Skip to main content

Adeiladau'r campwsPartneriaethauPobl

Cyrraedd Spark: Pennod nesaf Y Lab 

29 Tachwedd 2021

Y Lab yw labordy arloesedd gwasanaethau cyhoeddus Prifysgol Caerdydd ar gyfer Cymru. Ei ddiben yw cefnogi gwasanaethau cyhoeddus Cymru i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol. Mae’n gwneud hyn drwy gyfuno dulliau ymchwil gwyddorau cymdeithasol â dulliau a meddylfryd arloesol. Ar hyn o bryd mae gwaith Y Lab yn ymwneud â dau faes yn benodol – eu rhaglenni arloesedd gyda gweision cyhoeddus yng Nghymru, a’u hymchwil ar hanfodion arloesedd mewn gwasanaethau cyhoeddus (gweler isod am y manylion). Yma mae’r Athro James Lewis, Cyfarwyddwr Academaidd Y Lab yn esbonio mwy.

Yn ystod ei chwe blynedd gyntaf, roedd Y Lab yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a Nesta, y sefydliad arloesedd. Nid yw Nesta yn rhan o’r Lab erbyn hyn gan ei bod yn canolbwyntio ar sefydlu Nesta Cymru a sicrhau newid cyffrous yng Nghymru sy’n cyd-fynd yn uniongyrchol â phrosiectau newydd Nesta. Bydd Y Lab yn parhau i fod yn labordy arloesedd gwasanaethau cyhoeddus Cymru, sydd bellach yn cael ei arwain gan Brifysgol Caerdydd yn unig.

Rydym erbyn hyn wedi cyrraedd y pwynt lle y gallwn symud ymlaen o sefydlu Y Lab yn system arloesedd Cymru, i sbarduno newid systemig ledled Cymru ar sail rhagoriaeth ymchwil. Bydd symud i SPARK cyn bo hir yn elfen ganolog o hyn gan ei fod yn cynnig y cyfle i gryfhau ein partneriaethau â chanolfannau ymchwil eraill Prifysgol Caerdydd ac wynebau cyfarwydd eraill. Fodd bynnag, bydd hefyd yn rhoi mynediad digynsail at sefydliadau ar draws pob sector, yn ogystal â’r posibilrwydd o sefydlu rhwydweithiau newydd gydag ymarferwyr arloesedd, gweision cyhoeddus a defnyddwyr gwasanaethau. Nid all neb ddatrys heriau cymdeithasol o bwys ar eu pennau eu hunain, ac rydym yn croesawu’r cyfle i ystyried ffyrdd newydd a chreadigol o fynd i’r afael â’r meini tramgwydd!

Rydym yn awyddus iawn i gryfhau ein partneriaethau gyda’r sefydliadau sy’n mynd i SPARK. Felly, os oes gennych ddiddordeb yn yr hyn a wnawn, neu os ydych am weithio gyda ni ar arwain newid systemig yng Nghymru, cysylltwch â ni drwy ebostio ylab@caerdydd.ac.uk, a gallwn fachu coffi naill ai dros gyfarfod Zoom, neu gwrdd yng nghaffi newydd cyffrous ‘llaeth a siwgr’ SPARK cyn bo hir.

Rhaglenni arloesedd Y Lab 

  • Gweithiodd rhaglenArloesi er mwyn Arbed, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a’i chyflwyno gan Y Lab, gyda 15 tîm o weision cyhoeddus Cymru i brofi syniadau a allai wella gwasanaethau ac arbed arian.
  • Rhaglen HARP (Iechyd, Celfyddydau, Ymchwil, Pobl), a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac sy’n cael ei chyflwyno gan Y Lab, Nesta Cymru, a thîm Canlyniadau Pŵer Pobl Nesta, yn gweithio gydag 17 o dimau ar draws byrddau iechyd, awdurdodau lleol ac artistiaid i gael gwell dealltwriaeth o sut allai ymyriadau celfyddydol gael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles pobl yng Nghymru.
  • Rhaglen Infuse a ariennir gan WEFO ac sy’n cael ei chyflwyno gan Y Lab, Nesta Cymru, a Chyngor Sir Fynwy, yn gweithio gyda 120 o weision cyhoeddus o’r deg awdurdod lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd i wella sgiliau ym meysydd Addasu, Data a Chaffael i gyflymu datgarboneiddio a chreu cymunedau cefnogol.
  • Cronfa Her a ariennir gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac sy’n cael ei chyflwyno gan y Ganolfan Ymchwil Polisi Arloesedd, Y Lab a swyddfa’r Fargen Ddinesig, i helpu gwasanaethau cyhoeddus yn y rhanbarth i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol wrth dyfu’r economi leol.
  • Cadw Cymru’n Ddiogel: Rhaglen Ymddygiadau COVID, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac sy’n cael ei chyflwyno gan y Tîm Cipolygon Ymddygiadol, Y Lab, a thîm Canlyniadau Pŵer Pobl Nesta. Mae’n defnyddio cipolygon ymddygiadol i helpu pobl i leihau risgiau COVID drwy gynyddu profion mewn poblogaethau allweddol.

Prosiectau ymchwil Y Lab

Mae gan bob un o’n rhaglenni uchod elfen werthuso sy’n canolbwyntio ar ymchwil ar gyfer dysgu. Dyma rai enghreifftiau o brosiectau ymchwil eraill yr ydym yn eu cynnal:

  • Mae Dementia ac Amrywiaeth, a ariennir gan CCAUC, yn mynd i’r afael â’r bwlch sylweddol wrth ddeall anghenion cymunedau amrywiol o bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr yng Nghymru, ac ymgysylltu â nhw. Enillodd Wobr Cynnwys y Cyhoedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2021.
  • Mae Barts Shielders, a ariennir gan wobr IAA ESRC, wedi cynhyrchu strwythur cymorth ar y cyd i amddiffyn aelodau staff yn ymddiriedolaeth GIG Barts, gan ddefnyddio dull arloesi cymdeithasol. Arweiniodd hyn at amrywiaeth o fanteision gyda llawer yn cyfeirio at y cymorth fel rhywbeth ‘amhrisiadwy’. Roedd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Ymgysylltu â Staff Cyfnodolyn Gwasanaethau Iechyd 2020.
  • Mae Cyllid arloesedd a rhywedd, a ariennir gan Nesta, wedi archwilio data y mae Nesta yn ei ddefnyddio i greu grantiau i ddisgrifio’r cydbwysedd rhwng y rhywiau ar draws ystod o raglenni ariannu. Mae hyn yn cynnwys edrych ar bob rhan o’r broses, o fynegi diddordeb i wneud ceisiadau am ddyfarniadau ariannol, gan arwain at adroddiad manwl gydag ystod o argymhellion.
  • Edrychodd Cyllidebu cyfranogol, a ariennir gan wobr IAA ESRC, ar sut y gallai cymdeithas dai gynnal ymarfer cyllidebu cyfranogol gyda’i thenantiaid, a chael dealltwriaeth well o effeithiau’r broses ar denantiaid.
  • Grymuso Cyfreithiol Cymunedol yn Lesotho, a ariennir gan IAA ESRC a GCRF, yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Gyfreithiol Seinoli yn Lesotho i ddeall a chofnodi effaith eu dull arloesol o rymuso cyfreithiol cymunedol.
  • Gweithiodd Rhwystrau lledaeniad arloesedd, a ariennir gan wobr Effaith SPARKing, gyda swyddog o Lywodraeth Cymru ar secondiad i Y Lab i gael gwell dealltwriaeth o’r hyn sy’n ‘atal arferion da rhag lledaenu’ yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru, gan arwain at ddau weithdy wedi’u hwyluso.

 

Yr Athro James Lewis

Chyfarwyddwr , Y Lab