Skip to main content

Cydweithredu rhwng sefydliadauESRC

COLIF: Cyflawni effaith trwy gydweithio rhwng sefydliadau

3 Awst 2026

Sut gall prifysgolion gyfrannu mewn ffordd sy’n ystyrlon i’w cymunedau? Sut gall ymchwilwyr aros yn driw i’r hyn sydd ei angen ar bobl? A sut gall partneriaid dinesig wneud y gorau o’r arbenigedd o’u cwmpas?

 

Ym mis Mawrth 2024, yn rhan o gynllun peilot Creu Cyfleoedd drwy Gymrodoriaethau Arloesi Lleol (COLIF), dyfarnodd y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol UKRI (ESRC) £854,193 i bum clwstwr rhanbarthol o sefydliadau ymchwil i weithio gyda byd diwydiant a llunwyr polisïau i greu cyfleoedd lleol a lleihau anghydraddoldebau rhanbarthol.

 

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae’r cynllun peilot COLIF wedi llwyddo i gynnig atebion sy’n seiliedig ar le, cryfhau partneriaethau rhwng sefydliadau a sectorau, ac wedi dangos gwerth parhau â’r dull cydweithredol hwn at y dyfodol.

Mae’r blog hwn yn canolbwyntio ar Glwstwr 5, sy’n cynnwys prifysgolion Caerfaddon, Bryste, Caerdydd, Caerwysg, Rhydychen, Southampton ac Abertawe, a ddaeth â dau dîm prosiect at ei gilydd i ystyried ffyrdd o wella gwelededd a mynediad at sgiliau a swyddi gwyrdd yn rhanbarth Hampshire a Solent, yn ogystal â’r modd y gall partneriaid yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol weithio gyda’i gilydd i gyd-greu cyfleoedd cyflogaeth cynhwysol yn Swydd Rydychen a thu hwnt.

 

Beth gafodd ei wneud i helpu

 

Dechreuodd pob prosiect gyda phartner dinesig yn nodi’r cwestiynau ymchwil allweddol, gyda chefnogaeth tîm o academyddion rhyngddisgyblaethol a chydweithwyr yn y gwasanaethau proffesiynol o bob rhan o Ganolbarth De Lloegr, De-orllewin Lloegr a Chymru.

 

Ffurfiodd tîm cyntaf y prosiect bartneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol y Goedwig Newydd i ymchwilio pa newidiadau sy’n angenrheidiol i gefnogi’r sector cyflogaeth gwyrdd. Cynhaliodd y tîm adolygiad o lenyddiaeth ar bolisïau sgiliau gwyrdd cenedlaethol a rhanbarthol ledled y DU. Cynhaliodd gyfres o gyfweliadau lled-strwythuredig gyda chynghorwyr gyrfaoedd a gweithwyr proffesiynol oedd â diddordeb mewn sgiliau a swyddi gwyrdd, a hwyluso gweithdai rhwng rhanddeiliaid lle trafododd y cyfranogwyr ddiffiniadau o sgiliau gwyrdd a’r rhwystrau i ddatblygu sgiliau. Daeth eu gwaith yn sail i Adroddiad Newydd sy’n nodi argymhellion sydd wedi’u trefnu o amgylch pedair thema allweddol i wella’r modd y mae sgiliau gwyrdd yn cael eu cynnwys mewn addysg, ym myd diwydiant, a sefydliadau cyhoeddus a’r trydydd sector.

 

 

 

Gweithiodd ail dîm y prosiect gyda Phartneriaeth Economi Gynhwysol Swydd Rydychen i gael golwg ar yr hyn sy’n gweithio’n dda a beth y gellir ei wella mewn perthynas â chyfleoedd swyddi cynhwysol. Cynhaliodd y tîm adolygiad o 50 o astudiaethau academaidd ac adroddiadau polisi. Cynhaliodd 13 o gyfweliadau â rhanddeiliaid allweddol ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, ac ymgynghorodd â chyfranogwyr oedd yn ymwneud â 17 o ddigwyddiadau a chyfarfodydd ar gyflogaeth gynhwysol yn Swydd Rydychen. Arweiniodd hyn at greu adroddiad newydd sy’n nodi chwe egwyddor ar gyfer cynnwys cynhwysiant yn ystyriaeth barhaus i’r holl randdeiliaid o fewn economi leol.

 

Yr her

 

Gan fod COLIF yn ffordd newydd o weithio rhwng prifysgolion, byd diwydiant a llunwyr polisïau, mae sefydlu cytundebau cydweithredu traws-sefydliadol yn gohirio amseroedd dechrau prosiectau. Gwaethygwyd yr her hon ymhellach gan systemau ariannol a gweinyddol gwahanol ar draws sefydliadau, gan arafu’r gwaith o gyflwyno’r prosiect yn y camau cynnar.

 

 

Beth mae cynllun peilot COLIF yn ei ddangos am gydweithredu Dinesig-Academaidd

 

Yn yr un modd, roedd gwasgariad daearyddol aelodau’r clwstwr yn codi cwestiynau ynghylch sut y dylid diffinio ‘lleol’ yn ymarferol, yn ogystal â’r ffordd orau o ddewis prosiectau a fyddai’n sicrhau bod pob un o’r saith sefydliad yn elwa o’r gwaith.

 

Y canlyniad

 

Er gwaethaf yr heriau hyn, roedd hyblygrwydd model COLIF, gyda phob un o’r pum clwstwr yn ei roi ar waith mewn ffyrdd gwahanol, gan alluogi cyflawni prosiectau newydd ac amrywiol. Roedd hyn yn ei dro yn cefnogi mwy o gyfnewid gwybodaeth ar draws y rhanbarth a chryfhau perthnasoedd rhwng prifysgolion, partneriaid prosiect a llunwyr polisïau.

 

Drwy droi’r model ymchwil arferol a rhoi anghenion partneriaid dinesig yn gyntaf, ymgysylltodd y prosiectau ymgysylltiad ag ystod o randdeiliaid a chyflawnodd ganlyniadau sy’n seiliedig ar le gydag a chael effaith ddangosadwy. Diolch i lwyddiant y dull hwn, dangoswyd awydd i barhau i gydweithio y tu hwnt i’r cyfnod peilot.

 

Yn ôl Aileen Marshall-Brown, Pennaeth Ymgysylltu ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Rhydychen, “Mae wedi bod yn wych gweld y bartneriaeth hon rhwng prifysgolion yn ymdrin â chyflogaeth gynhwysol, sy’n flaenoriaeth allweddol i’n rhanbarth. Mae’n tynnu sylw unwaith eto ei fod yn bwysig i ymchwilwyr, llunwyr polisïau a sefydliadau gwirfoddol a chymunedol lleol ddod at ei gilydd i ddeall a mynd i’r afael â heriau polisi lleol.”

 

Rhagor o wybodaeth:

 

Ysgrifennwyd gan George Thomas, Prifysgol Bryste, Uwch Swyddog Ymgysylltu ac Effaith (Ymchwil) ar gyfer COLIF.