Llwyddiant a chydnabyddiaeth i Smallspark o Gaerdydd
12 Mai 2020Mae Systemau Gofod Smallspark wedi cofrestru ar gyfer y rhwydwaith cefnogi busnesau cenedlaethol, SPRINT, fydd yn caniatáu mynediad at gyllid ar gyfer prosiect mawr sy’n ceisio defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) i wella a datblygu perfformiad aerostrwythurau a systemau gyriant.
Ariennir y prosiect gan grant o £100,000 gan y rhaglen SPRINT (Rhwydwaith Ymchwil Gofod ac Arloesedd Technoleg), sydd werth £4.8 miliwn, ac sy’n cynnig mynediad digynsail at arbenigedd a chyfleusterau gofod y brifysgol. Mae SPRINT yn helpu busnesau drwy fanteisio ar ddata a thechnolegau gofod yn fasnachol.
Dywedodd Joe Ward, Prif Swyddog Gweithredol Systemau Gofod Smallspark, wnaeth raddio o Brifysgol Caerdydd: “O ran dyluniad ein peiriannau a’n meddalwedd AI, rydym yn defnyddio dull hollol wahanol. Mae cwmnïau awyrofod a lloeren yn bwriadu lleihau costau lansio lloerenni bychain, wrth wella cadernid a phŵer y peiriannau roced. Mae hyn a geometreg siambrau hylosgi’n creu cyfres o heriau unigryw i wneuthurwyr peiriannau. Megis dechrau yw’r cydweithio hwn ar brosiect hirdymor fydd yn mynd y tu hwnt i SPRINT, fydd yn golygu bod Smallspark yn arweinydd o ran lansiadau cost-isel; yr unig gwmni sy’n defnyddio pensaernïaeth fel hyn yn y farchnad peiriannau roced.”
Yn ddiweddar, cafodd tîm Smallspark gydnabyddiaeth ryngwladol gan mai nhw oedd unig gais y DU yng ngwobrau Llwyddiannau Gweithwyr Proffesiynol Ifanc a Myfyrwyr Via Satellite 2019 yn dilyn eu llwyddiant yng ngwobrau busnesau newydd myfyrwyr Prifysgolion Santander.
Dywedodd Mr Ward am y llwyddiant, “rydym ni wedi gweithio drwy’r nos ar sawl achlysur i gyrraedd y pwynt hwn, ond o’r diwedd mae’n dechrau dwyn ffrwyth. Rwy’n methu aros i’n tîm dyfu ychydig yn fwy cyn bo hir. Dwi eisiau gwneud Smallspark y prif ddarparwr o gerbydau lansio bach yn Ewrop cyfan ymhen y degawd, ac yn gwmni y gall Cymru fod yn falch ohono.
Dywedodd Rheolwr Mentergarwch Prifysgol Caerdydd, Rhys Pearce-Palmer: “Fel myfyriwr, roedd Joe’n gwneud defnydd helaeth o’r gefnogaeth oedd ar gael i fusnesau newydd gan yr Adran Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd. Roeddem yn gallu cynnig mentora busnes iddo, cyllid egin-fusnes a gofod swyddfa. Yn y pen draw, arweiniodd hyn at SmallSpark yn ennill Gwobrau Mentrau Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn 2019. Does dim syndod bod SmallSpark wedi parhau i fynd o nerth i nerth. Mae’r llwyddiant diweddaraf yn deyrnged i fentergarwch Joe, a’r ffaith ei fod yn raddedig uchelgeisiol tu hwnt.