EVAassay: Biopsi hylif i drawsnewid diagnosis canser y prostad
7 Mawrth 2026
Yn rhan o Fis Ymwybyddiaeth Canser y Prostad yn y DU, rydyn ni’n rhannu’r prosiect hwn wedi’i ariannu gan MRC IAA, sy’n archwilio i EVAssay, dull diagnostig seiliedig ar waed i gefnogi canfod canser y prostad yn fwy cywir, heb fod yn ymwthiol.
Dan arweiniad yr Athro Aled Clayton gyda chefnogaeth Dr Isobella Honeyborne, roedd y prosiect yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â rhwystrau technegol i helpu i symud ymchwil labordy addawol yn agosach at ddefnydd clinigol.
Wedi’i ariannu gan y Cyngor Ymchwil Feddygol, drwy Ymchwil ac Arloesi y DU, ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae diagnosis canser y prostad yn aml yn dibynnu ar fiopsi ymwthiol a all fod yn gostus ac yn anghyfforddus i gleifion, ac mae’n peri risg o haint mewn tua 10% o achosion. Roedd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu EVAssay, dull diagnostig seiliedig ar waed, wedi’i gynllunio i gefnogi canfyddiad mwy cywir, heb fod yn ymwthiol. Nod y gwaith oedd symud ymchwil labordy addawol yn agosach at ddefnydd clinigol yn y byd go iawn.
Aeth ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd i’r afael â rhwystrau technegol allweddol sy’n cyfyngu ar ddiagnosis canser yn seiliedig ar waed, gan ddatblygu dulliau newydd i wella dibynadwyedd, y gallu i ehangu, a pharodrwydd ar gyfer labordai clinigol.
Gan ddefnyddio samplau cleifion o Fanc Bio Canser Cymru, ailddyluniodd y tîm y prawf i gefnogi awtomeiddio a darganfyddiadau yn y dyfodol, gan gryfhau llwybrau tuag at ddefnydd clinigol.
Roedd cyllid IAA wedi galluogi datblygiad cam cynnar, risg uchel, nad yw cyllid ymchwil safonol yn aml yn ei gefnogi, gan ganiatáu i’r tîm brofi a mireinio dull diagnostig addawol.
Cynhyrchiwyd tystiolaeth hanfodol ar gyfer buddsoddiad dilynol, gan ategu’n uniongyrchol y Gymrodoriaeth Uwch gwerth £600 gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a ddyfarnwyd i Isobella Honeyborne. Mae’r cyllid wedi rhoi’r dechnoleg mewn sefyllfa iddi allu cael ei dilysu ar raddfa fwy, i ddarparu tystiolaeth gadarn o sut gallai fod yn ddefnyddiol, o bosibl, ochr yn ochr ag arfer safonol cyfredol, gan obeithio cynorthwyo penderfyniadau ynglŷn â’r angen am fiopsi.
- AHRC
- BBSRC
- Cydweithredu rhwng sefydliadau
- EPSRC
- ESRC
- MRC
- Ymgysylltu â'r Cyhoedd
- Yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio
- Yr Ysgol Deintyddiaeth
- Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd
- Yr Ysgol Meddygaeth
- Yr Ysgol Peirianneg
- Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth
- Yr Ysgol Seicoleg
- Ysgol Busnes Caerdydd
- Ysgol Pensaernïaeth Cymru
- Ysgol y Biowyddorau
- Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
- Ehangu Effaith ACT-PNMH: Ymyriadau Seicolegol ar gyfer Iechyd Meddwl Perinatal
- Gwneud parciau cymdogaeth yn gynhwysol i ferched yn eu harddegau a menywod ifanc yng Nghaerdydd
- COLIF: Cyflawni effaith trwy gydweithio rhwng sefydliadau
- Hybu ymddygiad cynaliadwy gan gefnogwyr mewn Chwaraeon: Cyd-greu Tystiolaeth ac Effaith
- Sut gall Cymru sicrhau mwy o fudd cyhoeddus o ddatblygiadau?