Skip to main content

Adeiladau'r campwsPartneriaethauPobl

Gwneud gwahaniaeth o’r newydd

1 Tachwedd 2021

Sut y gall Cymru gyfrannu at garbon ‘sero-net’ erbyn 2050? Mae mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd drwy leihau allyriadau carbon a lleihau ein defnydd ohonyn nhw yn ganolog i Gynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd yn Glasgow yr wythnos hon. Pan fydd RemakerSpace yn agor y gaeaf hwn, bydd yn helpu i bontio’r bwlch rhwng byd diwydiant ac addysg – dau sector sydd wrth wraidd datrys her fwyaf y blaned. Yr Athro Aris Syntetos a Dr Daniel Eyers sy’n esbonio.

“Mae’r byd yn sôn llawer am newid byd-eang i ‘economi gylchol’ – ailddefnyddio, ailwneud, ailgylchu. Ond heb newid sylweddol mewn agweddau i ffwrdd â hi, ein tynged yw siarad amdano a dim byd arall. Os ydyn ni eisiau lleihau allyriadau, mae rhoi ein neges gylchol i bawb drwy ddangos hyn mewn ffordd ymarferol yn allweddol.

ByddRemakerSpace yn cael ei lenwi â’r offer sydd eu hangen ar bobl i ailddefnyddio ac ail-weithgynhyrchu, gan gynnwys llifau traddodiadol,  peiriannau gwnïo ac Argraffwyr 3D o’r radd flaenaf. Allgymorth yw’r hyn sy’n bwysig – ennill calonnau ac ail-ddyfeisio meddyliau. Gweithio gyda chymunedau yng Nghymru yw ein blaenoriaeth gyntaf, sef helpu pobl i ddefnyddio offer ail-weithgynhyrchu gyda chymorth Caffi Trwsio Cymru.

Byddwn ni’n gweithio gyda myfyrwyr – yn ysgolion, colegau a phrifysgolion Cymru. A byddwn ni’n rhoi hyfforddiant a’r cyfle i rwydweithio i fusnesau a chadwyni cyflenwi yng Nghymru, gan eu helpu o ran cysyniadau am ail-weithgynhyrchu a’r economi gylchol yn ehangach.

Yn ogystal â chynnig arbenigedd i fusnesau wrth roi strategaethau ail-weithgynhyrchu ar waith, byddwn ni’n helpu unigolion i atgyweirio eitemau trydanol bach, dodrefn (pren yn enwedig), gemwaith, dillad a nwyddau cartref yn gyffredinol, gan atal creu gwastraff.

Sefydliad Gweithgynhyrchu, Logisteg a Stocrestri PARC Prifysgol Caerdydd sydd wedi creu RemakerSpace. Bydd RemakerSpace, sy’n rhan o adeilad hardd a newydd sbarc | spark yng Nghaerdydd ar Gampws Arloesedd Caerdydd, yn derbyn cymorth DSV, sy’n cynnwys offer a ariennir yn gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru.

sbarc | spark yw ‘Cartref Arloesedd’ y Brifysgol. Dyma le y bydd ymchwilwyr, entrepreneuriaid a buddsoddwyr yn creu cynnyrch, prosesau a ffyrdd newydd o weithio.

Perwyl pennaf RemakerSpace yw newid agweddau, ond ar ben hynny maen nhw’n awyddus i dynnu sylw at y manteision y gall ail-weithgynhyrchu ac atgyweirio ei gynnig i fusnesau, o ystyried bod yr elw ar fuddsoddiadau yn sgîl ail-weithgynhyrchu hyd at bum gwaith yn fwy na chynhyrchu o’r newydd.

Rydyn ni hefyd eisiau annog pobl i ystyried atgyweirio yng nghyd-destun dylunio cynnyrch yn ogystal â’r hyn fydd yn digwydd ar ddiwedd eu hoes. Mae hyn yn digwydd pan fydd sefydliadau’n mabwysiadu technolegau newydd megis Gweithgynhyrchu Haen-ar-Haen / Argraffu 3D ac atebion arloesol ym maes prosesu gwastraff.

Byddwn ni’n cael yr wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau polisi yn y dyfodol drwy barhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Rydyn ni eisoes wedi gwneud hyn yn ystod yr achosion o Covid-19 pan gefnogon ni’r gwaith o weithgynhyrchu cyfarpar diogelu gyda’n partner yn PARC, DSV, a phartneriaid yn y GIG a Llywodraeth Cymru.

A phan fyddwn ni ar agor, byddwn ni’n gallu gwneud rhagor. Bydd gan RemakerSpace sganwyr a meddalwedd Peirianneg o Chwith, gliniaduron, byrddau gwaith ac ategolion o’r safon orau, ynghyd â sbectol realiti rhithwir ac olrhain cannwyll y llygad. Ar ben hyn, bydd gennym gyfarpar ‘gweithdy’ mwy confensiynol. Ac i’n helpu i ledaenu’r neges, rydyn ni’n gobeithio cael defnyddio cyfleusterau cynadledda a chyflwyno o’r radd flaenaf fel y gallwn ni rannu ein gwaith i Gymru a thu hwnt.

Gwyliwch y gofod hwn i gael y newyddion diweddaraf. Mae a’r gobaith yw y bydd ein cyfarpar yn cael ei osod mewn dwy ystafell fawr ar lawr gwaelod sbarc | spark fis nesaf. Rydyn ni’n gobeithio cynnal lansiad ffurfiol y gwanwyn nesaf.

Gyda chefnogaeth staff proffesiynol amser llawn, bydd RemakerSpace yn ddigwyddiad o bwys yn fyd-eang –  partneriaeth deirffordd rhwng y byd academaidd, byd diwydiant a’r llywodraeth sy’n rhannu’r un nod, sef cefnogi’r economi gylchol trwy ymestyn cylch bywyd cynnyrch, rheoli darfodiad ac addasu ymddygiad cynaliadwy.

Bydd cadw’r caead ar y cynnydd o 1.5°C yn y tymheredd byd-eang yn golygu mwy na newid i ynni adnewyddadwy, ynni gwyrdd ac ailgylchu. Mae RemakerSpace yn gam bach i’r cyfeiriad cywir tuag at gadwyni cyflenwi sydd heb ddeunyddiau – a chylchol yw’r cyfeiriad hwnnw.”

I gael rhagor o wybodaeth am weithio gyda RemakerSpace, cysylltwch ag Aris Syntetos SyntetosA@caerdydd.ac.uk– neu Daniel Eyers – EyersDR@caerdydd.ac.uk