Skip to main content

MRC, Yr Ysgol Seicoleg

Cyd-ddatblygu pecyn cymorth diagnostig a digidol i olrhain symptomau endometriosis

18 Mawrth 2026

Yn ystod Mis Ymwybyddiaeth o Endometriosis, rydyn ni’n tynnu sylw at y prosiect hwn a ariannwyd gan MRC IAA sy’n datblygu system olrhain ac adrodd symptomau digidol i helpu pobl i gofnodi symptomau a chyfathrebu’n fwy effeithiol â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Dan arweiniad Dr Robyn Jackowich, mewn cydweithrediad â mudiad Triniaeth Deg i Fenywod Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Cyd-ddatblygodd ymchwilwyr y system gyda chleifion, clinigwyr a dylunwyr i sicrhau ei fod yn hygyrch ac yn ymarferol mewn lleoliadau gofal iechyd go iawn. Gan weithio gyda mudiad Triniaeth Deg i Fenywod Cymru, cynhyrchodd y tîm ganllawiau ac animeiddiadau dwyieithog yn esbonio sut mae’r system yn gweithio a’u ddosbarthu drwy adnoddau a rhwydweithiau clinigol GIG Cymru. Fe wnaethon ni hefyd gydweithio ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i gyd-gynhyrchu gweminar i feddygon teulu ar endometriosis, a’r pecyn cymorth.

Cefnogodd cyllid yr IAA ddatblygiad system olrhain ac adrodd symptomau digidol i helpu pobl i gofnodi symptomau endometriosis posibl a’u cyfleu’n glir i weithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Drwy gefnogi trafod ac adnabod symptomau yn gynharach, mae’r system yn anelu at wella llwybrau at ddiagnosis a gofal.

Gwnaeth cyllid yr IAA olygu bod modd cyd-gynhyrchu gyda grwpiau cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan sicrhau bod y system yn ymateb i anghenion defnyddwyr go iawn. Cefnogodd hyn greu adnoddau dwyieithog hygyrch ac ymgysylltu â phartneriaid y GIG, gan helpu i integreiddio’r system i lwybrau clinigol ac ehangu ei chyrhaeddiad ledled Cymru.

Mae’r prosiect hefyd wedi arwain at brosiectau a chyllid pellach, gan gynnwys grant gan Lywodraeth Cymru i ddiweddaru gwefan Endometriosis Cymru a PhD a ariennir sy’n archwilio sut y gall olrhain symptomau gefnogi hunanreolaeth a chyfathrebu ym maes gofal iechyd.