Ehangu fy musnes gyda Helpu i Dyfu gan Holly Barnes
10 Awst 2022
Yn ddiweddar cwblhaodd Holly Barnes (BA 1998), sy’n Rheolwr Gweithrediadau yn ITSUS Consulting, y rhaglen Cymorth i Dyfu: Rheolaeth, sef rhaglen datblygu busnes yn Ysgol Busnes Caerdydd. Mae Holly yn sôn wrthym am ei phrofiad ar y rhaglen, a’r newidiadau y mae hi wedi’u gwneud yn ei gwaith ers hynny.
Doeddwn i ddim wir yn gwybod beth i’w ddisgwyl o’r rhaglen Cymorth i Dyfu, ond fe wnes i ddysgu am syniadau defnyddiol ynghylch sut y gallwn gefnogi a hwyluso tyfiant. Yn benodol, fe wnaeth y modiwl ar Weithrediadau Effeithlon ysgogi sawl syniad am y meysydd y mae angen i ni edrych arnynt a’u datblygu.
Roedd yn wych sgwrsio ag aelodau eraill y grŵp, rhannu syniadau a dysgu am eu busnesau a’u heriau. Fe wnaeth hyn yr holl broses yn llai brawychus hefyd, oherwydd mae rhywun y sylweddoli bod pawb yn yr un cwch, a neb yn arbenigwr.
Y tri phrif beth a ddysgais ar y rhaglen oedd:
- Y diffiniad o dwf: nid dim ond trosiant neu nifer y gweithwyr yn unig mohono, mae hefyd yn ymwneud ag adeiladu gwell prosesau, strwythur, a datblygu amrywiaeth o fewn y sefydliad.
- Effaith ffurfioli yn ystod twf busnes, a’r ffaith y gall rhai gweithwyr a chwsmeriaid wrthsefyll hyn. Mae’n rhywbeth yr oeddwn wedi’i weld yn y gorffennol, ond efallai nad oeddwn wedi gwerthfawrogi’r rheswm dros hynny.
- Pwysigrwydd ymgysylltu â gweithwyr.
Ar ôl y modiwl Digideiddio, llwyddais i wneud newid ystyrlon, cyflym, drwy gyflwyno slipiau cyflog digidol i weithwyr. Daeth y syniad hwn i fodolaeth ar ôl sgwrs ag aelod o’r grŵp yn ystod y modiwl. Siaradais â’n cyfrifydd a ddywedodd y gallai gefnogi fy nghais, a chafodd hyn ei roi ar waith yn fuan wedyn. Mae hwn yn newid bach a chymharol hawdd sydd wedi gwneud bywyd yn haws i bawb.
Wrth edrych tua’r dyfodol, rwy’n canolbwyntio ar Fabwysiadu Digidol, Dylunio Sefydliadol a Gweithrediadau Effeithlon, ond rwyf hefyd wedi gallu cefnogi cydweithwyr gyda gwybodaeth o rai o’r modiwlau eraill.
I unrhyw un sy’n ystyried cofrestru ar gyfer Cymorth i Dyfu byddwn yn dweud “gwnewch e!” Gwnewch yn siŵr eich bod yn ysgrifennu nodiadau ar gyfer eich Cynllun Gweithredu Twf wrth i chi fynd yn eich blaen, neu byddwch yn anghofio’r holl syniadau a fydd yn dod i’ch meddwl yn ystod y modiwlau.
Mae Cymorth i Dyfu: Rheolaeth, yn rhaglen sy’n helpu uwch reolwyr neu fusnesau bach a chanolig i hybu perfformiad, gwydnwch a thwf hirdymor eu busnes.
Ceir deuddeg sesiwn dros ddeuddeg wythnos sy’n ymdrin â meysydd allweddol o ran arweinyddiaeth gan gynnwys strategaeth ac arloesi, mabwysiadu technoleg ddigidol a meithrin gweledigaeth a brand.
Ariennir 90% o’r rhaglen gan Lywodraeth y DU, ac felly £750 yn unig yw’r gost i berchnogion busnes.
Dysgwch fwy am y rhaglen Cymorth i Dyfu: Rhaglen rheoli.
- Mawrth 2024
- Ebrill 2023
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Rhagfyr 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018