Defnyddio Delweddau mewn Modiwlau Dysgu
7 Tachwedd 2024Ysgrifennwyd y blog hwn gan Colan Hughes yn yr Ysgol Cemeg.
Rwy’n darlithio ym Mlwyddyn 1 ym maes cemeg ffisegol a mathemateg, a fi yw cynullydd y modiwl mathemateg. Rwy hefyd yn arddangosydd ymarferion labordy ac yn diwtor personol.
Mae rhai myfyrwyr ym Mlwyddyn 1 yn cael trafferth dod o hyd i ymarferion ac aseiniadau penodol wrth ddechrau defnyddio Dysgu Canolog. Rhennir modiwl Mathemateg i Gemegwyr Blwyddyn 1 yn ddeg pwnc gwahanol y bydd y myfyrwyr yn eu hastudio dros gyfnodau o bythefnos. Felly mae’n ddefnyddiol iawn i’r myfyrwyr wybod hyd sicrwydd pa ddeunyddiau dysgu sy’n perthyn i’r pynciau gwahanol. Gan ddefnyddio Modiwlau Dysgu yn hytrach na Ffolderi ar gyfer y pynciau, mae modd atodi delwedd lliw syml ar ben y Modiwl Dysgu. Bydd hyn yn caniatáu i’r myfyrwyr ddod o hyd i’r cynnwys yn haws ac, yn enwedig, yn eu helpu i weld ble bydd un pwnc yn gorffen a’r un nesaf yn dechrau.
Rhowch gynnig arni
Mae’r fideo isod yn eich arwain trwy’r broses:
Cymerwch ran
Mae arnon ni angen ragor o ffrindiau beirniadol o bob rhan o’r Brifysgol (staff academaidd a staff y Gwasanaethau Proffesiynol) i roi adolygiadau gonest ar y diweddariadau a’r nodweddion newydd. Cysylltwch os oes gennych chi ddiddordeb.
Os oes gennych chi gwestiynau, mae angen cyngor arnoch chi neu os oes gennych chi syniadau am flogiau yn y dyfodol, cysylltwch â ni yn yr Academi Dysgu ac Addysgu gan e-bostio: LTAcademy@caerdydd.ac.uk