Skip to main content

Addysg Gynhwysol

Deall Addysg Gynhwysol: Egwyddorion Allweddol i Ymarfer

6 Mawrth 2026

Y Cyd-destun

Pan rydyn ni’n siarad am addysg gynhwysol, rydyn ni mewn gwirionedd yn sôn am gynllunio dysgu fel bod pob myfyriwr, waeth beth fo’i gefndir, ei hunaniaeth neu ei amgylchiadau, yn gallu cymryd rhan yn ystyrlon. Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae’r syniad hwn yn tynnu ar ddisgrifiad Hockings (2010) o gynhwysiant fel gweithred fwriadol o ddylunio: llunio addysgu, cwricwlwm ac asesu mewn ffyrdd sy’n cefnogi pob myfyriwr i ymgysylltu, teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a llwyddo.

Pwynt allweddol yma yw nad yw amrywiaeth yn cael ei thrin fel problem i’w datrys, ond fel cryfder sy’n cyfoethogi ein hamgylcheddau dysgu. Mae addysg gynhwysol hefyd yn mynd y tu hwnt i weithredoedd darlithwyr unigol. Mae’n gofyn i bob un ohonon ni, fel sefydliad, ystyried sut y gall ein systemau, ein harferion a’n rhagdybiaethau greu rhwystrau i bresenoldeb, cyfranogiad, cyflawniad ac ymdeimlad o berthyn myfyrwyr – ac i weithio gyda’n gilydd i’w dileu.

Gweithredu

Yng Nghaerdydd, mae ein Fframwaith Addysg Gynhwysol yn helpu cydweithwyr i gymryd camau ymarferol tuag at y nod hwn. Mae’n ein hannog i feddwl ymlaen llaw am yr anghenion gwahanol a allai fod gan fyfyrwyr, yn hytrach nag aros nes bod problemau’n codi.

Yn ymarferol, gallai hyn olygu cynnig deunyddiau dysgu mewn gwahanol fformatau, creu cyfleoedd i fyfyrwyr gymryd saib, myfyrio a gwneud cysylltiadau, neu gynnwys enghreifftiau sy’n adlewyrchu hunaniaethau a phrofiadau amrywiol. Mae’r Fframwaith hefyd yn tynnu ar Ddylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL), sy’n pwysleisio ffyrdd hyblyg i fyfyrwyr ymgysylltu â chynnwys, dangos eu dysgu a chymryd rhan yn y dosbarth. Caiff y syniadau hyn eu hystyried ymhellach yn y Pecyn Cymorth Datblygu Addysg

Mae’r nod cyffredinol yn syml: creu amgylcheddau dysgu lle gall cynifer o fyfyrwyr â phosibl ffynnu heb fod angen cymorth ychwanegol.

Effaith

Pan fydd yr egwyddorion dylunio cynhwysol hyn wedi’u hymgorffori’n gyson, mae’r manteision yn ymestyn ar draws y garfan gyfan. Rydyn ni’n dechrau mynd i’r afael ag anghydraddoldebau parhaus ym mhrofiad myfyrwyr, ac rydyn ni’n lleihau’r tensiwn y mae rhai myfyrwyr (yr un grwpiau yn aml, flwyddyn ar ôl blwyddyn) yn ei wynebu wrth ymdopi ag addysg uwch. Mae’n bwysig nodi, nid yw arfer cynhwysol yn gostwng disgwyliadau; mae’n ehangu’r llwybrau y gall myfyrwyr eu bodloni.

Myfyrdodau / Beth sydd nesaf?

Mae addysg gynhwysol yn tyfu trwy newidiadau bach, meddylgar. Cyfarwyddiadau cliriach. Dewis o fformatau. Gwahoddiad i fyfyrwyr gynnig eu safbwyntiau. Munud i wirio a allai rhywbeth yn ein haddysgu fod yn eithrio rhywun yn anfwriadol. Mae Model Gwella Caerdydd yn cefnogi cydweithwyr yn y gwaith hwn – gan gynorthwyo i fyfyrio ar ymarfer a gosod targedau ystyrlon at ddatblygiad parhaus.

Mae’r addasiadau hyn yn creu mannau dysgu sy’n teimlo’n fwy agored, ystyriol a chefnogol.

Man cychwyn

I ysgogi syniadau, dyma ambell i gwestiwn i’ch helpu i fyfyrio ar gynwysoldeb yn eich cyd-destun eich hun:

  • Pa dybiaethau y gallai eich gweithgareddau addysgu eu gwneud am amser, adnoddau neu wybodaeth flaenorol myfyrwyr?
  • Ble allech chi gyflwyno ail, neu drydydd, ffordd o ymgysylltu â thasg, darlleniad neu drafodaeth?