Skip to main content

AlumniCynfyfyrwyrUncategorized

Ehangu fy musnes gyda Helpu i Dyfu gan Sarah Breese

29 Gorffennaf 2022

Yn ddiweddar, cwblhaodd Sarah Breese (BSc 2009), Cyfarwyddwr Gweithrediadau, TPT Consultancy and Training Ltd, y rhaglen datblygu busnes Helpu i Dyfu: Rheoli yn Ysgol Busnes Caerdydd. Mae Sarah yn dweud wrthym am ei phrofiad ar y rhaglen, a’r newidiadau y mae hi wedi’u gwneud yn ei gwaith ers hynny.

Ar ôl graddio gyda BSc Rheoli Busnes yn 2009 doedd gen i ddim syniad beth roeddwn i eisiau ei wneud gyda fy ngyrfa felly derbyniais rai swyddi interim fel barforwyn a derbynnydd gwesty. Ar y pryd, roedd fy nhad yn rhedeg TPT Consultancy and Training Ltd ac roedd angen cymorth arno ar brosiect mawr a oedd yn cael ei ariannu.

Ymunais â’r cwmni’n rhan-amser, am rai misoedd i ddechrau. Ddeuddeg mlynedd yn ddiweddarach, rydw i wedi cael rolau amrywiol yn TPT gan gynnwys gweinyddu, gwerthu a marchnata, rhagoriaeth busnes ac, yn awr, fy rôl bresennol fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau.

Cafodd TPT, fel llawer o gwmnïau sy’n cynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb, amser caled yn ystod y pandemig, ac roeddem yn gwybod ein bod am dyfu’r busnes ac ehangu ein harlwy. Cofrestrais gyda Helpu i Dyfu gyda’r gobaith y byddwn yn cael cymorth a’r offer i dyfu ein busnes.

Yn sicr, rhoddodd y rhaglen y sgiliau a’r wybodaeth yr oeddwn yn chwilio amdanynt i mi, a thyfodd fy hyder i allu rhoi’r offer a roddwyd i ni ar waith. Mwynheais y modiwl ar Ryngwladoli ac Ennill Marchnadoedd Newydd yn fawr. Hwn oedd ein modiwl wyneb-yn-wyneb cyntaf ac roedd yn wych cyfarfod â’r holl gynrychiolwyr eraill. Daeth yr astudiaeth achos Microfresh â’r modiwl yn fyw a mwynheais y trafodaethau a gawsom yn ei chylch.

I mi, y modiwl mwyaf defnyddiol oedd Datblygu Strategaeth Farchnata. Mae marchnata yn rhywbeth sydd wedi bod yn anodd i ni fel busnes yn y gorffennol. Gwnaeth y modiwl hwn ein helpu i segmentu ein marchnad yn fwy llwyddiannus, yn enwedig gan ein bod yn symud o B2B yn unig i’r farchnad B2C. Fe wnaeth hefyd ein helpu i egluro ein rôl a lle rydym yn ffitio i mewn i’r farchnad.

Rwy’n meddwl mai’r peth mwyaf a ddatblygais yn ystod y rhaglen oedd hyder. Yr hyder fod y pethau rwy’n eu gwneud yn gywir, a’r hyder i gyflwyno syniadau twf newydd i weddill y tîm.

Roedd y rhaglen hefyd yn cynnig cyfleoedd i rwydweithio a gwneud cysylltiadau â busnesau eraill. Rwy’n meddwl mai’r peth mwyaf diddorol am rwydweithio yw eich bod yn sylweddoli bod gan bawb broblemau, ofnau a materion tebyg. Roeddem yn grŵp amrywiol o ran sectorau, maint busnes, rolau ac ati ond roedd themâu cyffredin yn rhedeg drwy’r grŵp, ac roedd yn ddiddorol trafod pethau gyda chymaint o bobl a safbwyntiau gwahanol.

Yn dilyn fy amser ar y rhaglen, yn TPT rydym wedi ehangu ein portffolio o gyrsiau hyfforddi. Ar ôl gweithio ar y llyfrau gwaith o’r modiwlau marchnata, fe benderfynom amrywio’r hyn rydyn ni’n ei gynnig gyda chyrsiau sy’n ategu ein harlwy presennol ac sy’n targedu ein marchnadoedd presennol. Mae hyn eisoes wedi bod yn llwyddiant gyda’r cyrsiau wedi’u cymeradwyo’n allanol ac yn gwerthu.

Un peth y byddwn i’n ei ddweud wrth rywun sy’n ystyried cofrestru: “Ewch amdani!”  Mae’n fuddsoddiad amser, ond os ydych chi’n fodlon rhoi’r gwaith i mewn a chofleidio’r rhaglen, mae’n talu ar ei ganfed.

Mae Helpu i Dyfu: Rheoli yn rhaglen sy’n helpu uwch reolwyr neu fusnesau bach a chanolig i hybu perfformiad, gwydnwch a thwf hirdymor eu busnes.
Mae deuddeg sesiwn dros ddeuddeg wythnos yn ymdrin â meysydd allweddol o arweinyddiaeth gan gynnwys strategaeth ac arloesi, mabwysiadu technoleg ddigidol ac adeiladu gweledigaeth a brand.
Ariennir 90% o’r rhaglen gan Lywodraeth y DU, gan gostio dim ond £750 i berchnogion busnes.
Dysgwch fwy am y rhaglen Helpu i Dyfu: Rheoli.