Skip to main content

Adeiladau'r campws

Sut mae ‘Model Caerdydd’ yn mynd i’r afael â thrais yn yr Unol Daleithiau

2 Mawrth 2020

Mae saethu torfol diweddar ym Milwaukee wedi lladd chwech o bobl. Mae’r Athro Jonathan Shepherd yn adnabod y ddinas hon yn yr UDA yn dda: mae un o’i maestrefi, West Allis, eisoes wedi mabwysiadu ‘Model Caerdydd’ er mwyn mynd i’r afael â thrais. Mae’r Athro Shepherd yn gobeithio y bydd y digwyddiad erchyll yn sbarduno maer y ddinas, Maer Barrett, i gyflymu rhaglenni atal trais a gweithredu Model Caerdydd ar draws y ddinas, gan roi Bwrdd Atal Trais wrth ei wraidd. Mabwysiadwyd y Model yn genedlaethol – ond mae sylfaenydd Grŵp Ymchwilio i Drais Prifysgol Caerdydd yn dadlau bod angen i feiri dinas ei weithredu nawr. Yma, mae’n myfyrio ar daith y Model o’i astudiaethau PhD ei hun i strydoedd rhai o ddinasoedd mwyaf treisgar America.

“Prin y gwnes i ddychmygu y byddai anfon ein gwerthusiad cyhoeddedig o strategaeth atal trais newydd i ychydig o gannoedd o droseddegwyr o gwmpas y byd yn gam hanfodol tuag at ei fabwysiadu yn ffurfiol yn yr Unol Daleithiau.

Mae’r strategaeth newydd hon, a gychwynnwyd ac a ddatblygwyd yng Nghaerdydd gan bartneriaeth a gadeiriwyd gennyf am 20 mlynedd o Orffennaf 1997, yn seiliedig ar y darganfyddiad yn fy astudiaethau PhD ac wedi hynny, nad yw’r rhan fwyaf o drais sy’n arwain at driniaeth frys mewn ysbyty yn hysbys i’r heddlu. Mae Model Caerdydd yn cynnwys casglu gwybodaeth mewn adrannau brys, ei gwneud yn ddienw, ei rhannu a’i defnyddio er mwyn atal trais. Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys lleoliadau cywir ar gyfer trais, amseroedd, arfau a nodweddion ymosodwyr.

Moelodd un o dderbynwyr y gwerthusiad hwn, Robert Boruch, ei glustiau, Robert oedd yr athro yn ysgol Wharton ym Mhrifysgol Pennsylvania ac yn eiriolwr dros bolisi ar sail tystiolaeth, ac yn anfonodd y papur at un o’i gyn-fyfyrwyr graddedig, Laura Leviton, a oedd ar y pryd hwnnw yn Sefydliad Robert Wood Johnson (RWJS), y corff dyngarol mwyaf yn yr Unol Daleithiau sy’n canolbwyntio’n llwyr ar iechyd. Ar ôl ymgynghori, gan gynnwys gyda Tom Simon a Curtis Florence, fy ngyd-awduron yn asiantaeth iechyd cyhoeddus ffederal yr Unol Daleithiau, y Canolfannau ar gyfer Rheoli ac Atal Clefydau (CDC), daeth Dr Leviton ar ymweliad i Gaerdydd i ddarganfod mwy am y Model. Cafwyd grant sylweddol wedyn, a ariannodd ddyblygu a gwerthusiad proses o’r Model yn Atlanta a Philadelphia.

Ar hyd y ffordd, ariannwyd canolfan ymchwilio i anafiadau’r CDC ym Milwaukee, Wisconsin, gan Biwro Cynorthwyo Cyfiawnder yr UDA i efelychu’r Model yno.
Dilynodd llawer o ddarlithoedd a gweithdai yn y dinasoedd hyn wedyn. Roeddwn eisoes wedi’i gyflwyno yn y CDC, gan gyfuno ymweliadau â chyfarfodydd Cymdeithas Troseddeg America lle y gwnes i gyflwyno ymchwil fy nhîm. Cyhoeddwyd ein dadansoddiad cost a budd yn ystod y cyfnod hwn; roedd yn amlwg bod yr arbedion cost gan iechyd, y system gyfiawnder a’r awdurdodau lleol sy’n gysylltiedig â’r trais a gaiff ei atal yn drech o lawer na chostau gweithredu a chynnal y Model. Yn fwyaf pwysig, wrth gwrs, i ddinasyddion a’u teuluoedd mae’r poen, y dioddefaint a’r golled sy’n cael ei osgoi’n enfawr.

Yr Athro Shepherd yn Philadelphia

Roedd dyblygu’r model yn nodi materion sy’n benodol i’r UDA. a all ddylanwadu ar ei weithredu. Er enghraifft, er bod Caerdydd, Dinas gydag oddeutu hanner miliwn o bobl, yn cael ei gwasanaethu gan un adran achosion brys yn unig, mae gan ddinas o faint tebyg yn yr Unol Daleithiau nifer o Adrannau Brys. Gyda lwc, fodd bynnag, mae’r broses o weithredu’r Model yn Llundain yn cynnwys casglu data mewn 29 o adrannau achosion brys ac roedd tîm SafeStats Awdurdod Llundain Fwyaf wedi datblygu ffordd o gyfuno a dadansoddi data o nifer o safleoedd. Dyma ateb a gafodd ei deilwra bron ar gyfer yr Unol Daleithiau.

Mater arall oedd yr arweiniad ar rannu gwybodaeth a gasglwyd mewn ysbytai, hyd yn oed gwybodaeth wedi’i dadbersonoleiddio megis yr hyn sy’n allweddol i Fodel Caerdydd, gyda’r heddlu a llywodraethau trefol. Yn y DU, roedd hyn wedi cael ei ystyried a’i gymeradwyo gan gomisiynwyr gwybodaeth y DU a chafodd data Model Caerdydd ei godio ar ôl hynny gan GIG digidol. Roedd angen arweiniad a sicrwydd tebyg yn yr Unol Daleithiau.

Cyflwynwyd y rhain pan gyhoeddwyd pecyn Model Caerdydd yn yr hydref yn 2017. Mae hyn yn cynnwys canllawiau i ddinasoedd y DU ar sefydlu’r Model, a chanllawiau i ysbytai a chyrff gorfodi’r gyfraith, ystyriaethau technegol ac ariannol cyfreithiol, meithrin partneriaethau, cysylltiadau allanol a chysylltiadau â’r cyfryngau a “rhestr wirio parodrwydd” ar gyfer dinasoedd ac asiantaethau perthnasol. Yn ei gyflwyniad, mae Cyfarwyddwr CDC James Mercy yn ysgrifennu “Rydym yn eich annog i ddefnyddio’r deunyddiau hyn i greu partneriaeth eang i atal trais yn eich cymuned”.

Rhoddwyd rhagor o grantiau yn yr Unol Daleithiau i gefnogi gweithredu Model Caerdydd, gan gynnwys ei gymhwyso i fapio gorddosau o gyffuriau nad yw asiantaethau heblaw iechyd yn gwybod amdanynt. Ar ddiwedd 2019 ariannodd CDC astudiaeth arall o hwyluso a rhwystro dylanwadau ar weithrediad.

Mae’r angen am y model a’i berthnasedd wedi cael hwb yn yr Unol Daleithiau gan astudiaeth ddiweddar sy’n dangos nad yw bron i 90% o drais sy’n arwain at driniaeth frys yn yr ysbyty yn nhalaith Georgia yn hysbys i’r heddlu yno, dyma gyfran uwch o lawer nag yng Nghymru a Lloegr yn ôl Arolygon Troseddu olynol.

Fel yn y DU, mae’r straeon am atal trais a gyflawnir drwy’r model yr un mor gymhellol â’r data. Yn West Allis, un o faestrefi Milwaukee, roedd data Model Caerdydd yn nodi ysgol lle y ceir llawer o blant sy’n dioddef o niwed treisgar – ysgol nad oes modd ei hadnabod o unrhyw ffynhonnell arall o wybodaeth. Yn Atlanta, dangosodd data Model Caerdydd fod canolfan siopa, gorsaf petrol a hostel gyllideb lle y ceir cryn dipyn o drais difrifol, gan alluogi asiantaethau yno i recriwtio rheolwyr o’r lleoliadau hyn i bartneriaeth model Caerdydd.

Fel yn y DU hefyd, mae gwersi a ddysgwyd o weithredu Model Caerdydd yn cael eu dysgu am fecanweithiau atal. Yn y byrddau aml-asiantaeth sydd wrth wraidd y Model, y byrddau sy’n gweithredu dulliau atal ymarferol yn seiliedig ar y data, cynhyrchir atebolrwydd ar y cyd – ni chynhyrchir atebolrwydd os bydd asiantaethau’n gweithio yn eu silos traddodiadol.

Nid oes unman lle mae’r fath gweithio mewn silos a’r angen am atebolrwydd yn fwy amlwg nag ym maes plismona yn yr Unol Daleithiau lle y ceir 18,000 o adrannau heddlu, rhai gydag ychydig o swyddogion yn unig, ac mae’n bosibl nad ymddiriedir ynddynt ac nas gwelir fel rhai dilys, Argymhellodd Adroddiad a gychwynnwyd gan yr Arlywydd Obama yn 2015 “y dylai asiantaethau gorfodi’r gyfraith ddefnyddio ymagweddau timau amlddisgyblaethol, cymunedol ar gyfer cynllunio, gweithredu ac ymateb.” Fel yr wyf i a Steve Sumner yn CDC wedi ysgrifennu, mae Model Caerdydd yn darparu glasbrint ar gyfer gwaith tîm.

Wrth ysgrifennu hwn ar ddesg yn y Sefydliad Ymchwilio i Droseddau a Diogelwch mae delwedd yn dod i’r meddwl o’r arwydd ar ddrws bwyty yn Atlanta, “Cinio Caerdydd”, gan gyfeirio’r heddlu, swyddogion iechyd a gweithredwyr llywodraeth leol i’w swper ar ôl diwrnod o weithdai.

I mi er hynny, roedd yn arwydd bod Model Caerdydd wedi troi’n un o allforion Cymru mewn gwirionedd.”

Yr Athro Jonathan Shepherd, Grŵp Ymchwilio i Drais, Prifysgol Caerdydd ShepherdJP@cardiff.ac.uk

Mae cyfweliad model Caerdydd diweddar gyda’r Athro Shepherd gan y gohebydd Talis Shelbourne wedi ei gyhoeddi yn y Milwaukee Journal Sentinel