Gwneud parciau cymdogaeth yn gynhwysol i ferched yn eu harddegau a menywod ifanc yng Nghaerdydd
11 Awst 2026
Wrth i fisoedd yr haf ddenu mwy ohonon ni i’r awyr agored, mae parciau a lleoedd cyhoeddus yn mynd yn gynyddol bwysig o ran cwrdd, ymarfer corff a threulio amser gyda ffrindiau a theulu. Ond i bwy y cafodd y lleoedd hyn eu creu, a phwy sy’n teimlo bod croeso iddyn nhw eu defnyddio?
Mae ein blog diweddaraf ar gyllid traweffaith yn edrych ar waith Dr Sina Shahab yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru Prifysgol Caerdydd gyda merched yn eu harddegau a menywod ifanc i ddeall eu profiadau o barciau cymdogaethol ac i helpu i lunio lleoedd cyhoeddus mwy cynhwysol ledled y ddinas. Roedd hyn yn bosibl diolch i Gyfrif Sbarduno Effaith (IAA) Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Prifysgol Caerdydd, a gyllidodd y prosiect hefyd.

Mae parciau cymdogaethol yn chwarae rhan bwysig yn iechyd, lles a bywyd y gymuned, ond yn aml bydd anghenion merched yn eu harddegau a menywod ifanc yn cael eu hanwybyddu.
Ymchwiliodd y prosiect hwn i brofiad menywod ifanc o barciau cyhoeddus a’r ffordd y gall dulliau cyd-ddylunio helpu i greu lleoedd cyhoeddus sy’n fwy cynhwysol, yn fwy croesawgar ac yn fwy ystyrlon.Buodd yr ymchwilwyr yn gweithio gyda merched yn eu harddegau a menywod ifanc ledled Caerdydd drwy gynnal arolwg ledled y ddinas, arsylwadau mewn parciau ac wyth gweithdy cyd-ddylunio mewn pedair ysgol uwchradd.
Ymgysylltodd y prosiect â 368 o ymatebwyr i’r arolwg a 58 o gyfranogwyr yn y gweithdai, gan greu tystiolaeth werthfawr ar brofiadau o ddiogelwch, symudedd a defnydd o barciau, ochr yn ochr â phum cynnig ailddylunio parciau cymdogaethol.
Gwnaeth 60 o randdeiliaid eraill o feysydd polisi ac ymarfer a’r byd academaidd gymryd rhan yn symposiwm olaf y prosiect, gan ddangos diddordeb cryf yn y mater hwn a gwerth creu lleoedd ar gyfer y sgyrsiau hyn.

Gwnaeth cyllid y Cyfrif alluogi ymchwilwyr i dwyn pobl ifanc, llunwyr polisïau ac ymarferwyr ynghyd i ystyried dyfodol lleoedd cyhoeddus.
Mae’r prosiect wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cynnwys merched yn eu harddegau a menywod ifanc mewn sgyrsiau ynghylch dylunio a defnyddio lleoedd cyhoeddus.
Mae hefyd wedi cryfhau partneriaethau ac wedi creu cyfleoedd ar gyfer ymchwil, ymgysylltu a thrafodaethau polisi parhaus yng Nghaerdydd a thu hwnt iddi.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Dr Sina Shahab ([email protected]).
- AHRC
- BBSRC
- Cydweithredu rhwng sefydliadau
- EPSRC
- ESRC
- MRC
- Ymgysylltu â'r Cyhoedd
- Yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio
- Yr Ysgol Deintyddiaeth
- Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd
- Yr Ysgol Meddygaeth
- Yr Ysgol Peirianneg
- Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth
- Yr Ysgol Seicoleg
- Ysgol Busnes Caerdydd
- Ysgol Pensaernïaeth Cymru
- Ysgol y Biowyddorau
- Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
- Gwneud parciau cymdogaeth yn gynhwysol i ferched yn eu harddegau a menywod ifanc yng Nghaerdydd
- COLIF: Cyflawni effaith trwy gydweithio rhwng sefydliadau
- Hybu ymddygiad cynaliadwy gan gefnogwyr mewn Chwaraeon: Cyd-greu Tystiolaeth ac Effaith
- Sut gall Cymru sicrhau mwy o fudd cyhoeddus o ddatblygiadau?
- Meithrin empathi tuag at anifeiliaid mewn perygl drwy weithdai ysgrifennu creadigol a darlunio