Skip to main content

Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau

Pum peth ddysgwyd gennym am y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yn Sector Cyhoeddus y Deyrnas Unedig

27 Tachwedd 2019

Yn ein postiad diweddaraf, mae’r Athro Melanie Jones a Dr Ezgi Kaya yn rhannu rhai o ganfyddiadau eu prosiect ar gyfer Office of Manpower Economics (OME), a fu’n archwilio’r bwlch cyflogau rhwng y rhywiau yn sector cyhoeddus y Deyrnas Unedig.

1. Mae’r anghydraddoldeb yn debyg ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Er bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn dal rywfaint yn llai yn y sector cyhoeddus na’r sector preifat yn 2018, mae’r dull rydyn ni’n ei ffafrio ar gyfer mesur anghydraddoldeb cyflog rhwng y rhywiau, sef y rhan honno o’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau na allwn roi cyfrif amdani drwy ddefnyddio’r wybodaeth sydd ar gael am weithwyr a’u swyddi mewn arolwg cenedlaethol cynrychioliadol, mewn gwirionedd yn debyg ar draws y sector cyhoeddus a’r sector preifat. 

Mae hyn yn gwyrdroi’r patrwm sefydledig, gan gynnwys ein gwaith blaenorol a seiliwyd ar ddata tan 2015 ac yn awgrymu nad yw’r sector cyhoeddus bellach yn ‘esiampl o arfer da’ ym maes anghydraddoldeb cyflog rhwng y rhywiau.

2. Mae ‘nenfwd gwydr’ ar gyfer benywod.

Mae’r sylw i’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn tueddu i ganolbwyntio ar y gweithiwr nodweddiadol, ond mae ein dadansoddiad ni yn archwilio’r dosbarthiad cyflog cyflawn.  O ganlyniad, rydym hefyd yn ystyried bylchau cyflog rhwng y rhywiau ymhlith gweithwyr sy’n cael cyflog isel a chyflog uchel.

Efallai bod e’n syndod mai yn y sector cyhoeddus y gwelwn ni fod anghydraddoldeb cyflog rhwng y rhywiau’n arbennig o amlwg ymhlith gweithwyr cyflog uchel. Mae hyn yn cyd-fynd â phresenoldeb ‘nenfwd gwydr’ lle mae benywod yn llai tebygol o gael mynediad i’r rolau sy’n talu’r cyflogau uchaf.

3. Mae hyn yn effeithio ar feddygon, athrawon, yr heddlu a swyddogion carcharau, yn ogystal â gweithwyr yn y GIG.

O rannu’r sector cyhoeddus yn ddwy ran yn ôl y galwedigaethau lle mae cyflogau’n cael eu llywio gan argymhellion Cyrff Adolygu Cyflogau (PRBs) neu beidio, gwelwn lefelau tebyg o anghydraddoldeb cyflog rhwng y rhywiau ar gyfartaledd. 

Fodd bynnag mae ‘nenfwd gwydr’ llawer mwy amlwg mewn galwedigaethau PRB, sy’n cynnwys meddygon, athrawon, yr heddlu a swyddogion carcharau, a gweithwyr yn y GIG. 

4. Mae amrywiadau sylweddol rhwng galwedigaethau sector cyhoeddus

Mae amrywiadau sylweddol i’w gweld ar draws y pum PRB gwahanol a fu’n destun sylw (gweler Ffigur 1).  Gwelwn fod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ymhlith meddygon a deintyddion (20%), er enghraifft, tua phedair gwaith mor fawr ag yn achos gweithwyr y GIG (5%). 

Nodiadau: Mae’r ffigurau wedi’u seilio ar ddadansoddiad o’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (2018) ac yn cyfeirio at alwedigaethau a ddiffinnir gan y PRBs.

5. Mae benywod yn llai tebygol o gael cyflogau cysylltiedig â pherfformiad.

Er bod tâl cysylltiedig â pherfformiad, a fyddai’n cynnwys rhannu elw, taliadau bonws, tâl yn ôl y gwaith a thaliadau comisiwn, yn gymharol gyfyngedig yn sector cyhoeddus y Deyrnas Unedig, cawn fod benywod yn llai tebygol o dderbyn tâl cysylltiedig â pherfformiad na dynion, a bod y bwlch hwn yn fwy nag yn y sector preifat. 

Yn fwy cadarnhaol, yn amodol ar dderbyn tâl cysylltiedig â pherfformiad, ac yn wahanol i’r sector preifat, ni chawn unrhyw dystiolaeth o anghydraddoldeb tâl rhwng y rhywiau yn swm y tâl cysylltiedig â pherfformiad mae gweithwyr yn ei dderbyn yn y sector cyhoeddus.

Goblygiadau ar gyfer polisi ac ymarfer

Bydd ein dadansoddiad yn hysbysu’r Cyrff Adolygu Cyflogau sy’n cyflwyno argymhellion talu ar draws y sector cyhoeddus a gweithluoedd hanfodol sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus allweddol yn y Deyrnas Unedig.  Mae gweithio gyda’r OME yn golygu y gallai ein dadansoddiad effeithio ar gyflog 2.5 miliwn o weithwyr, neu ryw 45% o staff sector cyhoeddus, ac mae hynny’n bosibilrwydd cyffrous iawn.

Ymchwil i’r Dyfodol

Rydym ni’n awyddus i adeiladu ar y prosiect hwn ac archwilio ymhellach benderfynyddion y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y Deyrnas Unedig.   Rydym ni hefyd wrthi ar hyn o bryd yn archwilio a yw cyflwyno Adroddiadau ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yn y Deyrnas Unedig wedi cau rhywfaint ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

Yn ddiweddar rydym ni wedi croesawu Suzanna Nesom i’n tîm ymchwil fel myfyriwr PhD mewn cydweithrediad ag ESRC sy’n gweithio gyda Chwarae Teg. Maen nhw’n rhoi cyngor ar bolisi sy’n effeithio ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau a chyfraniad benywod i’r economi.  Nod ei PhD yw deall pam mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn amrywio cymaint ar draws awdurdodau lleol Cymru.   Cewch glywed mwy yn y man, felly.

Mae Melanie Jones yn Athro Economeg yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Mae Dr Ezgi Kaya yn Ddarlithydd mewn Economeg yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Darllenwch yr adroddiad llawn ‘Understanding the Gender Pay Gap within the UK Public Sector’.