Y Labordy Cemeg ac Iaith: Camp myfyriwr wrth lunio geirfa Cemeg i bawb
10 Tachwedd 2025
Gemma Hackman, o’r Academi Dysgu ac Addysgu, sydd wedi ysgrifennu’r blog hwn.
Dros yr haf, digwyddodd rhywbeth tawel ond cwbl wych yn yr Ysgol Cemeg.Daeth David Miller (Ysgol Cemeg, Cyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-raddedig a Addysgir), Ria Koshi (myfyrwraig ar leoliad haf), David Harries (Rheolwr Rhaglen Sgiliau Saesneg Academaidd Myfyrwyr Rhyngwladol), a minnau ynghyd ar drywydd nod cyffredin: gwneud terminoleg cemeg yn haws i fyfyrwyr nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddyn nhw. Y canlyniad? Geirfa amlieithog a chwiliadwy ar Padlet ynghyd â chanllawiau ynganu ac enghreifftiau cyd-destunol.
Ond nid rhyw hanner gwneud y gwaith neu ymarfer blwch ticio mohono. Gwaith meddylgar gan fyfyrwyr sydd yma ac mae ôl empathi go iawn arno.
Cymerodd Ria, myfyrwraig ar leoliad haf, yr awenau wrth hel cofnodion yr eirfa a gweithio’n agos gyda’r academydd David Miller i ddod o hyd i’r termau fydd yn aml yn peri anhawster i fyfyrwyr. Nid dim ond diffinio’r geiriau oedd byrdwn y gwaith, ychwanegwyd nhw ar ben hynny gymorth ynganu ac enghreifftiau sy’n dangos sut mae’r term yn cael ei ddefnyddio yn y cyd-destun cywir. Mae’r haen ychwanegol honno o gymorth yn gwneud gwahaniaeth go iawn pan fyddwch chi’n ceisio deall iaith wyddonol ddwys mewn ail (neu drydedd!) iaith.
Dyma beth oedd gan Ria i’w ddweud am y broses:
Mwynheuais i’n fawr gweithio ar y prosiect hwn ac ro’n i’n hynod lwcus bod cynifer o bobl anhygoel wedi fy helpu! Wrth siarad â’r myfyrwyr eraill, dechreuais i ddeall safbwyntiau cwbl newydd ac roedd y cyfan yn ofnadwy o ddiddorol. Serch hynny, do’n i erioed wedi gwneud y math yma o beth o’r blaen, felly ces i amser gwych yn dysgu mwy am y mathau gwahanol o feddalwedd ro’n i’n gallu eu defnyddio. Ar y cyfan, gobeithio y bydd yr eirfa o gymorth, ac rwy’n hynod o ddiolchgar o gael y cyfle i gyfrannu.
Mae defnyddio’r Padlet yn beth greddfol a chynhwysol. Mae’n cefnogi llu o ieithoedd a sgriptiau yn ogystal â bod yn chwiliadwy i fyfyrwyr o ystod eang o gefndiroedd ieithyddol. P’un a ydych chi’n chwilio am “stoichiometreg” yn yr Arabeg neu “entropi” yn y Fandarineg, mae’r cyfan yno ichi yn yr eirfa.
Yn well fyth, mae’n hyblyg o ran ei ddefnyddio. Mae modd rhannu’r Padlet yn rhwydd mewn sawl modiwl yn Dysgu Canolog (Blackboard Ultra) felly dyma adnodd y gellir ei ailddefnyddio yn achos unrhyw gwrs pan fydd terminoleg cemeg yn rhwystr hwyrach rhag deall y testun.
Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o’r hyn all ddigwydd pan fyddwn ni’n dod â chanfyddiadau’r myfyrwyr, arbenigedd yr academyddion ac offer digidol ynghyd. Nid cyfieithu geiriau yn unig mo hyn, ymwneud â chyfleu dealltwriaeth y mae.
Cewch bori drwy’r eirfa yma: Geirfa Cemeg Padlet
Ac os ydych chi’n meddwl am sut i gefnogi dysgwyr amlieithog yn eich disgyblaeth eich hun, hwyrach bod yr adnodd hwn yn lle gwych i ddechrau.
Eisiau gwybod rhagor am sut y gall Padlet gefnogi eich addysgu neu eich prosiectau ar y cyd?
Caiff staff Prifysgol Caerdydd gael gafael ar drwydded Padlet, dyma sut i ddechrau arni a manteisio arni i’r eithaf drwy ddilyn y ddolen hon.
Oes gennych chi syniad difyr ym maes addysgu neu gefnogi myfyrwyr?
Mae’r Academi Dysgu ac Addysgu yma i helpu i wireddu prosiectau, cysylltwch â ni! ltacademy@caerdydd.ac.uk