Ymgysylltu â’r Gymuned mewn Cynlluniau Datblygu Lleol
18 Ionawr 2026
Mae Cynlluniau Datblygu Lleol yn helpu i lunio dyfodol ein cymdogaethau, gan ddylanwadu ar benderfyniadau ynglŷn â thai, trafnidiaeth, mannau gwyrdd a chyfleusterau cymunedol. Er bod croeso i gymunedau gymryd rhan, mae gwneud prosesau cynllunio’n hygyrch ac yn ystyrlon ar gyfer ystod eang o bobl yn parhau i fod yn her sylweddol.
Wedi’u cefnogi gan Gyfrif Cyflymu Effaith (IAA) Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Prifysgol Caerdydd, gweithiodd yr Athro Mhairi McVicar, sy’n athro yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, gyda Chyngor Caerdydd a phartneriaid cymunedol i fwrw golwg ar ddulliau newydd o ymgysylltu â’r gymuned mewn ymgynghoriadau ar y Cynllun Datblygu Lleol.
Drwy dwyn ymchwilwyr, llunwyr polisïau a sefydliadau lleol dibynadwy ynghyd, ceisiodd y prosiect gryfhau cyfranogiad yn y broses gynllunio a sicrhau y gallai ystod ehangach o leisiau helpu i ddylanwadu ar ddyfodol cymdogaethau Caerdydd.



Mae’r prosiect hwn yn dangos y ffordd y gall ymchwil helpu i wneud prosesau cynllunio’n fwy cynhwysol drwy gryfhau gwaith ar y cyd rhwng cymunedau, awdurdodau lleol ac ymchwilwyr. Mae’r partneriaethau a’r dulliau a ddatblygwyd drwy’r prosiect yn parhau i gefnogi sgyrsiau am y ffordd y gall ystod ehangach o leisiau gael eu cynrychioli mewn gwaith cynllunio a chreu lleoedd.

- AHRC
- BBSRC
- Cydweithredu rhwng sefydliadau
- EPSRC
- ESRC
- MRC
- Ymgysylltu â'r Cyhoedd
- Yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio
- Yr Ysgol Deintyddiaeth
- Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd
- Yr Ysgol Meddygaeth
- Yr Ysgol Peirianneg
- Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth
- Yr Ysgol Seicoleg
- Ysgol Busnes Caerdydd
- Ysgol Pensaernïaeth Cymru
- Ysgol y Biowyddorau
- Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
- Gwneud parciau cymdogaeth yn gynhwysol i ferched yn eu harddegau a menywod ifanc yng Nghaerdydd
- COLIF: Cyflawni effaith trwy gydweithio rhwng sefydliadau
- Hybu ymddygiad cynaliadwy gan gefnogwyr mewn Chwaraeon: Cyd-greu Tystiolaeth ac Effaith
- Sut gall Cymru sicrhau mwy o fudd cyhoeddus o ddatblygiadau?
- Meithrin empathi tuag at anifeiliaid mewn perygl drwy weithdai ysgrifennu creadigol a darlunio