Skip to main content

AHRC, Ymgysylltu â'r Cyhoedd, Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd

Darganfod Hanes Lleol: Cyflwyno Hanes Cymru yn y Cwricwlwm Newydd i Gymru

18 Mai 2026
A photo looking down on primary school children working

Mae cyllid traweffaith gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, a reolir gan Brifysgol Caerdydd, wedi galluogi’r prosiect hwn dan arweiniad Dr Stephanie Ward a’r Athro Lloyd Bowen, sy’n gweithio gydag athrawon ysgolion cynradd a disgyblion yn Ysgol Bro Sannan. Gyda’i gilydd, fe wnaethon nhw gyd-gynhyrchu pecyn cymorth ymarferol i helpu i fagu hyder wrth addysgu hanes lleol, a chryfhau cysylltiad disgyblion â’u cymuned.

O dan y Cwricwlwm newydd i Gymru, disgwylir i athrawon cynradd ac uwchradd ymgorffori hanes Cymru ar draws cynlluniau gwaith, ond does gan lawer mo’r adnoddau na’r hyder i wneud hynny. Daeth y prosiect â haneswyr, athrawon a disgyblion ynghyd i ddeall yr heriau hyn yn well, a chefnogi’r broses o gyflwyno hanes lleol trwy becyn cymorth wedi’i gynhyrchu ar y cyd.

Yn y Cwricwlwm i Gymru, disgwylir i athrawon cynradd ymgorffori hanes Cymru ar draws cynlluniau gwaith, ond does gan lawer mo’r adnoddau na’r hyder i wneud hynny.

Daeth y prosiect hwn â haneswyr, athrawon cynradd a disgyblion ynghyd i ddeall yr heriau hyn yn well, a chefnogi’r broses o gyflwyno hanes lleol trwy becyn cymorth wedi’i gynhyrchu ar y cyd, gan ddangos sut gall ymchwil ein cefnogi i roi diwygiadau mawr i’r cwricwlwm ar waith.

 

Drwy gyllid yr IAA, galluogwyd ymgysylltu uniongyrchol ag ysgolion cynradd, a chefnogwyd proses cyd-gynhyrchu a oedd yn cynnwys athrawon a disgyblion. Arweiniodd hyn at ddatblygu pecyn cymorth ymarferol sydd eisoes wedi dylanwadu ar arferion addysgu ac wedi gwella hyder, gan roi’r prosiect mewn sefyllfa dda i gael cyllid dilynol i’w ehangu ledled Cymru a’i ehangu i addysg uwchradd.