Gwella’r Cymorth i Fyfyrwyr drwy Greu ar y Cyd: Partneriaeth ac Arloesi gyda’i gilydd
11 Rhagfyr 2024Bellach, mae adborth myfyrwyr yn amhrisiadwy wrth greu cyd-destunau dysgu effeithiol ym myd addysg heddiw. Yn y blog yma mae Marianna a Punsisi o’n tîm Addysg Ddigidol yn myfyrio ar bartneriaethau rhwng myfyrwyr a’r Academi Dysgu ac Addysgu (Academi DA).
Yn sgil barn ein myfyrwyr yn ddiweddar, rydyn ni wedi dod o hyd i gyfle o gryn bwys, sef gwella’r berthynas rhwng canllawiau ac adnoddau cymorth addysg ddigidol a’r graddau y bydd myfyrwyr yn eu defnyddio. Nid galwad i weithredu yn unig yw’r adborth hwn; mae’n ein hatgoffa o bwysigrwydd cydweithio academaidd. Gan gydnabod yr angen am welliant, mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi cynllun sy’n gosod y myfyrwyr wrth galon yr ateb. Bydd y blogiad hwn yn trafod cysyniad grymus creu ar y cyd â myfyrwyr, gan amlygu’r bartneriaeth ddeinamig rhwng myfyrwyr ac Academi DA. Gyda’n gilydd, rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu adnoddau arloesol, adnewyddu ein canllawiau cymorth offer digidol a chynnig awgrymiadau sgiliau astudio ymarferol wedi’u teilwra i brofiadau myfyrwyr go iawn. Mae’r cydweithio hwn yn cyd-fynd yn ddi-dor â nodau strategol y Brifysgol, gan bwysleisio rôl hollbwysig cydweithio, mynd ati i geisio adborth myfyrwyr a meithrin cyfleoedd i greu ar y cyd. Mae cynllun y Myfyrwyr Hyrwyddo yn chwarae rhan sylweddol yn y broses hon.
Pryd dechreuodd y cyfan a’r cynnydd a wnaed hyd yn hyn
Datblygodd yr Academi Gynllun Myfyrwyr Hyrwyddo i gefnogi rhagoriaeth dysgu ac addysgu a gwella profiad y myfyrwyr. Mae’r Myfyrwyr Hyrwyddo yn gweithio mewn partneriaeth â’r staff i ddatblygu a llunio cyd-destun dysgu ac addysgu yn ogystal â phrofiad y myfyrwyr yn gyffredinol. Maen nhw’n dod o ysgolion gwahanol ac felly yn meddu ar lawer o syniadau a phrofiadau gwahanol. Mae tîm Addysg Ddigidol yr Academi wedi gweithio gyda nhw ers 2018 ar bedwar prosiect. Nod y tîm addysg ddigidol yw gwella profiad myfyrwyr drwy’r cymorth y mae’r Brifysgol yn ei roi i’r offer a’r platfformau digidol. Drwy ymuno â’r Myfyrwyr Hyrwyddo, rydyn ni’n gwella’r adnoddau dysgu sydd ar gael ac yn grymuso’r gymuned academaidd ac yn meithrin cyd-destun lle gall myfyrwyr a staff ffynnu. Hyd yma, rydym wedi cyflawni cyfanswm o 26 o brosiectau addysg ddigidol i gyflawni’r nod hwn ers 2018, ac wedi gweithio gyda 38 o fyfyrwyr ar rhain. Mae’r prosiect Hyrwyddwyr Myfyrwyr wedi wedi cynnyddu yn sylweddol ers 2018, gyda 12 o fyfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf, a dros 35 erbyn hyn.
Eleni, fodd bynnag, buon ni’n canolbwyntio ar yr hyn y mae myfyrwyr ei eisiau, sef y cymorth y maen nhw’n dymuno ei gael at y flwyddyn nesaf. Nododd y Myfyrwyr Hyrwyddo yr angen i gyfoethogi a gwella’r adnoddau cymorth i fyfyrwyr. Roedd hyn yn ei gwneud yn amlwg nad oedd y flaenoriaeth i’r myfyrwyr yn flaenoriaeth inni felly. Roedden ni eisiau canfod y bylchau yn yr adnoddau cymorth i fyfyrwyr gan ddefnyddio grwpiau ffocws. Daethon ni ar draws llawer o atebion fel “Dwi ddim yn gwybod,” “Dydw i ddim yn siŵr,” “Rwy’n gofyn i bobl eraill fel arfer,” neu “Ei mentro hi bydda i.” Roedd un peth, fodd bynnag, yn gyson yn yr adborth hwn: y diffyg adnoddau cymorth a ysgrifennwyd gan y myfyrwyr eu hunain.
Y newidiadau a’r gwelliannau penodol a wnaed i wella cymorth yr offer digidol yw:
- Ailysgrifennu canllawiau cymorth yr offer digidol
- Rhoi awgrymiadau defnyddiol ar Ddysgu Canolog (Nodau tudalen a sgriniau sy’n dangos awgrymiadau da’r wythnos)
- Templed sleidiau ymsefydlu i’r ysgolion
Grym Cynnwys y Myfyrwyr
Mae’r tasgau mae myfyrwyr wedi bod yn rhan ohonynt wedi amrywio, ac yn cynnwys:
- Dylunio arolwg
- Ymchwil
- Grwpiau ffocws
- Rhedeg stondinau a ffeiriau casglu adborth
- Creu cynnwys
- Ymgysylltu â staff
- Dadansoddi data
- Awgrymiadau a mewnwelediad
Mae’r budd y mae myfyrwyr yn ei gael o gymryd rhan yn cynnwys:
- Hwyl
- Cysylltiadau newydd
- Archwilio’r hyn mae ysgolion yn ei gynnig
- Gwella sgiliau cyfweld
- Dysgu egwyddorion rhedeg prosiect
- Bod yn rhan o dîm
Myfyrio a’r dyfodol
Mae grymuso myfyrwyr a rhoi llais iddyn nhw wrth wraidd ein ffordd o weithio. Rydyn ni wedi meithrin ymdeimlad o berthyn a dilysu myfyrwyr drwy ganiatáu iddyn nhw roi eu barn a’u syniadau. Mae hyn wedi cyfoethogi eu profiad addysgol ac wedi cryfhau ein cymuned.
Rydyn ni wedi rhoi ‘dolen adborth gaeedig’ ar waith, sef mynd ati i geisio adborth myfyrwyr, gwneud yr addasiadau angenrheidiol a rhannu’r gwelliannau â’r myfyrwyr. Mae hyn yn sicrhau bod myfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael gwrandawiad a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi. Rydyn ni wedi mireinio ein cynnwys i adleisio rhythm ac arddull y myfyrwyr, gan sicrhau ei fod yn addysgiadol tra’n cyd-fynd â’r ffordd y mae’r myfyrwyr yn dysgu. Yn dilyn y broses gysoni hon, mae ein hadnoddau’n fwy effeithiol ac yn fwy deniadol.
Fodd bynnag, dysgon ni hefyd nad oedd llunio llu o ganllawiau bob amser yn ddefnyddiol. Daeth yn amlwg bod angen ar y myfyrwyr wybod sut i gyrchu a dod o hyd i’r adnoddau hyn. I fynd i’r afael â hyn, symleiddion ni ein pecyn ymsefydlu i gynnig adnodd cynhwysfawr ond un y gellid ei addasu i ysgolion.
Yn y dyfodol, byddwn ni’n canolbwyntio ar wella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI). Ein nod yw creu Cynefin drwy gynnig addysg lle bydd pob myfyriwr yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a’i gefnogi, waeth beth fo’i gefndir. I gyflawni hyn, byddwn ni’n cynnwys y myfyrwyr mewn sesiynau tasgu syniadau i ddod o hyd i broblemau a mynd i’r afael â nhw. Mae eu hadborth a’u profiadau yn amhrisiadwy wrth lunio fframwaith addysgol mwy cynhwysol a theg.
Casgliad
Mae’r broses o greu ar y cyd â myfyrwyr wedi bod yn drawsnewidiol. Drwy gynnwys myfyrwyr hyrwyddo, datblygon ni ganllaw yr Academi ar arferion da yn ogystal â deunyddiau diddorol a pherthnasol eraill. Mae’r bartneriaeth hon wedi meithrin ymdeimlad o gymuned a pharch gan bawb at ei gilydd, gan wella’r profiad addysgol i bawb yn y pen draw. Edrychwn ymlaen at barhau â’r ffordd hon o gydweithio, gan sicrhau bod ein hadnoddau’n parhau i ddiwallu anghenion cyfnewidiol y myfyrwyr.