Skip to main content

Adeiladau'r campwsPartneriaethauPobl

Campws Arloesedd Caerdydd – Ymgysylltu Addysgol gyda Bouygues UK

9 Ionawr 2019

Darn gan Ysgrifennwr Gwadd – Nick Toulson, Cynghorydd Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR), Bouygues UK

Rhyngweithio Addysgol yn ystod y Cyfnod Adeiladu

Fel gydag unrhyw brosiect adeiladu mawr, mae manteision i’r gymuned naill ai’n un o ofynion y cleient neu’n ddangosydd perfformiad allweddol bellach. Yn hynny o beth, nid yw Campws Arloesedd Caerdydd (CIC) yn eithriad. Mae rhyngweithio addysgol yn rhan allweddol o’r proffil o fanteision i’r gymuned ehangach.

 

Mae Bouygues UK a’i bartneriaid yn cynnal sesiynau a gweithgareddau drwy’r amser, yn ogystal â datblygu ffyrdd o newid delwedd ganfyddedig y diwydiant a hyrwyddo’r diwydiant fel llwybr gyrfa hyfyw ar gyfer pobl ifanc.

Mae ein darpariaeth addysgol yn canolbwyntio ar brofiad y myfyrwyr israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd, ond bydd hefyd yn cyrraedd Addysg Gynradd, Uwchradd a Phellach. Mae’n gysylltiedig yn uniongyrchol â’r gwaith o adeiladu’r campws newydd dros y ddwy flynedd nesaf.

SkillsCymru, Caerdydd, Hydref 2018

Aeth naw aelod o staff Bouygues UK, gan gynnwys ein hyfforddeion, ein graddedigion a’n rheolwyr, i’r Digwyddiad Gyrfaol deuddydd blynyddol ar gyfer ysgolion de Cymru. Canolbwyntiodd y trafodaethau â disgyblion a myfyrwyr ar yrfaoedd technegol o fewn y diwydiant, gan gynnwys Peirianneg Sifil, Rheoli Safleoedd, Arolygu Meintiau a Modelu Gwybodaeth Adeiladu (BIM).

Rhoddodd y gwaith adeiladu ar Gampws Arloesedd Caerdydd gyfle i arddangos modelau Realiti Estynedig, Modelu Gwybodaeth Adeiladu a Rhithrealiti er mwyn rhoi enghreifftiau a sbarduno sgyrsiau â disgyblion.

Daeth dros 7000+ o ddisgyblion i’r digwyddiad deuddydd, a rhoddodd staff o BYUK gyngor i dros 300 o ddisgyblion yn ystod yr amser hwnnw.

Israddedigion Peirianneg Sifil Prifysgol Caerdydd

Dros dri ymweliad gwahanol â’r safle, daeth 142 o israddedigion Peirianneg Sifil y Flwyddyn Gyntaf i safle adeiladu Campws Arloesedd Caerdydd er mwyn cael cipolwg ar y prosiect a’r cam stancio.

Roedd yn wych clywed yr adborth gan y myfyrwyr:

“Roedd y profiad yn un gadarnhaol. Dysgais i fod yn rhaid ystyried pwrpas adeiladau cyn dylunio’r sylfeini hyd yn oed.” – Jack Winkles

“Roedd y pwyntiau am yr agweddau mewnol yn ddiddorol iawn ac roedd yn wych deall yr heriau y mae peirianwyr yn eu hwynebu drwy’r amser, ynghyd â’r holl ffactorau y mae angen craffu arnynt cyn cymryd y cam cyntaf.” – Arthur Charpentier

“Ar y cyfan, roedd yn ddiddorol iawn ac rwy’n edrych ymlaen at ddychwelyd i safle’r prosiect yn nes ymlaen.” – Daniel Incorvaja

Caiff ymweliadau pellach eu trefnu dros y ddwy flynedd nesaf ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 1, fel y gallant ddilyn cynnydd y prosiect yn ystod y gwahanol gamau o’r gwaith adeiladu.

Mae ymweliadau ar gyfer Blynyddoedd 2, 3 a 4 yn cael eu hamserlennu er mwyn iddynt gael edrych ar y safle a’r camau o adeiladu’r fframwaith concrit wedi’i atgyfnerthu. Aelodau o staff safle Balfour Beatty a Bouygues UK gyflwynodd y sesiwn.

Mae Profiad Gwaith a Lleoliadau Hyfforddiant hefyd yn feysydd allweddol i’w datblygu. Mae’r rhaglenni cyntaf i fod i gychwyn ar ddechrau 2019.

Gosod cyd-destun yr adeiladu ar gyfer pobl ifanc

 Rhodd Wythnos Agorwch Eich Llygaid gan Addewid Caerdydd gyfle i Bouygues UK gyflwyno dwy sesiwn Uchelgeisiau Pobl Ifanc gyda disgyblion Blynyddoedd 5 a 6 yn Ysgol Gynradd St Joseph. Nod y sesiynau rhyngweithiol hyn yw cyflwyno cyd-destun y diwydiant adeiladu i’r disgyblion ac amlygu’r doreth o lwybrau gyrfa a’r amrywiaeth o swyddi sydd ar gael yn y diwydiant.

Cynhaliwyd sesiwn Uchelgeisiau Adeiladu Bouygues UK gyda chlwstwr o ddisgyblion Blynyddoedd 10 ac 11 yn Ysgol Uwchradd Cathays.  Bu hyn yn gyflwyniad cychwynnol i fyd adeiladu, a oedd yn cynnwys ochr dechnegol a digidol y diwydiant hefyd. Cafodd Modelu Gwybodaeth Adeiladu (BIM) a Realiti Estynedig eu defnyddio i dynnu sylw at ddatblygiadau newydd a rolau swyddi ym maes adeiladu.

Bydd ysgogi diddordeb mewn agweddau technegol a digidol ar y diwydiant, sy’n ymgymryd â Fframwaith Cymhwysedd Digidol, yn ffurfio rhan o’r set nesaf o ryngweithiadau gyda’r ysgol.

Mae’r diwydiant adeiladu wedi cydnabod mai ymgysylltu â grwpiau iau, drwy ryngweithio amrywiol, yn hytrach na digwyddiadau neu weithgareddau achlysurol, yw un o’r dulliau gorau o chwalu rhai o’r camdybiaethau cyffredin. Mae hefyd yn helpu pobl ifanc i ddeall y cyfleoedd y gall y diwydiant adeiladu modern eu rhoi iddynt.

At y dyfodol

Byddwn yn parhau i weithio gyda Phrifysgol Caerdydd a’n partneriaid i ymgysylltu â myfyrwyr a chymunedau, yn ogystal â chynnig cyfleoedd i weithio gyda phrosiect Campws Arloesedd Caerdydd a dysgu ganddo.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfleoedd sydd ar gael, neu os hoffech weithio gyda ni i gynnig cyfleoedd pellach, cysylltwch â nick.toulson@bouygues-uk.com.