Sut mae chwilio am gytgord yn dylanwadu ar ffyrdd alltudion o reoli yng nghorfforaethau amlwladol Tsieina?
9 Medi 2019Yn ein darn diweddaraf, mae ymchwilydd PhD Muhao Du yn amlinellu uchelgeisiau ei ymchwil ddoethurol i ddulliau rheoli alltudion o Tsieina. Mae’r darn wedi’i seilio ar boster yr enillodd wobr amdano ar ôl ei gyflwyno yng Nghynhadledd Ôl-raddedigion Ymchwil Cymru (y gynhadledd gyntaf o’i bath) fis Mehefin 2019.
Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar gyfnodau rheolwyr alltud yn rhai o gorfforaethau amlwladol Tsieina trwy brofiad yr alltudion eu hunain. Gosodir yr astudiaeth yng nghyd-destun y syniad o ‘gytgord’, prif nodwedd y ffordd Tsieineaidd o reoli adnoddau dynol yn ôl rhai . Trwy ganolbwyntio ar brofiad diriaethol alltudion o Tsieina, bydd yr ymchwil yn llunio hanesion manwl o amryw achosion ac yn bwrw golwg mwy personol ar ffordd y Tsieiniaid o reoli adnoddau dynol.
Cyd-destun Tsieina
Ers y 1980au, mae Tsieina wedi rhoi’r gorau i economi gynlluniedig a sefydlu yn ei lle un sosialaidd sy’n ymateb i farchnadoedd yn unol â diwygio economaidd a pholisi agor y wlad (a elwir yn ‘bolisi drws agored’, hefyd).
“Mae diwygio economaidd wedi cyflawni rôl hanfodol a sylfaenol yn natblygiad Tsieina dros y pedwar degawd diwethaf.”
Denodd polisi’r drws agored fuddsoddwyr o dramor i hwyluso datblygiad mewnol Tsieina gan roi’r wlad yn economi’r byd.
Ym 1999, disodlwyd polisi’r drws agored gan bolisi ‘Mynd Allan’ a chanddo bwyslais ar farchnadoedd ac adnoddau, i annog cwmnïau Tsieina i fuddsoddi mewn gwledydd eraill ac agor marchnad fewnol y wlad ymhellach fel y byddai Tsieina yn fwy cystadleuol ledled y byd. O ganlyniad i’r polisi hwnnw, mae llawer o gwmnïau Tsieina yn rhai rhyngwladol bellach gan roi sylfaen cadarn i’r wlad ymuno â Sefydliad Masnach y Byd. Yn sgîl newid y polisi, mae mwy a mwy o weithwyr Tsieina wedi bod yn gweithio yng nghanghennau cwmnïau amlwladol y weriniaeth dramor.
Yn ddiweddar, mae prosiect ‘Un Rhanbarth ac Un Ffordd’ a gynigiwyd yn 2013, wedi hwyluso proses ehangu cwmnïau amlwladol Tsieina eto fyth. Mae’r prosiect uchelgeisiol hwnnw’n strategaeth ddatblygu sy’n canolbwyntio ar isadeiledd a buddsoddi mewn tua 152 o wledydd ledled Asia, Ewrop, Affrica a De America. Felly, mae modd darogan y bydd nifer yr alltudion o Tsieina yn cynyddu.
Esblygiad trefn rheoli adnoddau dynol Tsieina
Ynghylch rhoi polisi ‘diwygio ac agor’ Tsieina ar waith, ysgrifennodd Warner (2011, t. 3229) fod “ffordd newydd o reoli pobl (renli ziyuan guanli neu ‘reoli adnoddau’r llafurlu’) bellach yn gyfystyr – er da neu ddrwg – â’r diffiniad arferol o reoli adnoddau dynol (gweler Warner 2008 ar y pwynt hwnnw).” Mae’n bwysig nodi bod rôl y wladwriaeth yn nhrefn fasnachol Tsieina yn parhau er gwaetha’r newid economaidd. Mae’n cyflawni rôl ynghylch llunio ffordd Tsieina o reoli pobl ac yn dylanwadu ar ffordd benodol o reoli adnoddau dynol, sef ffordd Tsieina (Warner 2008). Gwelir yn y “mentrau adnoddau dynol penodol a gyfeirir gan werthoedd ideolegol mae’r wladwriaeth am eu hyrwyddo, sef datblygu cymdeithas gwybodaeth a chymdeithas gydgordiol” (Cooke 2011a, t.3844). Er bod honiad bod ffordd Tsieina o reoli adnoddau dynol yn dod yn nes at un y Gorllewin, mae effaith arferion personél traddodiadol Tsieina yn gryf o hyd a gwelir mewn traddodiadau megis cyfeiriad grwpiau, teyrngarwch a hynafedd yn ogystal â rôl wahanol yr undeb llafur swyddogol yng nghyd-destun gwleidyddiaeth Tsieina (Cai ac eraill 2011). Prif nodweddion trefn rheoli adnoddau dynol Tsieina yw ymddygiad nawddogol, hierarchaidd, ufudd a chymhellol (gweler Cooke 2011b) er bod y syniad o ‘gytgord’ yn bwysig, hefyd.
Y syniad o gytgord
Yn athroniaeth Tsieina, dywedir bod ‘cytgord’ yn gysylltiedig ag egwyddorion Conffiwsiaeth. Mae Li (2006) yn diffinio cytgord yn nod sy’n pennu y dylai pobl ymddwyn neu gynnal unrhyw weithgareddau yn ôl egwyddorion a/neu reolau. Mae honiad bod y pwyslais ar gysylltiadau cydgordiol a chyfrifoldebau cymdeithasol, yn ogystal â safonau moesol uchel, wedi arwain at ffordd fwy tringar o reoli yn Tsieina (Lin a Ho 2009). Pan drosglwyddir egwyddorion o’r fath i’r gweithle, mae tyb bod osgoi anghydfod rhwng cyflogwyr a gweithwyr yn flaenoriaeth. Mae hynny’n cyd-fynd â’r agwedd unedol sy’n ategu gwaith rheoli adnoddau dynol yng ngwledydd y Gorllewin megis y deyrnas hon.
“Yn Tsieina, deellir bod chwilio am gytgord yn y gweithle yn adlewyrchu ac yn ategu cytgord yn y gymdeithas.”
Yn ystod fy astudio ar gyfer doethuriaeth, bydd yn ddiddorol ystyried sut mae cytgord yn cael ei gynnal a sut mae’n dylanwadu ar ddulliau rheoli alltudion, nid yn unig wrth weithio y tu allan i Tsieina ond ar ôl dychwelyd adref, hefyd.
Felly, bydd yr astudiaeth yn dilyn hanes alltudion o adeg eu recriwtio hyd eu dychwelyd i’r famwlad.
Mae Muhao Du yn fyfyriwr PhD yn Ysgol Busnes Caerdydd.
Mae ei waith ymchwil yn canolbwyntio ar ddulliau rheoli alltudion o Tsieina.
Llyfryddiaeth
- Nie, M. ac eraill., 2010. 2011. Explaining the human resource management preferences of employees: a study of Chinese workers. The International Journal of Human Resource Management 22(16), tt. 3245-3269.
- Cooke, F, L. 2011a. The role of the state and emergent actors in the development of human resource management in China. The International Journal of Human Resource Management 22(18), tt.3830 – 3848.
- Cooke, F, L. 2011b. Human Resource Management in China: New Trends and Practices. Llundain ac Efrog Newydd: Routledge.
- Li, C. 2006. The Confucian Ideal of Harmony. Philosophy East and West 56(4), 583-603.
- Lin, L. H., a Ho, Y, L. 2009. Confucian dynamism, culture and ethical changes in Chinese societies – a comparative study of China, Taiwan and Hong Kong. The International Journal of Human Resource Management 20(11), tt.2402–2417.
- Warner, M. 2008. Reassessing human resource management ‘with Chinese characteristics: an overview. International Journal of Human Resource Management 19(5), tt.771–801.
- Warner, M. 2011. Society and HRM in China. The International Journal of Human Resource Management 22(16), tt.3223-3244.
- Mawrth 2024
- Ebrill 2023
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Rhagfyr 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018