Skip to main content

Addysg Ddigidol

Myfyrio ar Ein Digwyddiad Dysgu Trochi dros yr Haf a Barn Cymuned Ymarfer

3 Hydref 2025

Wedi ei ysgrifennu gan Punsisi Somaratne, Alyson Lewis, Mike Hackman, Bex Ferriday a Michael Willett o’r Academi Dysgu ac Addysgu. 

Mae Cymuned Ymarfer Hwyl a Gemau, a ffurfiwyd gan aelodau’r Academi Dysgu ac Addysgu (LTA), wedi bod yn weithredol ers blwyddyn. Mae’r gymuned yn tyfu’n barhaus ac mae nifer cynyddol o aelodau yn lledaenu cyfoeth o wybodaeth a phrofiadau. Mae gennym 82 o aelodau ar hyn o bryd.

Rydyn ni wedi cael tri chyfarfod, gan gynnwys y sesiwn gyntaf a gasglodd ddisgwyliadau staff o’r gymuned. Fe ymchwiliodd yr ail sesiwn yn ddyfnach i gysyniadau allweddol (gemeiddio, dysgu seiliedig ar gemau, a chwareusrwydd), a daeth y flwyddyn i ben drwy gynnal diwrnod chwarae yn labordy trochi’r Brifysgol ar gampws Parc y Mynydd Bychan. Rydyn ni wedi bod yn brysur!

Crynodeb o’n diwrnod chwarae trochi yn yr haf:

Gyda chymorth y tîm dysgu trochi fe wnaethon ni drefnu diwrnod chwarae i archwilio Labordai Trochi’r Brifysgol. Daeth â’r gymuned ynghyd i brofi arferion addysgeg arloesol ac ymarferol yng nghyd-destun trochi. Roedd y digwyddiad yn cynnwys arddangos pensetiau Realiti Rhithwir (VR), Gather Town (byd rhithwir 2D), a’r Labordy Trochi. Dywedodd un o’n haelodau,

Roedd yn sesiwn ddiddorol dros ben, a rhoddodd y cyfle imi roi cynnig ar rai adnoddau nad oeddwn yn gwybod eu bod ar gael ar ein cyfer. Roeddwn i’n hoffi’r penset VR yn arbennig, ond roedd hefyd yn gyfle da i drafod syniadau gyda chydweithwyr o Ysgolion eraill.

Pensetiau Realiti Rhithwir (VR)

Mae’r llun uchod yn dangos Bethan yn defnyddio un o’r pensetiau realiti rhithwir i astudio senario Anne Frank (a oedd yn cadw dyddiadur). Roedd gennym ystod o senarios VR yr oedd modd eu dewis: e.e. ymweld â thirnodau hanesyddol neu neuaddau preswyl Prifysgol.

 

Cyfuniad o ffotograffau o’r labordy trochi:

Gosodwyd yr olygfa mewn coetir chwedlonol gan gynnwys cymeriadau o blaid ac yn erbyn dysgu ac addysgu chwareus. Fe wnaethon ni roi cynnig ar rai o’r nodweddion yn yr ystafell a oedd yn cynnwys opsiynau sgrîn gyffwrdd amrywiol e.e. cwestiynau amlddewis. Mae un o’r lluniau isod yn dangos Alyson yn rhwbio geiriau i ffwrdd ar ôl trafod rhai o’r rhwystrau ym maes Addysg Uwch (AU) mewn perthynas ag addysgeg chwareus.

Mae’r llun arall yn dangos sut y gellir ymgorffori offer ffisegol a rhithwir yn rhan o’r profiad trochi! Er enghraifft, fe wnaethon ni ddefnyddio gwrthrychau ffisegol a oedd yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer dadansoddi’r côd ar gyfer y cam nesaf. Fe wnaethon ni gwrdd â thri chymeriad blin a oedd yn gwrthwynebu defnyddio hwyl a gemau yn AU cyn mynd ati i ddefnyddio’r sgrîn fflat gyda Xerte i geisio newid eu persbectif i ddull mwy chwareus a gweithredol!

 

GatherTown (byd rhithwir 2D)

Fe wnaethon ni edrych ar GatherTown, byd rhithwir ar borwr, lle gall myfyrwyr weithio ar nifer o dasgau ar yr un pryd neu ar adegau gwahanol. Mae GatherTown wedi cael ei ddefnyddio ym maes gofal iechyd gyda thros 500 o fyfyrwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau gofal iechyd gan gynnwys therapi galwedigaethol, nyrsio, bydwreigiaeth, ffisiotherapi a radiograffeg. Cafodd y myfyrwyr y dasg o gydweithio mewn grwpiau bach i edrych ar wella bwrdd iechyd dychmygol a oedd yn methu. Gan nad oedd unrhyw fannau addysgu ffisegol a oedd yn ddigon mawr ar gyfer cynifer o fyfyrwyr, penderfynwyd defnyddio GatherTown.

Cafodd fideos YouTube, byrddau Padlet a gweithgareddau a oedd yn seiliedig ar Xerte eu hymgorffori yn GatherTown, yn ogystal â mannau grŵp preifat (Ffig 1), mannau astudio preifat (Ffig 3), caffi a oedd yn cynnwys gemau fideo retro yr oedd modd eu chwarae (Ffig 4), a sinema awyr agored (Ffig 5). Ar ben hynny, fe wnaeth helfa drysor yn GatherTown helpu myfyrwyr i ddod o hyd i’w ffordd o gwmpas a dod o hyd i gliwiau hanfodol i’w helpu i wneud y dasg gyntaf – chwilio am dystiolaeth bod y bwrdd iechyd mewn trafferth.

Figure 1: Enghraifft o fan grŵp preifat

 

Fe wnaeth y staff a’r myfyrwyr fwynhau defnyddio GatherTown yn fawr fel dewis amgen i fannau cwrdd ar-lein eraill fel Teams gan eu bod yn gallu mewngofnodi ar adegau a oedd yn addas iddyn nhw. Cafodd ei ddefnyddio gan rai fel ‘man cymdeithasu’ i siarad am bynciau eraill yn ymwneud â’u cwrs gyda’u cyd-fyfyrwyr. Ar y cyfan, fe wnaeth hyd yn oed y myfyrwyr mwyaf nerfus gael hwyl, ond yn bwysicach fyth, fe wnaethon nhw hefyd wella eu sgiliau gwaith tîm a chyfathrebu a dysgu rhagor am Wella Ansawdd ac Addysg Ryngbroffesiynol yn y broses.

Fig 2: Enghraifft arall o fan ar gyfer grŵp

Fig 3: Mannau astudio preifat

Fig 4: Caffi a oedd yn cynnwys gemau fideo retro y gellir eu chwarae
Fig 5: Man astudio sinema awyr agored

 

Dymuniadau ar gyfer y dyfodol

Fig 6: Ffynnon gwireddu breuddwydion rithwir

Ar ôl archwilio’r man trochi, daethom ynghyd a meddwl am ein cynlluniau, ein gobeithion a’n dyheadau ar gyfer y dyfodol o ran defnyddio’r dechnoleg cyn mynd ati i gyflwyno ein safbwyntiau mewn ffynnon ddymuniadau rithwir (Ffig 6) drwy ddefnyddio Menti.

Yn ystod digwyddiad yr haf ac yn y ddau gyfarfod cymuned ymarfer arall, rhannodd aelodau eu profiadau a pharhau â sgyrsiau. Fe wnaethon nhw hefyd godi cwestiynau a rhannu canfyddiadau ar ddefnyddio dysgu chwareus yn eu hymarfer. Dyma rai o’r cwestiynau a amlygwyd yn ystod ein digwyddiadau:

  • Sut ydyn ni’n cymhwyso dysgu trochi i wahanol gyd-destunau?
  • Pa heriau y mae staff yn eu hwynebu wrth integreiddio dysgu chwareus, yn enwedig os nad oes llawer o fyfyrwyr yn cymryd rhan?
  • Sut allwn ni ddefnyddio gemeiddio a dysgu sy’n seiliedig ar gemau yn effeithiol wrth addysgu os ydym yn anghyfarwydd â’r dulliau hyn?

I gau pen y mwdwl ar ein gwaith ar gyfer y flwyddyn hon, hoffen ni rannu’r argymhellion canlynol:

  • Dechreuwch yn fach a chynyddwch eich gweithgarwch yn ddoeth Cofiwch beilota ar raddfa lai bob amser cyn symud ymlaen i dasgau mwy. Defnyddiwch gymuned ymarfer hwyl a gemau i dreialu a rhoi cynnig ar syniadau.
  • Cymorth a rhannu ymhlith cyfoedion: Rhannwch eich ymarfer a’ch profiadau, gan adael i eraill ddysgu oddi wrthych chi.
  • Cydraddoldeb a chynhwysiant: Cofiwch roi pwyslais ar ddylunio cynhwysol. Ystyriwch gefndiroedd eich myfyrwyr a gwnewch yn siŵr eu bod yn teimlo eu bod yn cael digon o gefnogaeth i gyflawni’r deilliannau dysgu drwy’r gweithgareddau hyn.

Mae’r cwestiynau a’r argymhellion uchod wedi sbarduno sgyrsiau i’n helpu i gynllunio ar gyfer 25/26. Os hoffech chi gyfrannu rhywbeth mawr neu fach yn ein cyfarfod nesaf, sy’n Playathon a gynhelir ar 6 Tachwedd, 10-11am (ar-lein), cysylltwch ag Alyson (lewisa81@caerdydd.ac.uk) neu Punsisi (somaratner@caerdydd.ac.uk) i roi gwybod am eich diddordebau. Gadewch i ni fod yn chwareus gyda’n gilydd!