Neges gan Ysgrifennwr Gwadd: Llwyddiant entrepreneur Caerdydd â Realiti Rhithwir
17 Ionawr 2019Mae George Bellwood yn fyfyriwr Rheoli Busnes, Marchnata ar ei drydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn Sylfaenydd/Cyfarwyddwr Virtus Tech.
Darlith oedd sbardun y syniad o fod yn entrepreneur i mi, gwelais gyfle i newid y profiad ar-lein ar gyfer defnyddwyr, a bachu’r cyfle hwnnw.
Mae Virtus Tech yn gwmni technoleg newydd sy’n cynnig gwasanaethau Realiti Rhithwir, Realiti Estynedig a Deallusrwydd Artiffisial i fusnesau, gan gynyddu eu rhyngwyneb ar-lein a phrofiad â chwsmeriaid yn y siop.
Mae’r cwmni, a grëwyd yn ffurfiol yn fy llety myfyriwr bellach wedi’i leoli dros dro yn y Cardiff NatWest Entrepreneurial Accelerator Hub yng nghalon Caerdydd.
Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gydag ystod o gleientiaid, o gorfforaethau bychain i rai gwerth miliynau o bunnoedd ar draws y DU, ac yn gweithredu mewn gwahanol ddiwydiannau.
Dechreuais Virtus Tech yn 2018 yn ystod fy nhrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd, lle astudiais Rheoli Busnes, Marchnata.
Yn ystod darlith Marchnata a Strategaeth un prynhawn dydd Mawrth, buom yn trafod goblygiadau siopa ar-lein a’r modd mae tranc y stryd fawr yn y DU yn tyfu i fod yn fater cenedlaethol o bwys i fanwerthwyr annibynnol yn ogystal â masnachol. O gael profiad gwaith ym maes manwerthu yn y gorffennol, roeddwn wedi bathu ffordd arloesol newydd o addasu technoleg a siopa ar-lein, gan greu ateb posibl i’w problemau.
Cyn imi ddechrau fy nhaith, penderfynais ofyn i Dr Eleri Rosier, fy narlithydd Marchnata a Strategaeth, am gyngor arbenigol a chyngor ar y syniad newydd, a daeth i’r amlwg fy mod wedi taro ar rywbeth.
Ar ôl cael y cyfarfod, roeddwn yn benderfynol o gael cwmni cofrestredig llawn a gyda chefnogaeth gan Dr Rosier a’m tiwtor personol, Dr Anthony Samuel. Cofrestrais Virtus Tech yn swyddogol, a chreu prototeip oedd yn gweithredu’n llawn.
Ar ôl dechrau’r busnes, cefais afael ar help gan amryw sefydliadau, fel NatWest, Business Wales a Big Idea Wales. Fodd bynnag, daeth cefnogaeth aruthrol o du’r Brifysgol, a chefais gyngor a chymorth arbenigol o ddarlithoedd amrywiol, a thiwtoriaid personol.
Mae tîm menter y Brifysgol wedi ein cefnogi o’r cychwyn cyntaf, ac yn parhau i wneud hyd heddiw. Maent wedi ein cefnogi a’n cynghori i’r un graddau ar gyfleoedd amrywiol sydd wedi adlewyrchu ar ein llwyddiant presennol.
Yn ystod fy amser ym Mhrifysgol Caerdydd, rwyf wedi dysgu, fel sefydliad sy’n cynnig llawer o gymorth a chyfleodd i’w fyfyrwyr. Cyn Virtus Tech, cefais ystod o wasanaethau gan y Brifysgol, ac adnoddau gwich i ddewis ohonynt. Mae Virtus Tech yn gwbl weithredol erbyn hyn, ac maen nhw wedi cynnig lle mewn swyddfa i mi, ac ystafelloedd i gynnal cyfarfodydd â chleientiaid.
Gall rhedeg busnes bach fod yn her, weithiau, ac mae hynny’n wir yn fy achos i. Mae methiant yn dal i fod yn anochel mewn ambell achos, fel y gwn o brofiad, ac weithiau, er mwyn symud ymlaen mae’n rhaid cymryd ychydig gamau yn ôl. Nid yw llwyddiant yn derfynol, ac nid yw methiant yn angeuol. Cyn belled â’ch bod yn dysgu o’r methiannau hynny, a bod gennych yr hyder barhau, bydd llwyddiant o’ch plaid.
Mae Virtus Tech yn gwmni busnes-i-fusnes sy’n defnyddio realiti rhithwir ac estynedig i alluogi cwsmeriaid a phrynwyr tŷ fynd o gwmpas tai ar werth, drwy gymysgu profiadau real a digidol â’i gilydd. Ei nod yw helpu manwerthwyr annibynnol a masnachfreiniol i gystadlu â siopau manwerthu ac ar-lein.
Cewch ddarllen erthygl newyddion ddiweddar am lwyddiant George yma.