Skip to main content

Addysg Ddigidol

Newidiadau bach er mwyn cael effaith fawr ar hygyrchedd digidol

7 Hydref 2024

Dechrau’r flwyddyn academaidd yw’r amser perffaith i sicrhau bod ein cynnwys Dysgu Canolog yn hygyrch i bob myfyriwr yn ein cymuned amrywiol. Mae Deddf Cydraddoldeb (2010) yn ei gwneud yn ofynnol i ni nid yn unig roi addasiadau rhesymol ar waith ond hefyd bod yn weithredol wrth ystyried hygyrchedd wrth ddylunio ein dysgu, gan gynnwys ein hamgylchedd dysgu digidol. Drwy roi ychydig o newidiadau bach ar waith wrth sefydlu ein modiwlau Dysgu Canolog, gallwn ni chwalu rhwystrau a chreu profiad dysgu mwy cynhwysol i bob myfyriwr. Gall y camau bach hyn wneud gwahaniaeth mawr!

Defnyddiwch benawdau ac arddulliau i fformatio dogfennau

Defnyddiwch offer steilio yn Dysgu Canolog i ddarparu strwythur clir a fydd yn helpu myfyrwyr sydd â nam ar y golwg neu anawsterau echddygol gan ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Wrth greu dogfennau Dysgu Canolog neu Microsoft gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio strwythur clir gyda’r teitl, pennawd, is-benawdau a pharagraffau.

Gwnewch hyperddolenni yn gryno ac ystyrlon

Wrth ychwanegu hyperddolenni i’ch dogfennau Canolog Dysgu, helpwch ddysgwyr sy’n defnyddio bysellfwrdd a/neu dechnoleg gynorthwyol i lywio dolenni a gwneud penderfyniadau ynghylch eu clicio ai peidio trwy eu gwneud yn ddisgrifiadol ac ystyrlon. Ceisiwch osgoi ymadroddion generig megis ‘cliciwch yma’ a ‘darllen rhagor’ gan fod y rhain yn amwys, neu ysgrifennu cyfeiriad llawn y wefan. Gall hyn fod yn arbennig o feichus i rywun sy’n gwrando ar yr wybodaeth.

 

Ychwanegwch ‘destun amgen’ at ddelweddau, graffiau a diagramau

Helpwch fyfyrwyr â nam ar y golwg sy’n defnyddio darllenwyr sgrin trwy ychwanegu testun amgen at ddelweddau, graffiau a diagramau. Wrth ychwanegu delweddau at Dysgu Canolog, bydd Ally yn eich annog i ychwanegu testun amgen gydag awgrymiadau defnyddiol i’ch helpu, neu’n marcio’r ddelwedd yn un addurnol.

Gwiriwch gynnwys o ran hygyrchedd

Mae modd defnyddio gwiriwr hygyrchedd Dysgu Canolog, Ally, i wirio hygyrchedd wrth i chi adeiladu cynnwys yn Dysgu Canolog. Mae Ally yn dangos i chi sut mae cynnwys sydd wedi’i greu neu’i lanlwytho yn Dysgu Canolog, yn sgorio o ran hygyrchedd gyda chanllaw cam wrth gam ar sut i ddatrys unrhyw faterion.

Mae Adroddiad Cwrs Ally yn ffordd gyflym a hawdd o wirio hygyrchedd modiwlau Dysgu Canolog. ​Gall Ally nodi materion ynghylch hygyrchedd mewn cynnwys wedi’i greu neu wedi’i lanlwytho yn Dysgu Canolog. Cewch ddod o hyd i Adroddiad Cwrs Ally yn yr adran ‘Llyfrau ac Offerynnau’ ar Dysgu Canolog.

Mae gwella hygyrchedd digidol yn helpu i greu amgylchedd dysgu mwy cynhwysol i bob myfyriwr ac mae modd ei gyflawni drwy roi rhai o’r awgrymiadau yn yr erthygl hon ar waith i gael gwared ar rwystrau posibl i ddysgu.

I gael rhagor o arweiniad ar wella hygyrchedd eich modiwlau Dysgu Canolog, rhowch gynnig ar Ganllaw Arfer Da Dysgu Canolog a Hanfodion Dysgu Canolog. Cewch ragor o wybodaeth am hygyrchedd digidol ac addysg gynhwysol yn y Pecyn Cymorth y Gwasanaeth Datblygu Addysg gydag ystod eang o wybodaeth am hyn a phob agwedd ar addysgu a dysgu. Gallwch chi hefyd ddatblygu eich dealltwriaeth o Addysg Gynhwysol a Hygyrchedd Digidol drwy ddod i weithdy DPP Dysgu ac Addysgu. Cewch ragor o wybodaeth am weithdai, a’r ddolen i gadw lle arnyn nhw yma.