Cefnogi Lles Plant yn yr Ysbyty drwy Chwarae Doniol
12 Chwefror 2026
I nodi WythnosIechydMeddwlPlant, roedd y prosiect hwn gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ym Mhrifysgol Caerdydd (wedi’i ariannu gyda chyllid IAA) yn archwilio sut gall hiwmor a rhyngweithiadau chwareus bob dydd gefnogi lles meddyliol plant mewn ysbytai.
Gan weithio gyda phartneriaid gan gynnwys Chwarae Cymru a Sefydliad Plant Starlight yn Ysbyty Plant Arch Noa, roedd yr ymchwil yn canolbwyntio ar lais plant ac yn tynnu sylw at werth chwarae wrth feithrin ymddiriedaeth a diogelwch emosiynol ym maes gofal iechyd.

Yn aml, bydd plant mewn ysbyty yn ofnus, yn teimlo’n unig ac yn ansicr. Rydym yn gwybod bod chwarae, hiwmor a chyfathrebu chwareus yn cefnogi lles plant, ond serch hynny ychydig o adnoddau a ddyrennir iddynt mewn lleoliadau gofal iechyd. Ymchwiliodd y prosiect hwn i’r ffordd y mae rhyngweithio chwareus beunyddiol yn helpu plant i deimlo’n fwy llonydd, yn fwy cysylltiedig â’r byd ac yn fwy dynol. Dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, defnyddiodd y prosiect ymchwil gyfranogol gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd i ddeall yr hyn mae cyfathrebu chwareus yn ei olygu iddyn nhw yn yr ysbyty.Gan weithio gyda’r partneriaid Chwarae Cymru a Starlight, ymchwiliwyd i leisiau plant er mwyn ystyried sut mae hiwmor a rhyngweithio beunyddiol yn llunio lles ac ymddiriedaeth.
Oherwydd cyllid IAA roedd modd cynnal ymchwil hyblyg a chyfranogol gyda phlant mewn ysbytai a chafwyd gwaith partneriaeth rhwng y byd academaidd a’r trydydd sector. Roedd yr hyblygrwydd hwn yn caniatáu i’r prosiect ymateb i dystiolaeth ac arbenigedd y partner, gan flaenoriaethu dysgu a hyfforddiant dros adnoddau corfforol. Sefydlodd y prosiect sylfaen gref hefyd i greu effaith yn y dyfodol, ymwybyddiaeth ehangach yn ogystal â chyllid dilynol.
- AHRC
- BBSRC
- Cydweithredu rhwng sefydliadau
- EPSRC
- ESRC
- MRC
- Ymgysylltu â'r Cyhoedd
- Yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio
- Yr Ysgol Deintyddiaeth
- Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd
- Yr Ysgol Meddygaeth
- Yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant
- Yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg
- Yr Ysgol Peirianneg
- Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth
- Yr Ysgol Seicoleg
- Ysgol Busnes Caerdydd
- Ysgol Pensaernïaeth Cymru
- Ysgol y Biowyddorau
- Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
- Cydnabyddiaeth i Eight Voices in Darkness am rannu profiadau byw o golli golwg ac iechyd meddwl.
- Sut gall gwaith ymchwil ddod yn fwy cynhwysol i bobl sy’n cael anhawster rhoi cydsyniad ar sail gwybodaeth?
- Sut gall meddalwedd delweddu meddygol a ddatblygwyd yng Nghaerdydd gyrraedd mwy o ymchwilwyr, clinigwyr ac arloeswyr ym maes gofal iechyd?
- Beth sydd ei angen i wneud economïau ail-law yn fwy cynaliadwy, hygyrch a chysylltiedig yn gymdeithasol?
- Beth sy’n digwydd pan na all manwerthwyr ymddiried yn eu cofnodion stoc?