Skip to main content

COVID-19

Effaith y pandemig ar amseroedd talu cyflenwyr

2 Mawrth 2022

Illustration of an invoice on a laptop

Gyda busnesau’n wynebu heriau a risgiau newydd, a yw’r pandemig wedi cael effaith ar amseroedd talu cyflenwyr? Yn ein postiad diweddaraf, mae Anthony Flynn yn archwilio’r effaith y mae’r pandemig wedi’i chael ar daliadau anfonebau.

Rhwng cyfnodau clo, prinder cynnyrch ac absenoldeb staff, achosodd pandemig COVID-19 aflonyddu mawr ar weithgarwch busnes. Ym maes y gadwyn gyflenwi, y rhagdybiaeth oedd y byddai’r pandemig yn atal cyflenwyr rhag cael eu talu’n brydlon neu hyd yn oed rhag cael eu talu o gwbl [1]. Gwelid y sefyllfa ar gyfer pob credydwr masnach fel un ansicr a nodwyd bod cyflenwyr bach mewn sefyllfa arbennig o fregus.

Roedd y data a ddaeth i’r amlwg yn dangos cymylau rhybudd ar y gorwel. Roedd cwmnïau anariannol yn yr Unol Daleithiau yn arafu taliadau i gyflenwyr i gynyddu eu harian wrth law [2] tra bod contractwyr yn mynegi nerfusrwydd mewn arolygon ynghylch pryd byddent yn cael eu talu am wasanaethau a roddwyd [3].

Roedd rhagdybiaethau ynghylch oedi gyda thaliadau yn cael eu gyrru gan brofiad argyfwng bancio rhyngwladol 2008. Arweiniodd y dirwasgiad a ddeilliodd o hynny at gwmnïau’n ymestyn eu hamseroedd talu cyflenwyr 10 diwrnod ar gyfartaledd yn yr Unol Daleithiau a 7 diwrnod yn Ewrop [1]. Er nad yw hynny’n ymddangos yn llawer iawn o bosib ar bapur, mae oedi o’r math hwn cyn talu yn amddifadu cwmnïau o arian ar gyfer gwariant cyfredol a buddsoddiad cyfalaf a gall sbarduno adwaith cadwyn o daliadau hwyr ar draws diwydiant.

Pam mae’r newid hwn mewn ymddygiad talu yn digwydd? Mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd, mae cwmnïau am gadw arian parod a chryfhau eu mantolen. Mae eu hamharodrwydd i gymryd risg yn cynyddu, ac mae meddylfryd hunan-gadwraeth yn cymryd drosodd nes bod amodau masnachu arferol yn dychwelyd. Yn nodweddiadol, y cyflenwyr sy’n ysgwyddo baich y cwtogi ariannol hwn a rhaid iddynt ymdopi ag aros yn hwy i gael eu talu.

I ddychwelyd at y pandemig ac arferion talu cyflenwyr – wnaeth hynny bethau’n waeth, yn ôl y disgwyl? Yr ateb, er syndod, yw na. Dengys dadansoddiad a gynhaliais ar arferion talu cyflenwyr miloedd o gwmnïau mawr yn y Deyrnas Unedig mai ychydig iawn o newid a gafwyd yn yr amser a gymerwyd gan brynwyr i setlo eu hanfonebau gyda chyflenwyr rhwng dechrau 2018 a diwedd 2021. Bu hyd yn oed welliant ymylol yn y dangosyddion arfer talu yn ystod y pandemig.

Ym mlynyddoedd 2018 a 2019, cyn y pandemig, roedd cwmnïau’r Deyrnas Unedig yn cymryd 37 diwrnod ar gyfartaledd i dalu eu cyflenwyr. Arhosodd y ffigur hwn yn gyson ar hyd blynyddoedd y pandemig, 2020 a 2021. Cyn y pandemig, roedd cwmnïau’n setlo tua 54% o’u hanfonebau o fewn y cyfnod safonol o 30 diwrnod. Yn ystod y pandemig, mae’r ffigur hwn wedi gwella i 56%. Mae’n werth nodi hefyd bod canran yr anfonebau a dalwyd yn unol â’r telerau y cytunwyd arnynt wedi codi yn ystod y pandemig, o 69% yn 2018 i 73.5% yn 2021. Cyflawnwyd yr olaf heb i gwmnïau addasu eu hamseroedd talu safonol.

Sut gallwn ni gyfrif am y canlyniadau hyn? Rhan o’r ateb yw’r cymorth ariannol digynsail a ddarparwyd gan lywodraeth y Deyrnas Unedig i fusnesau. Amcangyfrifir bod £150B wedi cael ei ddarparu ar ffurf benthyciadau adfer, grantiau, gohiriadau TAW, rhyddhad ardrethi a chynlluniau cadw swyddi [4]. Roedd hyn yn helpu cwmnïau i barhau’n hylifol a chyflawni eu rhwymedigaethau ariannol i gredydwyr. Ni chafwyd cefnogaeth gan y Llywodraeth ar y raddfa hon yn ystod argyfwng ariannol 2008, ac roedd y wasgfa hylifedd ar gwmnïau a ddilynodd hynny yn un o’r rhesymau pam yr oedd cyflenwyr yn ei chael yn anodd sicrhau taliad.

Arweiniodd y pandemig hefyd at newid yng nghydbwysedd y pŵer rhwng prynwyr a chyflenwyr. Mae tagfeydd cynhyrchu tramor a chyfyngiadau logisteg wedi golygu bod prynwyr yn cael eu hunain yn cystadlu â’i gilydd i sicrhau cyflenwadau prin. O dan yr amodau hyn, mae’n ddoeth talu cyflenwyr yn brydlon er mwyn cadw eu cefnogaeth.  Dangoswyd ewyllys da hefyd gan gwmnïau i’w cyflenwyr a’u partneriaid masnachol. Mae Nationwide UK, Sainsbury’s ac M&S ymhlith y cwmnïau stryd fawr a gyflymodd y taliad i gyflenwyr bach i’w helpu trwy’r pandemig [5].

Mae pandemig COVID-19 wedi troi’r ddoethineb arferol ynghylch sut mae’r economi yn gweithredu ar ei phen. I’r gymysgedd gallwn ychwanegu ei fod wedi drysu disgwyliadau ynghylch trafodion ariannol rhwng prynwyr a chyflenwyr. Roedd rheswm dros gredu y byddai’n ymestyn amseroedd talu ac yn cynyddu’r diffyg cydymffurfio â thelerau y cytunwyd arnynt, ond gwelwyd nad oedd hynny’n wir, o leiaf nid yng nghyd-destun y Deyrnas Unedig. Mae pob argyfwng economaidd ac o ran y gadwyn gyflenwi yn wahanol, felly mae angen i ni fod yn ofalus wrth ddefnyddio profiadau’r gorffennol i ragfynegi’r dyfodol.

Mae Anthony Flynn yn Uwch-ddarlithydd Rheoli Prynu a Chyflenwi. Mae ganddo ddiddordeb ymchwil arbennig mewn rôl busnesau bach a chanolig mewn cadwyni cyflenwi yn y sector cyhoeddus.

Llyfryddiaeth

  1. Caniato, F., Moretto, A., Rice Jr., J.B. (2020), “A financial crisis is looming for smaller suppliers”, Harvard Business Review, Cyf. 56, Rhif Awst 06. Ar gael yn: https://hbr.org/2020/08/a-financial-crisis-is-looming-for-smaller-suppliers
  2. Grŵp Hackett. (2020), Pandemic drives significant changes in working capital performance in 2020, Gorffennaf 15. Ar gael yn: https://www.thehackettgroup.com/news/hackett-survey-pandemic-drives-significant-changes-in-working-capital-performance-in-2020/
  3. Melnyk, S.A., Schoenherr, T., Verter, V., Evans, C. a Shanley, C. (2021), “The pandemic and SME supply chains: Learning from early experiences of SME suppliers in the US defense industry”, Journal of Purchasing and Supply Management, Cyf. 27, Rhif 4, tt.1007-14.
  4. Brien, P. a Keep, M. (2021), Public spending during the Covid-19 pandemic. Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin, tt. 1-25. Ar gael yn: https://researchbriefings.files.parliament.uk/documents/CBP-9309/CBP-9309.pdf
  5. Faulkner, L. (2021), How Nationwide supported SMEs during the pandemic. Ar gael yn: https://www.smallbusinesscommissioner.gov.uk/ppc/ppc-blog/how-nationwide-supported-smes-in-the-pandemic/