Uwchgyfeirio ac Ymyrraeth
27 Ebrill 2022Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn bod angen adolygu’r fframwaith presennol ar gyfer nodi a datrys problemau mawr gwasanaethau GIG Cymru. Yn y darn hwn, mae Tracey Rosell yn ystyried problemau sydd wedi’u cydnabod.
Mae’r darn yn ei gyfanrwydd ar wefan Ymchwil y Senedd.
Mae Trefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd GIG Cymru ar y cyd (y Trefniadau) ar waith ers 2014. O ganlyniad, mae gofyn i Lywodraeth Cymru, Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru rannu gwybodaeth a thrafod sefyllfa gyffredinol pob bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd. Bydd Prif Gyfarwyddwr GIG Cymru yn rhoi argymhellion wedyn i’r Gweinidog dros Iechyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch lefelau uwchgyfeirio amryw fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd.
Nodau’r Trefniadau yw helpu GIG Cymru i wneud y canlynol:
- mynd i’r afael â phryderon ynghylch darparu gwasanaethau, ansawdd a diogelwch gofal ac effeithiolrwydd sefydliadol;
- gofalu bod materion a allai fod yn ddifrifol yn cael eu nodi cyn gynted ag y bo modd a’u trafod yn effeithiol;
- gwella gwasanaethau yn ôl y gofyn fel y gall y corff o dan sylw ailgydio yn ei drefniadau arferol cyn gynted ag y bo modd.
Pryd mae angen y Trefniadau?
Mae pedair lefel o uwchgyfeirio ynglŷn â sefydliadau GIG Cymru: trefniadau arferol (gweithredu fel sy’n arferol), monitro gwell, ymyrraeth benodol a chamau arbennig. Mae’r olaf yn ymwneud â’r diffygion mwyaf difrifol. Fel arfer, bydd uwchgyfeirio pan fo tystiolaeth bod pryderon ac nad yw’r bwrdd iechyd yn dangos digon o wella na digon o frys. Ar y llaw arall, gall fod modd symud byrddau iechyd i lefel is o uwchgyfeirio pan fo tystiolaeth o wella.
Ydy’r Trefniadau’n addas i’w diben?
Does dim cynllun manwl yn y Trefniadau o ran cymorth – gall gynnwys cwestiynu, monitro, adolygu, mentora a/neu wahodd arbenigwyr. O gymryd camau arbennig, bydd modd camu i mewn yn uniongyrchol ac atal pwerau a dyletswyddau, hyd yn oed. Dim ond ar ôl i bopeth arall fethu y daw hynny.
Gallai fod cymorth ariannol. Er enghraifft, mae £297 miliwn ychwanegol ar gael i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr hyd ddiwedd 2023/24. O achos y goblygiadau ariannol, bydd y pwnc gerbron Pwyllgor Cyfrifon a Gweinyddu Cyhoeddus y Senedd. Dechreuodd ymchwiliad i’r Trefniadau fis Mawrth 2022 i weld a ydyn nhw’n addas i’w diben ac wedi cyflawni eu hamcanion.
Yn rhan o’i waith, bydd y pwyllgor yn archwilio sefyllfa bresennol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Daeth camau arbennig y bwrdd i ben fis Tachwedd 2020 ar ôl pum mlynedd, ond mae pryderon o hyd ynghylch arwain, ymgysylltu, gwasanaethau iechyd y meddwl, strategaethau a chynllunio.
Hyd yn oed ar ôl camau arbennig dros gyfnod maith, mae’n ymddangos nad yw’r Trefniadau’n gallu datrys y problemau. A hynny er gwaethaf prif egwyddor y Trefniadau – anelu at wella amserol ac effeithiol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y Trefniadau wedi newid ac esblygu yn sgîl cydweithio â’r byrddau iechyd. Mae’n cydnabod, fodd bynnag, nad yw’r fframwaith gwreiddiol yn eglur ynglŷn â’r hyn sy’n sbarduno newid yn lefel yr uwchgyfeirio. Pan fo uwchgyfeirio lefel uchel yn parhau dros gyfnod maith, gall pobl ddod i dderbyn gwasanaethau annigonol yn sefyllfa arferol. O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen adolygu ac adnewyddu’r fframwaith presennol, gan gynnwys gofalu bod y gwella’n fwy amserol.
Mae Tracey Rosell yn fyfyriwr doethurol ym Mhrifysgol Caerdydd o dan adain Cyngor yr Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Rhaglen Hyfforddiant Doethurol Cymru sy’n ariannu’r ymchwil ar gyfer ei doethuriaeth. Mae ei hymchwil yn helpu i ddeall sut mae arwain sefydliadau mewn amgylchiadau anodd, yn enwedig ym maes gofal iechyd. Mae’r erthygl hon wedi’i llunio pan oedd yn intern gyda staff Ymchwil y Senedd o dan nawdd Rhaglen Hyfforddiant Doethurol Cymru, sy’n rhan o Gyngor yr Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.
- Mawrth 2024
- Ebrill 2023
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Rhagfyr 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018