Skip to main content

Addysg Ddigidol

Mewnosod Bwrdd Padlet Mewn Dogfen Ultra

3 Hydref 2024

Ysgrifennir y blog hwn gan Heather Pennington, Darlithydd, Mentor, ac Aseswr o fewn Rhaglen Cymrodoriaeth Addysg achrededig AdvanceHE yn Academi Dysgu ac Addysgu Prifysgol Caerdydd.

Mae Ymgorffori Padlet i Ddysgu Canolog (Blackboard Ultra) wedi bod yn drawsnewidiol ar gyfer fy nghyrsiau. Mae’n galluogi myfyrwyr i gael mynediad hawdd at adnodd Padlet gyda chyn lleied o darfu â phosibl ar lif y sesiwn a heb fod angen iddyn nhw edrych y tu allan i ddogfennau’r modiwl dysgu canolog cyfarwydd. Mae wedi bod yn fuddiol ar gyfer gwreiddio cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio amser real lle gall myfyrwyr bostio syniadau, cwestiynau ac ymatebion. Mae’r elfen ryngweithiol hon yn meithrin ymdeimlad o gymuned a chydweithio, gan wneud i fyfyrwyr ymgysylltu fwy â deunydd y cwrs. Yn ogystal, mae natur weledol a rhyngweithiol Padlet yn helpu i ddarparu ar gyfer gwahanol arddulliau dysgu, gan wneud y cynnwys yn fwy hygyrch. Yn gyffredinol, mae wedi gwella cyfranogiad ac ymgysylltiad myfyrwyr yn sylweddol.

Rhowch Gynnig Arni

Mae’r fideo isod yn eich arwain trwy’r broses:

Manylion cyswllt

Mae arnon ni angen mwy o ffrindiau beirniadol o bob rhan o’r Brifysgol (staff academaidd a staff PS) i roi adolygiadau gonest ar ddiweddariadau a nodweddion newydd. Cysylltwch os oes gennych chi ddiddordeb.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, angen cyngor, neu os oes gennych unrhyw syniadau am blogiau yn y dyfodol, cysylltwch â ni yn yr Academi Dysgu ac Addysgu drwy: LTAcademy@caerdydd.ac.uk