Skip to main content

PartneriaethauPobl

Hyfrydwch y Nadolig ym Marchnad Myfyrwyr Cymru

22 Tachwedd 2021

Os ydych chi’n chwilio am anrheg y Nadolig hwn, beth am bori trwy Farchnad Myfyrwyr Cymru? Pan wnaeth COVID fygwth Nadolig 2020, methwyd cynnal y marchnadoedd myfyrwyr traddodiadol ym mhrifysgolion Cymru. Ond llwyddodd Marchnad Myfyrwyr Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, i gynnig lle ar-lein i fyfyrwyr werthu eu nwyddau.

Mae’r platfform yn parhau i dyfu. Ar hyn o bryd mae’n cynnal dros 150 o fusnesau myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr ac wedi derbyn dros 8,000 o ymwelwyr ers ei lansio.

Mae Prateeksha Pathak (Critical and Cultural Theory 2019-) , cynfyfyriwr o Gaerdydd, yn rhedeg Kashmir Untold – sefydliad nid er elw sy’n helpu pobl Jammu a Kashmir trwy werthu gwaith llaw a pheiriannau gwehyddu â llaw a gynhyrchir gan gymunedau o grefftwyr.

“Mae COVID a gwleidyddiaeth barhaus wedi cael effaith wael ar y gymuned, gan eu gadael heb unman i droi ac mewn dyled,” meddai Prateeksha. “Mae ein helw yn mynd tuag at les y cymunedau a chofnodi straeon y rhai a chafodd eu gorfodi i adael eu cartrefi.

“Y Nadolig hwn, mae gennym grefftau o Kashmir sydd wedi’u gwneud a’u paentio â llaw. Mae pob eitem wedi’i grefftio â chariad ac wedi cymryd misoedd o waith caled i’w greu – a gyda phob archeb rydych chi’n cael nodyn personol o ddiolch, cerdyn post a thaleb gostyngiad. Mae’n ffordd berffaith i oleuo bywydau pobl y Nadolig hwn! ”

Cyd-sefydlodd Graddedigion Caerdydd, Fozan Ghalib (BScEcon 2016, MBA 2017) a MehJabeen Moghal (MPharm 2016), tîm gŵr a gwraig Bahaar Kitchen yng nghanol y pandemig byd-eang. Mae’r Citiau Sbeisiau’n cael eu gwneud yn ofalus â llaw gyda’r sbeisys o safon uchel mewn pecynnau bychain er mwyn eu cadw’n ffres, gan sicrhau bod pob pryd yn daith o aroglau a blasau.

“Rydym yn fwydgarwyr brwd sy’n angerddol am fwyd Pacistanaidd, ei flas cyfoethog, ei sbeisys amrywiol, dulliau traddodiadol o goginio, a’i flas anghredadwy. Rydyn ni wir yn credu nad yw coginio yn sgil sydd wedi’i gyfyngu i rai a bod gan bawb y gallu i goginio, ond mae angen ei ddarganfod.”

“Rydyn ni’n dod o hyd i’r sbeisys mwyaf ffres, yn mesur meintiau perffaith ac yn eu pacio â llaw i’n rysáit citiau sbeisiau i dywys eich blasbwyntiau i Bacistan – profiad unigryw na allwch ei gael o gymysgedd sbeis rheolaidd a brynir mewn siop,” meddai Fozan a MehJabeen.

“Byddent yn anrhegion Nadolig gwych i’w rhoi mewn sach ac i rannu’r llawenydd o goginio prydau bwyd yr ŵyl hon.”

Mae’r Farchnad yn cynnig ystod eang o syniadau Nadoligaidd gan fyfyrwyr a graddedigion ledled Cymru.

Mae cynfyfyriwr o Brifysgol Bangor, Olivia Aveyard, yn rhedeg Liv’s Pet Portraits Mae Olivia yn arlunydd sy’n arbenigo mewn paentio anifeiliaid, ac mae hi’n cynhyrchu portreadau o anifeiliaid anwes o luniau ohonyn nhw.

“Mae fy mhortreadau yn anrhegion unigryw i anwyliaid y Nadolig hwn, a gallant hefyd fod yn ffordd arbennig o gofio’ch anifail anwes,” meddai Olivia, sy’n cynnig ystod o feintiau a phrisiau i weddu gan gynnwys paentiadau ar gynfas a cherdyn o £39 y portread.

Ffion Williams, Prifysgol De Cymru, sy’n cynnal Ffion Wyn Artisan. Mae Ffion yn ddylunydd uchelgeisiol sydd wedi cael ei dylanwadu gan dreftadaeth a thraddodiadau Cymru. Mae hi’n cynnig dillad moethus modern ac eitemau eraill sy’n cyfuno elfennau o ddylunio cyfoes a thraddodiadol.

“Ar hyn o bryd rwy’n gwerthu ffedogau, tyweli te a blancedi cnu mewn amrywiol liwiau yn seiliedig ar batrwm blanced tapestri enwog Cymru,” meddai Ffion.

Dan arweiniad Rifhat Qureshi (BSc 2019), o Fenter Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, roedd Marchnad Myfyrwyr Cymru yn gynnyrch gwasanaeth Syniadau Mawr Cymru, y gwasanaeth ar gyfer entrepreneuriaeth ifanc yng Nghymru, sy’n rhan o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Mae’n dwyn ynghyd 23 o sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch ledled Cymru.

Dywedodd Rifhat: “Rydyn ni’n gobeithio y gall pawb gefnogi’r myfyrwyr a chynfyfyrwyr trwy siopa ym Marchnad Myfyrwyr Cymru y Nadolig hwn. Mae’r cydweithrediad yn parhau i ddatblygu gyda phrosiectau mwy cyffrous ac effeithiol, gyda’r nod o feithrin y genhedlaeth nesaf o arweinwyr mentrus. ”

Ymweld: https://walesstudentmarket.co.uk/