Postiwyd ar 5 Gorffennaf 2021 gan Peter Rawlinson
Gall dewis y dodrefn, y gorffeniadau a’r gosodiadau cywir ar gyfer adeilad ysbrydoli creadigrwydd, gan roi bod i syniadau. Mae Prifysgol Caerdydd wedi creu partneriaeth gyda BOF ym Mhen-y-bont ar Ogwr i ddodrefnu sbarc | spark – 'Cartref Arloesedd' y Brifysgol yn y dyfodol, ac mae disgwyl iddo agor y gaeaf hwn. Ac fel sy'n gweddu i ganolfan arloesedd, hyblygrwydd fydd yr allweddair. Dyma’r hyn a esboniodd Kate Lane, Rheolwr Pontio sbarc | spark y Brifysgol. “Yn y ras i’w gwblhau, mae adeilad sbarc | spark yn go agos at y llinell derfyn. Mae’r gwaith mecanyddol a thrydanol yn ogystal â’r plymio wrthi’n cael ei gwblhau; bydd y gosodiadau, y ffitiadau a’r dodrefn yn mynd i mewn i'r adeilad yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf. Ymgymeriad mawr yw hyn. Bydd pedwar cant o ymchwilwyr a staff y gwyddorau cymdeithasol yn symud i sbarc | spark o'u swyddfeydd gwasgaredig, ac mae llawer ohonyn nhw mewn adeiladau Fictoraidd hŷn ar hyd Plas y Parc. Mae tua 13 o grwpiau ymchwil y gwyddorau cymdeithasol wedi dod at ei gilydd fel SPARC - y parc ymchwil ar gyfer y gwyddorau cymdeithasol. Ar ôl iddyn nhw symud i'w cartref newydd ar Gampws Arloesedd Caerdydd, yn y pen […]