Gwella hygyrchedd capsiynau darlithoedd
21 Tachwedd 2024Cyflwyniad
Yn yr amgylchedd dysgu amrywiol sydd ohoni, mae sicrhau bod pob recordiad yn hygyrch i bob myfyriwr yn bwysicach nag erioed. Mae llawer o fyfyrwyr yn dibynnu ar y recordiadau hyn, ac i’r myfyrwyr hynny sydd ag anabledd neu’r rhai nad ydyn nhw’n siarad Saesneg yn iaith gyntaf, mae nodweddion hygyrchedd megis capsiynau caeëdig yn amhrisiadwy.
Mae capsiynau caeëdig ac is-deitlau nid yn unig yn ddefnyddiol i fyfyrwyr â nam ar eu clyw. Maen nhw hefyd yn ddefnyddiol i fyfyrwyr sydd ag anawsterau dysgu, myfyrwyr sydd ag anawsterau prosesu clywedol a myfyrwyr rhyngwladol y gallai fod angen cymorth iaith ychwanegol arnyn nhw. Yn y canllaw hwn, byddwn ni’n trin a thrafod yr offer sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd i’ch helpu i wneud y recordiadau o’ch darlithoedd yn fwy cynhwysol.
Offer ar gyfer galluogi capsiynau caeëdig
Mae’r canllaw hwn yn esbonio sut i alluogi capsiynau caeëdig gan ddefnyddio tri phlatfform sy’n cael eu defnyddio’n aml ym Mhrifysgol Caerdydd:
- Panopto: Mae Panopto yn defnyddio proses trawsgrifio gan beiriant i greu capsiynau’n awtomatig. Mae’r opsiwn ar gael i olygu’r capsiynau er mwyn sicrhau eu bod yn gywir.
- Microsoft Teams: Mae Microsoft Teams yn cynnig capsiynau byw yn ystod cyfarfodydd. Mae’r capsiynau ar gael i’w hadolygu a’u lawrlwytho ar ôl y sesiwn.
Mae gan bob platfform offer integredig sy’n ei gwneud hi’n haws ychwanegu capsiynau. Mae hyn yn eich helpu i greu cynnwys hygyrch heb lawer o ymdrech.
Recordiadau Panopto
Panopto yw un o’r prif blatfformau ym Mhrifysgol Caerdydd ar gyfer recordio darlithoedd a gweithgareddau addysgu wyneb-yn-wyneb. Mae’r nodwedd adnabod llais yn awtomatig yn creu capsiynau ar gyfer recordiadau, sy’n ei gwneud hi’n haws gwella hygyrchedd ar ôl darlith.
Sut i alluogi a golygu capsiynau yn Panopto:
- Agorwch eich fideo yn Panopto.
- Cliciwch ‘Golygu’ i weld y sgrîn golygu.
- Dewiswch ‘Capsiynau’ yn y ddewislen ar y chwith.
- Dewiswch ‘Mewnforio capsiynau’ yn newislen ‘Capsiynau’.
- Ewch ati i adolygu a golygu’r capsiynau i wella eu cywirdeb. Pan fyddwch chi’n fodlon ar y capsiynau, cliciwch ‘Cyhoeddi’.
Awgrym: Mae capsiynau awtomatig Panopto tua 70-75% yn gywir. Felly, syniad da yw adolygu ac addasu’r capsiynau, yn enwedig termau technegol neu enwau y gallai’r system eu camddehongli.
I gael arweiniad manylach, edrychwch ar yr adnoddau defnyddiol hyn:
Microsoft Teams
Mae Microsoft Teams yn cynnig capsiynau byw yn ystod cyfarfodydd, sy’n helpu myfyrwyr i ddilyn yr hyn sy’n cael ei drafod mewn amser real. Ar ôl cyfarfod wedi’i recordio, mae’r capsiynau’n cael eu creu’n awtomatig, a bydd modd eu hadolygu a’u lawrlwytho.
Galluogi capsiynau byw yn ystod cyfarfod Microsoft Teams:
- Yn ystod eich cyfarfod, cliciwch ar y tri dot ‘Mwy’ ar frig y sgrîn.
- Dewiswch ‘Dangos capsiynau byw’ yn y gwymplen.
- Bydd capsiynau byw yn ymddangos ar waelod y sgrîn ac yn dangos beth sy’n cael ei ddweud mewn amser real.
Mae capsiynau byw yn arbennig o ddefnyddiol i fyfyrwyr sy’n cael trafferth dilyn cynnwys llafar. Er bod y capsiynau hyn yn cael eu cynhyrchu gan ddeallusrwydd artiffisial, gall eu cywirdeb amrywio gan ddibynnu ar ffactorau megis acen a sŵn cefndir.
Galluogi capsiynau ar gyfer cyfarfodydd wedi’u recordio yn Microsoft Teams:
- Ewch i Microsoft Stream (lle mae recordiadau o gyfarfodydd Microsoft Teams yn cael eu storio).
- Dewiswch y cyfarfod rydych chi am ei gapsiynu.
- Wrth ymyl y fideo, dewiswch ‘Gosodiadau fideo’ ac yna ‘Trawsgrifiad a chapsiynau’.
- Cliciwch ‘Cynhyrchu’.
- Gallwch chi lawrlwytho’r trawsgrifiad a’i adolygu er mwyn sicrhau ei fod yn gywir. Mae capsiynau wedi’u cynhyrchu gan ddeallusrwydd artiffisial mewn cyfarfodydd Microsoft Teams fel arfer tua 80-85% yn gywir, ond gallwch chi gywiro unrhyw gamgymeriadau â llaw yn Microsoft Stream.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler yr erthygl ar ddefnyddio capsiynau yn Microsoft Teams.
Casgliad
Nid dim ond mater o gydymffurfio yw sicrhau bod recordiadau o ddarlithoedd a gweithgareddau addysgol eraill yn hygyrch; mae’n ymwneud â meithrin amgylchedd dysgu cynhwysol lle gall pob myfyriwr lwyddo. Drwy ddefnyddio offer megis Panopto a Microsoft Teams, a defnyddio capsiynau caeëdig yn eich recordiadau , rydych chi’n gwella’r profiad dysgu i bawb.
Rydyn ni’n annog pob aelod o’r staff i flaenoriaethu hygyrchedd wrth baratoi deunyddiau dysgu. Os bydd angen rhagor o gymorth arnoch chi, mae ein tîm Addysg Ddigidol a’r Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr yma i ateb unrhyw gwestiynau neu gynorthwyo ag anghenion hyfforddiant. Hefyd, sicrhewch eich bod yn darllen ein Polisi Recordio Gweithgareddau Addysgol i gael rhagor o wybodaeth am arfer gorau a chydymffurfio.