Skip to main content

Adeiladau'r campwsPartneriaethauPobl

Adolygiad o’r Flwyddyn

22 Rhagfyr 2022

 

Yn 2022, parhaodd gwaith Prifysgol Caerdydd o droi ymchwil yn atebion byd go iawn ar gyfer problemau dybryd cymdeithas, a hynny ar garlam. Daeth tri buddsoddiad mawr sy’n golygu bod gennym yr adnoddau i drosi’r syniadau hyn, yn realiti.  Fe agoron ni sbarc|spark ar Ddydd Gŵyl Dewi, Abacws ym mis Ebrill, ac agorodd drysau’r Ganolfan Ymchwil Drosi ym mis Gorffennaf.  Crëwyd timau newydd, gwnaethpwyd cytundebau, a chafodd gwobrau eu hennill. Yma, rydyn ni’n edrych yn ôl ar y bobl a’r partneriaethau hynny sydd wedi llywio agenda greadigol y Brifysgol.

Mae wedi cael ei disgrifio fel Uwch Labordy’r Gymdeithas, sydd wedi’i gynllunio i groes-beillio syniadau a sicrhau gwelliannau i fywydau dinasyddion Cymru. Mae SBARC|Spark yn dwyn ynghyd arbenigwyr o grwpiau ymchwil ym maes y gwyddorau cymdeithasol ochr yn ochr â phartneriaid allanol i fynd i’r afael â phroblemau dybryd cymdeithas – o newid hinsawdd i droseddu a diogelwch, iechyd meddwl pobl ifanc, a llawer mwy.

Athro Julia Black

Daeth digwyddiad lansio ym mis Mehefin â ffigyrau blaenllaw o’r cylchoedd hyn i Gaerdydd i ddathlu’r llwyddiant: ymhlith y gwesteion roedd yr Athro Julia Black, Llywydd yr Academi Brydeinig sef academi genedlaethol y DU ar gyfer y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol; Fozia Irfan, Cyfarwyddwr Plant a Phobl Ifanc ar gyfer Plant Mewn Angen, Y BBC; y meddyliwr blaenllaw ym maes ymchwil y gwyddorau cymdeithasol, Syr Geoff Mulgam, ac Adam Price, arweinydd, Plaid Cymru – mae ei syniadau wedi helpu i lunio pwrpas SBARC|spark.

Ar y cyfan, bu i’r flwyddyn gynnig ystod gyfoethog o newyddion ar draws gweithgareddau ymchwil ac arloesedd y Brifysgol. Ym mis Ionawr, enillodd y cyn-ymchwilydd ym maes catalysis, Prifysgol Caerdydd, Dr Alexander O’Malley, Fedal Syr John Meurig Thomas yng Nghynhadledd Aeaf Canolfan Catalysis y DU. Roedd yr Ysgol Seicoleg yn y penawdau gydag ymchwil sy’n awgrymu bod masgiau wyneb amddiffynnol yn gwneud i’r sawl sy’n eu gwisgo edrych yn fwy deniadol.

Ym mis Chwefror, fe elwodd Caerdydd o ganlyniad i £3.4m gan Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI) i greu Rhwydwaith Datblygu fydd yn siapio’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ymchwil.

Cyhoeddwyd partneriaeth strategol newydd rhwng Cynghrair y GW4 a Phorth y Gorllewin, gan gryfhau gweithgareddau ar y cyd a fydd yn sbarduno twf rhanbarthol gwyrdd ac economaidd. Fe agorodd y Brifysgol ddrysau ei Hadeilad Bute sydd newydd ei adnewyddu – prosiect gwerth £17.3m sy’n dod â gweithgareddau Ysgol Pensaernïaeth Cymru (WSA) yn ôl o dan yr un to. Symudodd NESTA, y Sefydliad Materion Cymreig a Bipsync i sbarc|spark

Ym mis Ebrill, rhoddodd y mathemategydd a’r cyflwynydd teledu, yr Athro Hannah Fry, ddarlith wadd i ddathlu agor adeilad newydd sbon Abacws Prifysgol Caerdydd.

 Hannah Fry 

Ym mis Mai, cadarnhawyd bod 90% o’r ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn arwain y byd yn swyddogol neu’n ardderchog yn rhyngwladol yn ôl canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021, a ganfu fod y mwyafrif helaeth o ymchwil a gyflwynwyd wedi sicrhau’r graddau 4* a 3* uchaf.

Ymrwymodd Llywodraeth Cymru a Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd £6m ar gyfer Canolfan Arloesedd Seiber (CIH) dan arweiniad Prifysgol Caerdydd i sicrhau trawsnewid a thwf clwstwr seiberddiogelwch yn ne Cymru.

Ac enillodd Caerdydd £3m i gyflymu cyfnewid gwybodaeth, trosi a masnacheiddio drwy Gyfrif Cyflymu Effaith UKRI (IAA).

Ymunodd SimplyDo â sbarc|spark ym mis Mehefin, ac fe fu’r Clwstwr yn dathlu llwyddiant dros 100 o’i brosiectau creadigol yn Ne Cymru. Ym mis Gorffennaf, bu i Brifysgol Caerdydd a Dŵr Cymru lofnodi partneriaeth strategol ar gyfer cydweithio ac ymchwil yn y dyfodol, a bu i’r Ganolfan Ymchwil Drosi (TRH) agor ei drysau.

Ym mis Medi, bu i Sefydliad Iechyd y Byd fabwysiadu Model Caerdydd ar gyfer mynd i’r afael â thrais, a datblygodd ymchwilwyr o’r Brifysgol brawf gwaed pigo bys sy’n gallu nodi pa bobl sydd fwyaf mewn perygl o gael eu hailheintio â COVID-19.

Ym mis Hydref lansiwyd Media Cymru – cydweithrediad gwerth £50 miliwn i ddatblygu canolfan sy’n arwain y byd ar gyfer arloesedd ym maes teledu, ffilm, a’r diwydiant cyfryngau ehangach yng Nghymru, dan arweiniad Prifysgol Caerdydd gyda chyllid trwy Gronfa Cryfder mewn Lleoedd blaenllaw Ymchwil ac Arloesedd y DU ac ystod o bartneriaid. Enillodd yr Athro Erminia Calabrese, o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd, Fedal a Gwobr Fred Hoyle 2022 y Sefydliad Ffiseg.

Dangosodd adroddiad gan London Economics – un o brif ymgyngoriaethau economeg a pholisïau arbenigol Ewrop – bod Prifysgol Caerdydd wedi cyfrannu £3.68 biliwn at economi’r DU mewn blwyddyn.

Ym mis Rhagfyr, bu i Syr Andrew Mackenzie, cadeirydd Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI), gyfarfod ag ymchwilwyr blaenllaw ar daith ddeuddydd o amgylch cyfleusterau blaengar Prifysgol Caerdydd. Dyfarnwyd £9m dros y pum mlynedd nesaf i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) yn sbarc|spark i barhau â’i hymchwil. Ac mae partneriaeth sy’n hyrwyddo creu crefftau gwaith llaw, gwyrdd, i wella lles pobl sy’n byw gydag anawsterau iechyd meddwl wedi ei sefydlu gan Ymddiriedolaeth Fathom a Phrifysgol Caerdydd.

Yn olaf, peidiwch ag anghofio bod Marchnad Myfyrwyr Cymru yn gydweithrediad gwych arall yng Nghaerdydd sy’n cefnogi graddedigion a myfyrwyr mentrus.

Dymunwn Nadolig amlddisgyblaethol, a Blwyddyn Newydd gydweithredol ichi un ac oll.

homeofinnovation@caerdydd.ac.uk