Diagnosis llai ymwthiol a marcwyr prognostig yn achos tiwmorau mastgelloedd mewn anifeiliaid anwes
18 Ebrill 2026
Yn ystod Mis Cenedlaethol yr Anifeiliaid Anwes, rydyn ni’n edrych ar sut mae ymchwil Prifysgol Caerdydd yn ein helpu i ofalu am ein hanifeiliaid anwes a’u trin.
Mae cyllid effaith gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol, a reolir gan Brifysgol Caerdydd, wedi arwain at ddulliau newydd o ganfod a monitro tiwmorau mastgelloedd.
Dan arweiniad yr Athro Matt Smalley, mae’r gwaith hwn yn datblygu dulliau lleiaf ymledol i gefnogi diagnosis cynharach a chanlyniadau gwell i anifeiliaid anwes.
Mae tiwmorau mastgelloedd yn ganser cyffredin ymhlith anifeiliaid anwes, yn enwedig cŵn, ond gall fod yn anodd penderfynu pa driniaeth i’w defnyddio.
Mae’r ymchwil hon yn canolbwyntio ar ddatblygu dulliau newydd er mwyn deall y tiwmorau hyn, a’r nod o gefnogi diagnosis cynharach, profi mewn modd llai ymwthiol, monitro yn well a gwella gofal i anifeiliaid anwes.

Datblygodd ymchwilwyr ddull moleciwlaidd llai ymwthiol i er mwyn canfod newidiadau penodol i diwmorau mewn cŵn gan ddefnyddio gwahanol fathau o samplau, gan gynnwys samplau gwaed, gan leihau’r angen am fiopsïau ymwthiol.
Dangosodd yr astudiaeth gywirdeb uchel wrth ganfod mwtaniadau oedd yn gysylltiedig â thiwmorau mewn sawl math o sampl, gan gynnig hyblygrwydd wrth brofi er mwyn dewis y driniaeth orau ar gyfer y tiwmor.

Galluogodd cyllid yr IAA ddatblygiad dulliau diagnostig newydd a chefnogi cydweithio â phartneriaid gan gynnwys Finn Pathologists a chyflenwyr yn y diwydiant.
Mae’r gwaith hwn wedi cynhyrchu’r data sydd ei angen i symud ymlaen tuag at ddefnydd clinigol a masnacheiddio,sy’n golygu bod yr ymchwil mewn sefyllfa i dderbyn cyllid dilynol, cyfleoedd trwyddedu a chael ei defnyddio yn y dyfodol mewn practis milfeddygol.
- AHRC
- BBSRC
- Cydweithredu rhwng sefydliadau
- EPSRC
- ESRC
- MRC
- Ymgysylltu â'r Cyhoedd
- Yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio
- Yr Ysgol Deintyddiaeth
- Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd
- Yr Ysgol Meddygaeth
- Yr Ysgol Peirianneg
- Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth
- Yr Ysgol Seicoleg
- Ysgol Busnes Caerdydd
- Ysgol Pensaernïaeth Cymru
- Ysgol y Biowyddorau
- Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
- Gwneud parciau cymdogaeth yn gynhwysol i ferched yn eu harddegau a menywod ifanc yng Nghaerdydd
- COLIF: Cyflawni effaith trwy gydweithio rhwng sefydliadau
- Hybu ymddygiad cynaliadwy gan gefnogwyr mewn Chwaraeon: Cyd-greu Tystiolaeth ac Effaith
- Sut gall Cymru sicrhau mwy o fudd cyhoeddus o ddatblygiadau?
- Meithrin empathi tuag at anifeiliaid mewn perygl drwy weithdai ysgrifennu creadigol a darlunio