSRC ym maes Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (cdt-compound- semiconductor.org)i gael manylion am y broses ymgeisio ar gyfer y rhaglen fydd yn dechrau ym mis Hydref 2023.