Digwyddiad Dathlu Rhaglenni Cymrodoriaethau Addysg
1 Awst 2025
Mae’r Rhaglenni’r Cymrodoriaethau Addysg yn rhoi’r cyfle i gydweithwyr ddatblygu eu hymarfer proffesiynol ac ennill cydnabyddiaeth am eu gweithgareddau dysgu ac addysgu.
Daeth dros 100 o staff academaidd a staff y gwasanaethau proffesiynol at ei gilydd ddydd Iau 10 Gorffennaf i ddathlu eu llwyddiant wrth ennill cymrodoriaeth addysg.
Yn y digwyddiad bywiog haf gyda’r nos rhannodd y rhai a enillodd Cymrodoriaeth ac enillwyr gwobrau eraill gyflwyniadau cyflym ar eu gyrfaoedd, yr hyn sy’n eu hysbrydoli a’u hathroniaeth addysg. Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Gysylltiol i 32 o gydweithwyr, Cymrodoriaeth i 45 ohonyn nhw a ac Uwch Gymrodoriaeth i 22.
Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys cyflwyniad Cymrodoriaeth Addysgu Cenedlaethol i Daniel Bickerton (Ysgol Cerddoriaeth), yn ogystal â chyflwyniad y rhai a ddyfarnwyd Prif Gymrodoriaeth iddyn nhw. Yn 2024-25, dyfarnwyd Prif Gymrodoriaeth i Diana De (HCARE), Liz Forty (MEDIC), Nigel Francis (BIOSI), Stephen Rutherford (BIOSI) a Helen Williams (Deon Llwyddiant Myfyrwyr) ar sail eu record barhaus o effeithiolrwydd wrth arwain dysgu o ansawdd uchel yn strategol. Dyma’r nifer uchaf o Brif Gymrodoriaethau a ddyfarnwyd erioed i staff Prifysgol Caerdydd.
Mae cymryd amser i ddathlu llwyddiant a gwaith caled cydweithwyr sydd wedi ennill eu Cymrodoriaethau ar bob lefel wedi bod yn uchafbwynt i gymuned y Brifysgol ac yn agwedd ar y ddarpariaeth sydd wedi arwain at y Rhaglenni Cymrodoriaeth yn cael eu nodi yn rhai sy’n arwain y sector.






