Skip to main content

Adeiladau'r campwsPartneriaethauPobl

Sefydliad Catalysis Caerdydd: Deng Mlynedd o Wyddoniaeth ac Arloesedd

25 Ionawr 2019

Wrth i ni ddathlu degfed penblwydd Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI), mae’n addas myfyrio ar gampau’r Sefydliad a’i Gyfarwyddwr Sefydlol; yn ogystal â rôl allweddol gwyddoniaeth a thechnoleg gatalytig yn y DU ac yn economi a chymdeithas y byd cyfan.

Mae catalysis yn faes creiddiol o fewn cemeg a pheirianneg gemegol gyfoes. Mae’n sail i sectorau mawr y diwydiant gweithgynhyrchu, gan gynnwys y sector fferyllol. Ar ben hynny, bydd arloesedd ym maes gwyddoniaeth gatalytig yn hanfodol wrth fynd i’r afael â heriau byd-eang difrifol, gan gynnwys ynni adnewyddadwy ac awyr a dŵr glân. Yn wir, ni chaiff rhai o Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig eu gwireddu heb ddatblygiadau pellach mewn technoleg gatalytig.

Sefydlwyd CCI er mwyn ymateb i’r heriau gwyddonol a thechnolegol sy’n wynebu’r maes gwyddoniaeth a thechnoleg gatalytig. Canolfan â’i gwreiddiau mewn gwyddoniaeth o’r radd flaenaf fyddai’n arwain at dechnoleg newydd a phwysig oedd gweledigaeth ei Gyfarwyddwr Sefydlol, Graham Hutchings. Aeth Graham ati i wireddu’r weledigaeth â’i egni a’i ddygnwch nodweddiadol. Cafodd gefnogaeth gref gan y Brifysgol a’i gydweithwyr yn yr Ysgol Cemeg. Yn sgîl yr ymdrechion hyn, mae canolfan wedi’i chreu sydd ar flaen y gad ar lefel fyd-eang ac sydd yr un mor gynhyrchiol ag y mae’n arloesol. Mae’r Ganolfan wedi denu talent o bedwar ban y byd ac wedi esgor ar lawer o fentrau eraill. Er enghraifft, roedd ganddi rôl arweiniol wrth sefydlu Canolfan Catalysis y DU, sydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Dyma rwydwaith cenedlaethol o wyddonwyr catalytig sy’n cwmpasu dros ddeugain o brifysgolion bellach. Dyma enghraifft wych o sut gall gwyddoniaeth y DU arwain y byd, gyda’r weledigaeth addas a thrwy sianelu adnoddau ac ymdrechion.

Gallwn restru llawer o enghreifftiau o lwyddiannau gwyddonol y Ganolfan, ond mae’r un a roddaf yn olrhain diddordeb hirhoedlog Graham mewn defnyddio aur mewn prosesau catalytig. Mae’n ymwneud â hydroclorineiddio asetylen er mwyn cynhyrchu finyl clorid. Heb os, gallai hyn swnio fel darn digon diflas o gemeg, ond mae’n broses bwysig oherwydd defnyddir finyl clorid er mwyn creu PVC, sy’n ddeunydd pwysig a chyffredin yn ein bywydau beunyddiol. Dro byd yn ôl, arloesodd Graham gatalydd sy’n seiliedig ar aur ar gyfer y broses bwysig hon. Cefais y fraint o fod ymhlith awduron papur a arweiniwyd gan Graham a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn Science. Eglurodd y papur hwn sut mae’r catalydd yn gweithio ar lefel foleciwlaidd. Efallai’n bwysicach fyth, mae’r catalydd hwn bellach yn cael ei ddefnyddio yn Tsieina er mwyn disodli systemau sy’n seiliedig ar fercwri. Mae’r systemau hyn yn niweidiol i’r amgylchedd, felly bydd y datblygiad hwn yn gwella’r economi a bywydau pobl.

Mae Graham yn rhoi’r gorau i’w rôl gyda’r Gyfarwyddiaeth ond gall edrych yn ôl dros ddeng mlynedd o lwyddiannau a gorchestion. Cadeirio Cynhadledd Catalysis Caerdydd oedd ei weithred olaf fel Cyfarwyddwr. Roedd y digwyddiad yn cynnwys darlithoedd ardderchog gan siaradwyr lleol ac o dramor ac mae’r fath lwyddiant yn deyrnged addas i’w weledigaeth a’i arweinyddiaeth. Rwy’n falch o ddatgan mai Duncan Wass fydd ei olynydd, a bydd yn adeiladu ar lwyddiant y Ganolfan gan gyflwyno themâu a chyfeiriadau cyffrous newydd. Hoffwn gloi gyda theyrnged bersonol i Graham. Rwyf wedi ei nabod ers deugain mlynedd ac wedi gweithio gydag ef ers deng mlynedd ar hugain. Mae gweithio gyda Graham bob amser yn gyffrous, yn hwyl ac yn gynhyrchiol dros ben. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at lawer o flynyddoedd o arloesedd a llwyddiannau creadigol i ddod.

Richard Catlow

Athro Cemeg Catalytig a Chyfrifiadurol

Sefydliad Catalysis Caerdydd